287 CC

blwyddyn

4g CC - 3g CC - 2g CC
330au CC 320au CC 310au CC 300au CC 290au CC - 280au CC - 270au CC 260au CC 250au CC 240au CC 230au CC
292 CC 291 CC 290 CC 289 CC 288 CC - 287 CC - 286 CC 285 CC 284 CC 283 CC 282 CC


Digwyddiadau

  • Pyrrhus, brenin Epirus yn cipio dinas Verroia ym Macedonia. Mae byddin Demetrius Poliorcetes yn troi i gefnogi Pyrrhus. Cyhoeddir Pyrrhus yn frenin Macedonia.
  • Mae Demetrius yn gadael ei fab, Antigonus, i barhau'r rhyfel yng Ngroeg, ac yn ymosod ar Caria a Lydia yn Asia Leiaf, sydd dan reolaeth Lysimachus.
  • Agathocles, mab Lysimachus, yn gorchfygu Demetrius, a'i yrru allan o daleithiau ei dad.
  • Yn Rhufain, mae'r Lex Hortensia yn rhoi mwy o rym i Gynulliad y plebiaid yn erbyn y Senedd.

Genedigaethau

  • Archimedes, gwyddonydd Groegaidd (tua'r dyddiad yma)

Marwolaethau

  • Phila, merch Antipater, rheolwr Macedonia
  • Theophrastus, athronydd Peripatetig Groegaidd. disgybl Aristoteles