Neidio i'r cynnwys

Pontypridd

Oddi ar Wicipedia
Pontypridd
Mathtref Edit this on Wikidata
Poblogaeth31,206 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTref Pontypridd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawAfon Taf Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5967°N 3.3368°W Edit this on Wikidata
Cod OSST075895 Edit this on Wikidata
Cod postCF37 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMick Antoniw (Llafur)
AS/auAlex Davies-Jones (Llafur)
Map

Tref a chymuned yn Rhondda Cynon Taf, de Cymru, yw Pontypridd. Mae wedi ei lleoli tua deuddeg milltir i’r gogledd o Gaerdydd, a chanddi boblogaeth o tua 33,000. Mae Llundain yn 224.1 km.

Yn ôl cyfrifiad 2001, mae 13.9% o boblogaeth Pontypridd yn medru’r Gymraeg, 21.3% ag un neu ragor o fedrau yn Gymraeg, a thua chwarter plant oedran addysg gynradd y dref yn mynychu ysgolion Cymraeg.

Deillia enw’r dref o 'Pont y tŷ pridd'. Yn ôl hanes lleol, safai tŷ traddodiadol wedi ei wneud o bren, gwrysg a phridd ar lan Afon Taf, a dyma’r enw a roddwyd i’r nifer o bontydd a godwyd dros yr afon (gweler Ifor Williams, Enwau Lleoedd, tud. 56). Erbyn heddiw, Ponty yw’r enw a ddefnyddir gan drigolion yr ardal wrth gyfeirio at y dref ar lafar. Mae hi hefyd yn efeilldref gyda Nürtingen, yn yr Almaen.

Y Bontgolygu cod

Pontypridd: yr Hen Bont

Honnir i bont Pontypridd fod ymhlith y rhai enwocaf yng Nghymru, ac yn 2006, yr oedd hi’n dathlu 250 o flynyddoedd ers ei chodi. Pan y’i codwyd hi, hon oedd y bont rhychwant sengl hiraf yn y byd. Adeiladwyd y bont gan ŵr o’r enw William Edwards (1719-1789)[1] a oedd yn weinidog Anghydffurfiol a saer maen hunan-ddysgedig.

Pont Pontypridd oedd ei greadigaeth fwyaf poblogaidd, a adeiladwyd rhwng 1746 a 1754. Roedd hi’n bont mor hir (yn pontio 140 troedfedd) nes iddi gymryd tair neu bedair ymgais i’w chodi yn llwyddiannus. Yn ôl rhai, dyma oedd tarddiad y dywediad “Tri chynnig i Gymro”.

Golchwyd y gyntaf, a wnaed o bren, i ffwrdd gan lifogydd, a chwympodd yr ail, a’r drydedd, a wnaed o gerrig, wrth eu hadeiladu oherwydd y pwysau. Cafodd y bont olaf ei gwneud o gerrig yn ogystal, ond y tro hwn yr oedd hi’n llawer ysgafnach. Ynddi roedd chwe thwll mawr, tri bob ochr gyda diamedr o 9, 6 a 3 troedfedd. Cafodd William Edwards dâl o £500 ar yr amod y byddai’r bont yn sefyll am saith mlynedd.

William Edwards, yr Adeiladydd

Diwydiantgolygu cod

Adeiladwyd camlas Morgannwg ar ddiwedd y 18g, gan gyrraedd Pontypridd yn 1794. Dyma oedd dechrau datblygiad diwydiannol Pontypridd. Cafwyd twf aruthrol ym Mhontypridd yn sgil twf diwydiannau Cymoedd Rhondda. Pontypridd, wrth aber afon Rhondda, a ddaeth yn brif dref farchnad yr ardal. Prif ffatri’r dref oedd gwaith cadwynau Brown Lenox, a ddechreuwyd yn 1816.[2]

Clwb y Bontgolygu cod

Mae Clwb y Bont yn glwb cymdeithasol ar ffurf tafarn a gafodd ei sefydlu yn 1983 ac wedi ei leoli ar lan Afon Taf. Sefydlwyd y clwb i hybu Cymreictod yr ardal ydoedd, gan roi cyfle i siaradwyr Cymraeg yr ardal gwrdd â’i gilydd. Ceir llawer o fandiau yn chwarae yno ar benwythnosau. Mae ystafell gyfarfod uwchben y clwb lle cynhelir gwersi Cymraeg a dosbarthiadau llên.

Corau Cymraeg yr Ardalgolygu cod

Côr Godre’r Garthgolygu cod

Mae Côr Godre'r Garth yn gôr cymysg gyda 60 o aelodau. Mae'r côr yn ymarfer yn Efail Isaf a daw'r aelodau o ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, y Rhondda a Chwm Rhymni yn ogystal â Thaf Elái.

Ffurfiwyd y côr yn 1974 gyda'r nod o hybu Cymreictod mewn ardal oedd, yr adeg honno, ar fin colli'r iaith yn llwyr. Denwyd nifer o ddysgwyr i rengoedd y Côr a bu'n fodd i nifer i loywi eu hiaith.[3]

Eisteddfodaugolygu cod

Mae Pontypridd wedi cynnal dau Eisteddfod, yn 1893 ac mi fydd yn cynnal Eisteddfod 2024 hefyd.

Cangen Merched y Wawrgolygu cod

Sefydlwyd cangen Pontypridd o Ferched y Wawr yn y flwyddyn 2008. Rhyw 20 o aelodau sydd i'r gangen.[4]

Preswylwyr enwoggolygu cod

Cyfrifiad 2011golygu cod

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pontypridd (pob oed) (32,694)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pontypridd) (3,978)
  
12.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pontypridd) (26754)
  
81.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Pontypridd) (5,478)
  
40.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Eisteddfod Genedlaetholgolygu cod

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd ym 1893. Am wybodaeth bellach gweler:

Gefeilldrefgolygu cod

Gweler hefydgolygu cod

Cyfeiriadaugolygu cod

🔥 Top keywords: Main PageSpecial:SearchWikipedia:Featured picturesYasukeHarrison ButkerRobert FicoBridgertonCleopatraDeaths in 2024Joyce VincentXXXTentacionHank AdamsIt Ends with UsYouTubeNew Caledonia2024 Indian general electionHeeramandiDarren DutchyshenSlovakiaKingdom of the Planet of the ApesAttempted assassination of Robert FicoLawrence WongBaby ReindeerXXX: Return of Xander CageThelma HoustonFuriosa: A Mad Max SagaMegalopolis (film)Richard GaddKepler's SupernovaWicked (musical)Sunil ChhetriXXX (2002 film)Ashley MadisonAnya Taylor-JoyPlanet of the ApesNava MauYoung SheldonPortal:Current eventsX-Men '97