Carles Puigdemont
Roedd Carles Puigdemont Casamajó yn Arlywydd Catalwnia rhwng Ionawr 2016 a Hydref 2017.
Carles Puigdemont Casamajó | |
---|---|
Arlywydd Catalwnia | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 10 Ionawr 2016 | |
Rhagflaenwyd gan | Artur Mas i Gavarró |
Maer Girona | |
Yn ei swydd 1af Gorff. 2011 – 11 Ionawr 2016 | |
Rhagflaenwyd gan | Anna Pagans i Gruartmoner |
Dilynwyd gan | Isabel Muradàs i Vázquez |
Aelod o Lywodraeth Catalwnia | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 10th Tachwedd 2006 | |
Etholaeth | Girona |
Llywydd Associació de Municipis per la Independència | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 17eg Gorff. 2015 | |
Rhagflaenwyd gan | Josep Maria Vila d'Abadal |
Manylion personol | |
Ganwyd | Amer, Catalwnia | 29 Rhagfyr 1962
Cenedligrwydd | Catalwnia Catalan |
Plaid wleidyddol | Convergència Democràtica de Catalunya |
Priod | Marcela Topor |
Plant | Magalí Maria |
Alma mater | Prifysgol Girona |
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Bywyd cynnar
Fe'i ganed yn un o wyth o blant yn nhref Amer, (Talaith Girona) ar 29 Rhagfyr 1962,[1] ac mae'n byw yn Girona gyda'i wraig Marcela Topor a dwy ferch: Magalí a Maria.[2][3]
Gyrfa
Rhwng 10 Ionawr 2016 a 28 Hydref 2017 ef oedd Arlywydd Catalwnia, yn dilyn cytundeb rhwng Junts pel Sí ('Ie dros Gatalwnia!') a Candidatura d'Unitat Popular, CUP, dwy blaid sy'n hybu annibyniaeth i'r genedl.[4][5]
Bu'n aelod o Lywodraeth Catalwnia ac yn gyn-arweinydd y Llywodraeth honno (cyn iddo gael ei benodi'n Arlywydd) ac mae'n gyn-faer Girona.[6]
Yn dilyn camau Sbaen ar 28 Hydref 2017, nid yw'n cael ei gyflogi fel Arlywydd Catalwnia.[7]
Yn 2018, fe gwrddodd a Leanne Wood arweinydd Plaid Cymru â Puigdemont yn Brussels gan ddweud “Roedd yn anrhydedd cwrdd â’r Arlywydd Puigdemont a mynegi undod â phobl Catalwnia yn eu hymgyrch dros annibyniaeth” gan ychwanegu, "Mae’r Arlywydd, ei Weinidogion a llawer o bobl Catalwnia wedi dioddef gormes gwladwriaeth Sbaen."[8]
Ym mis Medi 2021, cafodd Puigdemont ei arestio yn yr Eidal a'i ddal yn Sardinia, pedair blynedd ers ffoi o Sbaen ar ôl i lywodraeth Sbaen gyhoeddi fod y refferendwm annibyniaeth Catalwnia yn "anghyfansoddiadol".[9] Cafodd Puigdemont ei ryddhau o'r carchar ar ôl un noson.[10]