Cymru
Mae Cymru (Saesneg: Wales; Cernyweg: Kembra) yn wlad Geltaidd yn Ewrop. Gyda'r Alban, Cernyw, Gogledd Iwerddon a Lloegr,[1] mae Cymru wedi'i hawlio gan Loegr ers Oes y Tywysogion, ac yn rhan o'r Deyrnas Unedig. Cymraeg yw iaith frodorol y wlad ond siaredir Saesneg gan y mwyafrif helaeth o'i dinasyddion erbyn heddiw; gall oddeutu 19% o'i phoblogaeth siarad Cymraeg.
Arwyddair | "Cymru am byth", "Y Ddraig Goch Ddyry Cychwyn", "Banner Dewi Sant" |
---|---|
Math | Gwlad |
Prifddinas | Caerdydd |
Poblogaeth | 3,107,500 (2021) |
Sefydlwyd | Ymadawiad Macsen Wledig yn 383 CC Unwyd gan Gruffydd ap Llywelyn yn 1057Diffiniwyd fel tiriogaeth eto yn 1967 Datganoli yn 1998 |
Anthem | Hen Wlad fy Nhadau |
Pennaeth llywodraeth | Vaughan Gething |
Cylchfa amser | UTC±00:00 |
Nawddsant | Dewi Sant |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Cymraeg, Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | cenhedloedd Celtaidd |
Sir | 22 o siroedd |
Arwynebedd | 21,218 km² |
Yn ffinio gyda | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.35°N 3.63°W |
Cod SYG | W92000004 |
"Gwlad" | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Cymru |
Corff deddfwriaethol | Senedd Cymru |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | teyrn y Deyrnas Unedig |
Pennaeth y wladwriaeth | Siarl III |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Cymru |
Pennaeth y Llywodraeth | Vaughan Gething |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | £0 million |
Arian | punt sterling |
- Gweler hefyd: Cymru (gwahaniaethu)
Mae Cymru yn ffinio â Lloegr i'r dwyrain a'r moroedd; Môr Hafren, Y Môr Celtaidd a Môr Iwerddon. Roedd gan Gymru boblogaeth o 3,107,500 yn 2021[2] ac mae ganddi arwynebedd o 20,779 km2 (8,023 mi). Mae gan Gymru dros 2,700 km (1,700 mi) o arfordir ac mae'n fynyddig ar y cyfan. Mae gan Gymru fynyddoedd talach yn y gogledd a'r canoldir, gan gynnwys yr Wyddfa, ei chopa uchaf, yn Eryri. Mae'r wlad o fewn y ardal tymheredd y gogledd ac mae ganddi hinsawdd forwrol. Y brifddinas a'r ddinas fwyaf yw Caerdydd.
Daeth hunaniaeth genedlaethol Gymreig i'r amlwg fel Brythoniaid Celtaidd ar ôl i Macsen Wledig (Magnus Maximus) a'r Rhufeiniaid adael Ynys Brydain yn y 5ed ganrif. Datblygodd ystyrir Cymru fel gwlad Celtaidd modern yn oes tywysogion Cymru. Bu farw twywysog olaf Cymru, Llywelyn ein Llyw Olaf (Llywelyn ap Gruffudd) yn 1282, a olygodd cwblhad gorchfygiad Cymru gan Edward I, brenin Lloegr.
O 1400-1410 ailenillodd Owain Glyndŵr annibyniaeth i Gymru. Ar ôl hynny cafodd Cymru ei hatodi gan Loegr a'i hymgorffori o fewn cyfundrefn gyfreithiol Lloegr o dan Ddeddfau Cyfreithiau Cymru 1535 a 1542. Datblygodd gwleidyddiaeth Gymreig nodedig yn y 19eg ganrif, yn arbennig yn gysylltiedig â Rhyddfrydiaeth Gymreig. Amlygwyd hyn ar ddechrau'r 20fed ganrif gan David Lloyd George, ond cafodd ei ddadleoli gan dwf sosialaeth a sefydlwyd Llafur Cymru erbyn 1947. Roedd Lloyd George yn ymgyrchu yn gryf dros ddatganoli i Gymru yn ei yrfa cynnar a thyfodd teimlad cenedlaethol Cymreig dros y ganrif. Ffurfiwyd Plaid Cymru yn 1925, a Chymdeithas yr Iaith yn 1962. Enillodd datganoli Cymreig fomentwm yn ystod yr 20fed ganrif ac yn dilyn refferendwm datganoli Cymreig 1997, ffurfiwyd y Cynulliad yn 1999, ac mae wedi ennill mwy o ddatganoli ers hynny ail hail-henwi yn Senedd Cymru yn 2020. Daeth mudiad cryfach dros annibyniaeth i Gymru i’r amlwg erbyn 2017, pan drafodwyd ail refferendwm annibyniaeth i'r Alban. Daeth grwpiau o blaid annibyniaeth, megis YesCymru yn boblogaidd yn yr 21ain ganrif, er nad yw annibyniaeth yn cael ei chefnogi gan fwyafrif yng Nghymru.
Ar ddechrau’r chwyldro diwydiannol yng Nghymru, trawsnewidiodd datblygiad y diwydiannau mwyngloddio a metelegol y wlad o fod yn gymdeithas amaethyddol i fod yn genedl ddiwydiannol; achosodd ecsbloetio Maes Glo De Cymru gynnydd cyflym ym mhoblogaeth Cymru. Mae dwy ran o dair o'r boblogaeth yn byw yn Ne Cymru, gan gynnwys Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a'r cymoedd. Mae gan ranbarth dwyreiniol Gogledd Cymru tua chweched o'r boblogaeth gyfan a Wrecsam yw tref mwyaf y gogledd. Mae gan gweddill Cymru ddwysedd poblogaeth llai. Nawr fod diwydiannau echdynnol a thrwm traddodiadol y wlad wedi dirywio, mae economi Cymru yn seiliedig ar y sector cyhoeddus, diwydiannau ysgafn a gwasanaeth, a thwristiaeth. O fewn y diwydiant ffermio, gan gynnwys ffermio llaeth, mae Cymru yn allforiwr net, gan gyfrannu at hunangynhaliaeth amaethyddol genedlaethol.
Geirdarddiad
- Prif: Etymoleg Cymru
Yn wreiddiol defnyddiwyd yr enw "Cymry", ffurf luosog Cymro, i ddisgrifio'r wlad a'r bobl ynddi.[3] Ymddengys y gair yn gyntaf mewn cerdd fawl i Cadwallon ap Cadfan[4] sydd o bosib yn dyddio o'r 7c, a daw o'r gair Brythoneg combrogos (lluosog: combrogi) sy'n golygu "cydwladwr". Mae'r elfen bro yn parhau'n air am wlad neu ardal yn yr iaith fodern. Diflanodd y b tua'r flwyddyn 600, ond mae'r mb wedi aros yn y ffurf Ladin am y wlad, Cambria, yn ogystal â'r enwau Cumbria a Cumberland yng ngogledd Lloegr.[5] Yn yr 16g mabwysiadwyd y sillafiad "Cymru" i ddynodi'r wlad gan neilltuo "Cymry" ar gyfer y trigolion.[6]
Y gair Germaneg walh neu wealh (estron) yw bôn yr enw Saesneg ar Gymru. O'r un gair daw enw'r Walwniaid yng Ngwlad Belg. Defnyddid y ffurf luosog Wealas yn enw ar drigolion Brythoneg a Lladin eu hiaith ym Mhrydain gan y Saeson cynnar, a Cornwealas ar drigolion penrhyn Cernyw (y Corn). Dros amser daethpwyd y ffurfiau Wales a Welsh yn enwau'r Saesneg ar wlad a phobl Cymru.[5]
Hanes
- Prif: Hanes Cymru a Cynhanes Cymru
Oes y Celtiaid
Glaniodd Iŵl Cesar ym Mhrydain ym mis Awst 55 C.C., ond ni lwyddwyd i oresgyn Cymru (a oedd, fel gweddill Prydain, yn diriogaeth Geltaidd) am fwy na chanrif wedi hynny. Roedd llwythau Celtaidd Cymru — a oedd, yn ddiwylliannol, yn debyg iawn i'w cymdogion Brythonaidd yn ne Prydain — yn cynnwys y Silwriaid yn y de a'r Ordovices yn y gogledd. Fe sefydlodd y Rhufeinwyr gadwyn o amddiffynfeydd dros dde Cymru, cyn belled â Chaerfyrddin (Maridunum). Mae tystiolaeth iddyn nhw fynd ymhellach i'r gorllewin a chroesi i Iwerddon. Adeiladasant 'gaer y lleng' Caerllion (Isca), lle mae'r amffitheatr sydd wedi goroesi orau ym Mhrydain. Roedd y Rhufeiniaid hefyd yn brysur yn y gogledd — mae hen chwedl, Breuddwyd Macsen Wledig, yn dweud wrth Macsen Wledig, un o ymerawdwyr olaf yr ymerodraeth yn y Gorllewin, briodi Helen ferch pennaeth Cymreig o Segontiwm (Caernarfon gyfoes). Mae'n debygol mai'r rheswm pam y gwladychwyd Cymru gan y Rhufeiniaid yw oherwydd eu hawch i fwyngloddio aur, plwm, copr ac arian, a pheth sinc.[7]
Brenhinoedd a thywysogion Cymru
- Gweler hefyd: Brenhinoedd Cymru a Thywysogion brodorol Cymru
Ni wnaeth yr Eingl-Sacsoniaid orchfygu Cymru, er iddynt dorri'r cysylltiad rhwng Cymru a'r Hen Ogledd ar ôl Brwydr Caer yn 615, oherwydd llwyddiannau milwrol y brenhinoedd Cymreig yn ogystal, wrth gwrs, â'r dirwedd a'r hinsawdd. Adeiladodd Offa, brenin Mersia, glawdd mawr o ddaear ar hyd y ffin rhwng ei frenhiniaeth a gwlad y Cymry. Mae darnau o Glawdd Offa i'w gweld o hyd heddiw.[angen ffynhonnell]
Parhaodd Cymru'n wlad Gristnogol ar ôl goresgyn Lloegr gan y tylwythau paganaidd Tiwtonaidd (y Saeson). Fe aeth Dewi Sant ar bererindod i Rufain yn y 6g, ac fe weithiodd fel esgob yng Nghymru ymhell cyn y cyrhaeddodd Awstin i drosi brenin Caint a dechrau esgobaeth Caergaint. Ond ni wnaeth y Cymry fawr o ymdrech i ledu Cristionogaeth yn Lloegr, efallai oherwydd yr elyniaeth rhwng y ddwy bobl. Roedd brenhinoedd Cymru fel Rhodri Mawr a Llywelyn ap Gruffudd yn ddigon cryf neu gyfrwys i gadw eu hannibyniaeth.[angen ffynhonnell]
Ar ddiwedd y 1060au, daeth y Normaniaid i Gymru, gan newid gwleidyddiaeth y wlad. Sefydlwyd arglwyddiaethau Normanaidd Y Mers, rhwng Cymru a Lloegr. Bu bron iawn i Gymru gyfan gael ei goresgyn ganddynt ond llwyddodd Gruffudd ap Cynan ac Owain Gwynedd i'w hatal, er iddynt ymsefydlu mewn rhannau o'r de ac ardaloedd ar y ffin. Llwyddodd Llywelyn Fawr i osod seiliau Cymru unedig a chyhoeddwyd ei ŵyr Llywelyn ap Gruffudd yn Dywysog Cymru. Ond parhaodd brenhinoedd Lloegr i ymosod ar Gymru trwy gydol y cyfnod. Ym 1282 lladdwyd Llywelyn Ein Llyw Olaf, sef tywysog olaf annibynnol Cymru, mewn ysgarmes ger Cilmeri a chipiodd Edward I o Loegr ei deyrnas. Adeiladodd Edward res o gestyll mawr i gadw'r Cymry dan reolaeth — Rhuddlan, Conwy, Caernarfon, Biwmares, a Harlech ydyw'r cestyll enwocaf.[angen ffynhonnell]
Cafwyd cyfres o wrthryfeloedd yn erbyn llywodraeth y Saeson o ddiwedd y 13g hyd ddiwedd y 15g; gan Madog ap Llywelyn (1294—96) a Llywelyn Bren (1316) er enghraifft, ac roedd y Cymry'n disgwyl dychweliad Owain Lawgoch yn y 1370au i ryddhau'r wlad. Cododd Owain Glyndŵr mewn gwrthryfel yn 1400 a chafodd ei gyhoeddi'n Dywysog Cymru, ond marw allan yn raddol wnaeth y gwrthryfel wrth i frenhinoedd Lloegr ailosod eu hawdurdod yn y wlad.[angen ffynhonnell]
Dan rheolaeth Saesnig
- Gweler hefyd: Rhyfeloedd dros annibyniaeth Cymru a Rheolaeth y Saeson o Gymru
Am ran helaeth o weddill y 15g tynnwyd Cymru i mewn i Ryfeloedd y Rhosynnau a welodd y Lancastriaid a'r Iorciaid yn ymgiprys am rym yn Lloegr. Ond er gwaethaf yr ansefydlogrwydd, fel yn y ganrif flaenorol, blodeuodd diwylliant Cymru ac yn arbennig y Traddodiad Barddol gyda Beirdd yr Uchelwyr yn cael nawdd gan yr uchelwyr Cymreig. Un o'r uchelwyr hyn oedd Harri Tudur, nai Siasbar Tudur a disgynnydd i Ednyfed Fychan, distain Llywelyn Fawr. Yn 1485 glaniodd yn Sir Benfro gyda byddin o Ffrancod. Tyrrai nifer o Gymry ato a gorchfygodd Rhisiart III o Loegr ar 22 Awst 1485 ar Faes Bosworth.[angen ffynhonnell]
Am gyfnod gwellodd sefyllfa'r Cymry. Diddymwyd y deddfau penyd a osodwyd ar y Cymry gan y Saeson ar ddechrau'r ganrif. Dan ei fab Harri VIII cyflwynwyd y Deddfau Uno a roddodd Cymru yn yr un system gyfreithiol a gweinyddol â Lloegr ond a waharddodd yr iaith Gymraeg o fywyd cyhoeddus y wlad. Ar yr un pryd newidiodd Cymru mewn cenhedlaeth neu ddwy o fod yn wlad Gatholig i fod yn wlad Brotestanaidd. Gwelwyd hefyd adfywiad llenyddol — cyfnod y Dadeni Dysg a'r Beibl Cymraeg — ond troes y bonedd fwyfwy Seisnigaidd a thyfai bwlch rhwng arweinwyr cymdeithas a'r werin. Un canlyniad o hynny oedd y mudiadau crefyddol ymneilltuol a ymledai'n gyflym yn ystod y 17eg ganrif a'r 18fed. Dechreuodd Cymru droi'n wlad ddiwydiannol yn ogystal, ac erbyn diwedd y 18g a dechrau'r 19eg ganrif roedd trefi diwydiannol, chwareli a phyllau glo yn nodwedd amlwg ar fywyd y wlad. Tyfodd llythrennedd ac ymledai'r wasg Gymraeg. Cynyddai'r galw am Ddatgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru ac am hunanlywodraeth ac erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd mudiad Cymru Fydd ar ei anterth.[angen ffynhonnell]
Cymysg fu ffawd y genedl yn ystod y 20fed ganrif. Ond er gwaethaf y Rhyfel Byd Cyntaf, Dirwasgiad Mawr y 1930au, yr Ail Ryfel Byd a'r dirywiad ieithyddol yn y 1970au a'r 1980au, mae Cymru heddiw'n meddu Senedd ac ymddengys fod yr iaith Gymraeg yn wynebu dyfodol mwy gobeithiol nag a ddychmygid cenhedlaeth yn ôl er mai dim ond oddeutu 19% o'r Cymry sy'n siarad Cymraeg.[angen ffynhonnell]
Datganoli
- Prif: Datganoli Cymru
Pasiwyd Deddf Llywodraeth Cymru 1998 a ffurfio Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999. Trosglwyddodd y ddeddf bwerau o Ysgrifennydd Gwladol Cymru i'r Cynulliad (Senedd Cymru bellach).[8]
Agorwyd adeilad newydd y Senedd ar Ddydd Gwyl Dewi yn 2006. Yn yr un flwyddyn pasiwyd ddeddf yn gwahaniaethu Llywodraaeth Cymru oddi wrth y Cynulliad. Caniataodd y ddeddf i aelodau cynulliad i greu deddfwriaeth sylfaenol am y tro cyntaf.[9]
Yn 2011, pleidleisiodd etholwyr Cymru mewn refferendwm o blaid pwerau deddfu llawn i'r Cynulliad yn y meysydd y mae’n gyfrifol amdanynt. Pasiwyd Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 a oedd yn cynnwys trethu a benthyca a ddatganolwyd gan Ddeddf Cymru 2014. Roedd Deddf Cymru 2017 yn gwneud y Cynulliad Cenedlaetholo yn rhan barhaol o gyfansoddiad y DU. Ar ôl pasio'r Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 newidiwyd enw'r Cynulliad Cenedlaethol i Senedd Cymru.[9]
Gwleidyddiaeth
Mae Cymru yn wlad sydd yn rhan o'r Deyrnas Unedig (DU).[10] Mae'r DU yn frenhiniaeth seneddol ddemocrataidd.[11]Llywodraethir Cymru gan system Model Cadw Pwerau, lle restrir holl faterion dan reloaeth Senedd y DU, gyda'r gweddill o dan reolaeth Senedd Cymru.[12] Mae Cymru yn ethol 40 aelod i Senedd y DU.[13]
Mae Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cefnogi Ysgrifennydd Cymru ac Is-Ysgrifenyddion Gwladol Seneddol gan gynrychioli Llywodraeth y DU yng Nghymru ac yn cynrychioli Cymru yn Llywodraeth y DU.[14]
Rheolir llywodraeth leol yng Nghymru gan 22 o awdurdodau unedol.[15]
Senedd Cymru
- Prif: Senedd Cymru
Mae Senedd Cymru yn gorff etholedig sy'n cynrychioli Cymru a’i phobl ac yn deddfu ar gyfer Cymru ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.[16]
Cafodd y Senedd ei sefydlu yn 1997 ar ôl refferendwm datganoli i Gymru. Hyd at 2020, cydnabyddwyd fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru, cyn y newid enw i Senedd Cymru. Mae gan y Senedd 60 o aelodau, ond mae cynlluliau i gynyddu hyn i 96. Ar hyn o bryd mae 30 aelod Llafur Cymru, 16 aelod Ceidwadwyr Cymreig, 12 aelod Plaid Cymru, 1 o’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ac 1 annibynnol. Bydd etholiad nesaf Senedd Cymru ar Fai 7, 2026.[17]
Heddlu a Lluoedd Arfog
Mae gan Gymru bedwar heddlu, Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent. Mae prif heddwas Dyfed-Powys wedi galw am un llu "Heddlu Cymru" erbyn 2030.[18]
Yn y lluoedd arfog yng Nghymru, y Fyddin sydd â’r presenoldeb fwyaf gyda dros 1,400 o bersonél. Yn 2019 roedd 3,230 o bersonél milwrol a sifil wedi’u lleoli yng Nghymru. Roedd hefyd dros 60 o sefydliadau a chanolfannau'r Weinyddiaeth Amddiffyn, gan gynnwys canolfannau wrth gefn a chyfleusterau hyfforddi.[19][20]
Daearyddiaeth
- Prif: Daearyddiaeth Cymru
Crëwyd patrwm o 13 o siroedd yng Nghymru ar ôl Deddf Uno 1536: Sir Fôn, Sir Frycheiniog, Sir Gaernarfon, Sir Aberteifi, Sir Gaerfyrddin, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Forgannwg, Sir Feirionnydd, Sir Drefaldwyn, Sir Benfro, Sir Faesyfed, a Sir Fynwy. Y rhain ydyw siroedd hanesyddol Cymru. O dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1888, crëwyd siroedd gweinyddol oedd wedi ei seilio ar y siroedd traddodiadol, ond nid oeddynt yn union yr un fath. Yn ad-drefnu llywodraeth leol 1974 crëwyd wyth sir gadwedig: Clwyd, Dyfed, Gwent, Gwynedd, Powys, Morgannwg Ganol, De Morgannwg a Gorllewin Morgannwg. Erbyn hyn y rhain yw enwau siroedd seremonïol Cymru. Yn 1996 crëwyd 22 o awdurdodau lleol i gymryd lle'r wyth sir gadwedig, a'u henwau yn cynnwys rhai o enwau'r 13 sir hanesyddol a rhai o'r wyth sir gadwedig, a'r ffiniau yn wahanol weithiau. Mae rhai o'r trefi mawrion yn awdurdodau unedol eu hunain e.e. Caerdydd, Abertawe, Wrecsam.[angen ffynhonnell]
Mae tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru: Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Parc Cenedlaethol Eryri a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Dyfarnwyd i'r cestyll Biwmares, Harlech, Caernarfon, a Chonwy, ym 1986, ac i ardal ddiwydiannol Blaenafon yn 2000, statws Treftadaeth Byd UNESCO.[angen ffynhonnell]
Bioamrywiaeth
- Prif: Fflora Cymru, Ffawna Cymru, a Rhestr adar Cymru
Adar
Oherwydd ei harfordir hir, mae Cymru yn gartref i amrywiaeth o adar môr. Mae'r arfordiroedd a'r ynysoedd cyfagos yn gartref i nythfeydd o huganod, adar drycin Manaw, palod, gwylanod coesddu, mulfilod a llursod. Mewn cymhariaeth, gyda 60 y cant o Gymru yn uwch na’r gyfuchlin 150m, mae’r wlad hefyd yn cynnal amrywiaeth o adar cynefin yr ucheldir, gan gynnwys y gigfran a mwyalchen y mynydd.[21][22] Mae adar ysglyfaethus yn cynnwys y cudyll bach, boda tinwyn a'r barcud coch, symbol cenedlaethol o fywyd gwyllt Cymru. At ei gilydd, mae mwy na 200 o wahanol rywogaethau o adar wedi’u gweld yng ngwarchodfa’r RSPB yng Nghonwy, gan gynnwys ymwelwyr tymhorol.[23]
Mamaliaid
Bu farw mamaliaid mwy, gan gynnwys eirth brown, bleiddiaid a chathod gwyllt, allan yn ystod cyfnod y Normaniaid. Heddiw, mae mamaliaid yn cynnwys chwistlod, llygod pengrwn, moch daear, dyfrgwn, carlymod, gwencïod, draenogod a phymtheg rhywogaeth o ystlumod. Mae dwy rywogaeth o gnofilod bach, y llygoden wddf felen a'r pathew, o bwys Cymreig arbennig i'w cael ar y ffin nad oedd yn cael ei tharfu yn hanesyddol. [24] Nid yw'r bele, sy'n cael ei weld yn achlysurol, wedi'i gofnodi'n swyddogol ers y 1950au. Bu bron i'r ffwlbart gael ei yrru i ddifodiant ym Mhrydain, ond fe barhaodd yng Nghymru ac mae bellach yn lledu'n gyflym. Mae geifr gwyllt i'w cael yn Eryri. [25] Ym mis Mawrth 2021, rhoddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) drwydded i ryddhau hyd at chwe afanc yn Nyffryn Dyfi, sef y rhyddhad swyddogol cyntaf o afancod yng Nghymru.[26]
Bywyd Morol
Mae dyfroedd de-orllewin Cymru Gŵyr, Sir Benfro a Bae Ceredigion yn denu anifeiliaid morol, gan gynnwys heulforgwn, morloi llwyd yr Iwerydd, crwbanod cefn lledr, dolffiniaid, llamhidyddion, sglefrod môr, crancod a chimychiaid. Mae Sir Benfro a Cheredigion, yn arbennig, yn cael eu cydnabod fel ardal o bwysigrwydd rhyngwladol i ddolffiniaid trwyn potel, ac yng Nghei Newydd mae unig gartref haf dolffiniaid trwyn potel yn y DU gyfan. Mae pysgod afon o bwys yn cynnwys torgoch, llysywen, eog, gwangod, aderyn y waun a thorgoch yr Arctig, tra bod y gwyniad yn unigryw i Gymru, a geir yn Llyn Tegid yn unig. Mae Cymru'n adnabyddus am ei physgod cregyn, gan gynnwys cocos, llygaid meheryn, cregyn gleision a gwichiaid. Penwaig, macrell a cegddu yw'r rhai mwyaf cyffredin o bysgod morol y wlad. Mae tiroedd uchel Eryri sy’n wynebu’r gogledd yn cynnal fflora cyn-rewlifol creiriol gan gynnwys lili eiconig yr Wyddfa.[27] Mae gan Gymru nifer o rywogaethau planhigion nad ydynt i’w cael yn unman arall yn y DU, gan gynnwys y cor-rosyn mannog Tuberaria guttata ar Ynys Môn a Draba aizoides ym Mhenrhyn Gŵyr.[28]
Economi
- Prif: Economi Cymru
Yr arian a ddefnyddir yng Nghymru yw'r Bunt, a gynrychiolir gan y symbol £. Banc Lloegr yw'r banc canolog, sy'n gyfrifol am gyhoeddi arian cyfred, ac mae'n cadw cyfrifoldeb am bolisi ariannol a dyma fanc canolog y DU. Mae’r Bathdy Brenhinol, sy’n dosbarthu’r darnau arian a ddosberthir ar draws y DU gyfan, wedi’i leoli ar un safle yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf ers 1980, ar ôl trosglwyddo’n raddol weithrediadau o’u safle Tower Hill, Llundain o 1968.[30]
Mae CMC (GDP) Cymru wedi cynyddu o £37.1 biliwn yn 1998 i £79.3 biliwn yn 2019, £75.7 biliwn yn 2020 ac yna £79.7 biliwn yn 2021.
[31][32][33] Yn dilyn Brexit, cyhoeddodd llywodraeth y DU ym mis Ebrill 2022 y byddai Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn disodli cronfeydd strwythurol yr UE. Mae Llywodraeth Cymru wedi beirniadu’r cyfanswm o £632 miliwn dros 2020 i 2023 a ddyrannwyd i Gymru, gan nodi bod Cymru’n cael ei thanariannu o £1.1 biliwn gan lywodraeth y DU.[34]
Mae cwmnïau a busnesau Cymreig wedi cael eu disgrifio fel "asgwrn cefn economi Cymru".[35][36] Mae 99% o'r busnesau yng Nghymru yn Fusnesau Bach a Chanolig (BBaChau), sy'n cyflogi llai na 250 o bobl, a'r mwyafrif ohonynt yn ficro-sefydliadau, hynny yw maent yn cyflogi llai na 10 o weithwyr. Er y nifer fawr o fusnesau bach a chanolig, y prif gyflogwr yng Nghymru yw'r sector cyhoeddus.[37]
Trafnidiaeth
- Prif: Trafnidiaeth Cymru
Mae gan wibffordd yr A55 rôl debyg ar hyd arfordir Gogledd Cymru, gan gysylltu Caergybi a Bangor â Wrecsam a Sir y Fflint. Mae hefyd yn cysylltu â gogledd-orllewin Lloegr, Caer yn bennaf.[38] Y prif gyswllt rhwng gogledd a de Cymru yw'r A470, sy'n rhedeg o Gaerdydd i Landudno.[39]
Llywodraeth Cymru sy’n rheoli’r rhannau hynny o rwydwaith rheilffyrdd Prydain yng Nghymru, drwy gwmni gweithredu trenau Trafnidiaeth Cymru. [40] Mae gan ranbarth Caerdydd ei rwydwaith rheilffyrdd trefol ei hun. Mae toriadau Beeching yn y 1960au yn golygu bod y rhan fwyaf o'r rhwydwaith sy'n weddill wedi'i anelu at deithio o'r dwyrain i'r gorllewin gan gysylltu â phorthladdoedd Môr Iwerddon ar gyfer llongau fferi i Iwerddon.[41] Mae gwasanaethau rhwng gogledd a de Cymru yn gweithredu drwy ddinasoedd Lloegr Caer a Henffordd a threfi Amwythig, Croesoswallt a Threfyclo ar hyd Lein y Gororau. Mae trenau yng Nghymru yn cael eu pweru gan ddisel yn bennaf ond mae cangen Prif Linell De Cymru o Brif Linell Great Western a ddefnyddir gan wasanaethau o Paddington Llundain i Gaerdydd yn cael ei thrydaneiddio, er bod y rhaglen wedi profi oedi sylweddol a gorwario costau.[42][43][44]
Maes Awyr Caerdydd yw maes awyr rhyngwladol Cymru. Yn darparu cysylltiadau â chyrchfannau Ewropeaidd, Affrica a Gogledd America, mae tua 12 milltir (19 km) i'r de-orllewin o ganol dinas Caerdydd, ym Mro Morgannwg. Roedd hediadau o fewn Cymru yn arfer rhedeg rhwng Ynys Môn (y Fali) a Chaerdydd, ac fe’u gweithredwyd ers 2017 gan Eastern Airways.[45] Nid yw’r hediadau hynny ar gael mwyach, o 2022 ymlaen. Mae hediadau mewnol eraill yn gweithredu i ogledd Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae gan Gymru bedwar porthladd fferi masnachol. [46]
Mae gwasanaethau fferi rheolaidd i Iwerddon yn gweithredu o Gaergybi, Doc Penfro ac Abergwaun. Cafodd y gwasanaeth o Abertawe i Gorc ei ganslo yn 2006, ei adfer ym mis Mawrth 2010, a’i dynnu’n ôl eto yn 2012.[47][48]
Addysg
- Prif: Addysg yng Nghymru
Mae prifysgolion Cymru yn cynnwys Prifysgol Aberystwyth a sefydlwyd yn 1872, sef prifysgol hynaf Cymru; Prifysgol Bangor sydd wedi'i hadnabod fel prifysgol yng Nghymru â'r gradd creadigol orau; Prifysgol Metropolitan Caerdydd sydd yn ffocysu ar gyrsiau ymarferol ac enillodd wobr ariannol am ragoriaeth dysgu yn 2017: Prifysgol Caerdydd, sef prifysgol gorau Cymru yn ôl un canllaw yn 2020; Prifysgol Abertawe, prifysgol y flwyddyn yn 2019; Prifysgol De Cymru a sefydlwyd yn 2013 a enillodd prifysgol seibr (cyfrifiadurol) y flwyddyn 2019: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, y prifysgol orau yng Nghymru am y gymuned ddysgu yn 2018; Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a ddaeth yn ail ar draws y DU gyfan am foddhad myfyrwyr.[49][50]
Iechyd
- Prif: Iechyd Cymru
Mae GIG Cymru yn darparu gwasanaeth iechyd gwladol i tua 3 miliwn o bobl sy'n byw yng Nghymru. Ariennir y gwasanaeth yn gyhoeddus, a Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am strategaeth gofal iechyd Cymru drwy saith Fwrdd Iechyd Lleol Cymru, y tair Ymddiriedolaeth a'r ddau Awdurdod Iechyd Arbennig. Egwyddor y Gwasanaeth Iechyd yw y dylai pawb gael mynediad at wasanaeth iechyd yn rhad ac am ddim.[51]
Demograffeg
- Prif: Demograffeg Cymru
Poblogaeth
Yn ôl Cyfrifiad 2021 yr oedd 3,107,500 o bobl yn byw yng Nghymru, sy'n rhoi dwysedd o 149.6/km².[52]
Iaith
- Prif: Cymraeg a Ieithoedd Cymru
Yn ôl cyfrifiad 2021, mae 17.8% o boblogaeth Cymru yn gallu siarad Cymraeg, sef 538,000 o bobl. Yn 2011 roedd 19% o Gymry yn siarad Cymraeg.[53]
Diwylliant
- Prif: Diwylliant Cymru
Cerddoriaeth
- Prif: Cerddoriaeth Cymru
Mae gan Gymru'r llys enw ‘Gwlad y Gân’, a throaddodiad canu lle mae'r genedl wedi eu magu wrth ganu yn yr ysgol ysgol, mewn partïon ac yn y capel. Mae'r Cymry yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, sef yr ŵyl lenyddol gystadleuol a cherddoriaeth fwyaf Ewrop. Mae canu a chanu côr yn rhan o hunaniaeth a thraddodiad Cymru fel y dwedir yn nofel Richard Llewellyn How Green Was My Valley (1941) , 'Mae fy mhobl yn canu fel mae llygaid yn gweld'.[54]
Llenyddiaeth
Mae'r awdl Y Gododdin’ yn enw ar gasgliad o dros gant o awdlau yn Gymraeg o ail hanner y 6g a oedd wedi datblygu o'r iaith Brythoneg.[55]
Chwaraeon
- Prif: Chwaraeon yng Nghymru
Er bod caeau pêl droed wedi bod yn hanner gwag ar adegau, mae pêl-droed wedi dod yn fwy poblogaidd yng Nghymru wrth i dîm pêl-droed Cymru brofi llwyddiant. Adnabyddir y cefnogwyr heddiw fel y Wal Goch. Mae'r rhan fwyaf o gemau rhyngwladol y tîm dynion bellach o flaen torfeydd llawn a bu record o 15,000 yn gwylio'r tîm merched fis Hydref 2022 mewn gêm rhagbrofol Cwpan y Byd. Mae'r gêm bellach yn gysylltiedig â ffasiwn, cerddoriaeth a gwleidyddiaeth unigryw ac mae'r Wal Goch yn symbol o hunaniaeth gyda'r gân Yma o Hyd i'w glywed mewn gemau.[56]
Dywedir rhai mai rygbi a helpodd i ffurfio cenedligrwydd Cymru a bod Tîm rygbi cenedlaethol Cymru yn rhan o hunaniaeth Gymreig. Daeth y gêm i'r amlwg tua diwedd y 19g ac yna ffynnu ym mlynyddoedd cynnar y 20g gan roi Cymru ar lwyfan y byd.[57] Cyn rygbi, roedd y gem Cnapan yn bodoli yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru cyn y 19g, ac yn gêm debyg i rygbi.[58] Hyd at ddiwedd y 19g roedd y gêm tîm boblogaidd Bando yn cael ei chwarae trwy Gymru, yn enwedig ym Morgannwg.[59]
Mae Cymry wedi cael llwyddiant ym mhencampwriaeth dartiau'r byd. Mae enillwyr yn cynnwys Gerwyn Price, Leighton Rees, Richie Burnett, Mark Webster a Wayne Warren.[60] Mae'r Cymro Mark Williams wedi ennill pencampwriaeth snwcer y Byd dair gwaith gan gynnwys 2018.[61] Yn yr un flwyddyn, fe ddaeth Geraint Thomas yn fuddugol Tour de France, y Cymro cyntaf i wneud hynny, ac hefyd y Tour de Suisse yn 2022.[62] Mae Cymry hefyd wedi cael llwyddiant yn y Gemau Olympaidd. Jade Jones oedd y gyntaf o Gymru i ennill medal aur unigol yn 2012 ac eto yn 2016.[63] Ian Woosnam oedd y Cymro cyntaf, a'r unig un hyd yma, i ennill Cystadleuaeth y Meistri (Masters) yn 1991.[64] Mae Cymry hefyd wedi ennill pencampwriaeth y byd mewn bocsio, gan gynnwys Joe Calzaghe, Enzo Maccarinelli a Gavin Rees.[65] Yn ogystal, enillodd Lauren Price y fedal aur bocsio pwysau canol yng Ngemau Olympaidd 2021.[66]
Coginiaeth
- Prif: Coginiaeth Cymru
Mae bwydydd Cymreig traddodiadol yn cynnwys bara ceirch cawl Cymreig, pice ar y maen/teisen gri, bara lawr, bara brith, selsig Morgannwg, a Caws pob (Welsh rarebit).[67][68]
Symbolau cenedlaethol
Heddiw, mae Cymru’n cael ei hystyried yn genedl Geltaidd fodern, ac mae hynny'n cyfrannu at hunaniaeth genedlaethol Cymru.[69][70] Gwahoddir artistiaid Cymreig yn gyson i wyliau Celtaidd hefyd.[71]
Mae’r ddraig goch yn symbol pwysig o hunaniaeth genedlaethol a balchder yng Nghymru a dywedir ei bod yn personoli dewrder y genedl Gymreig.[72] Cyfeirir at y ddraig gyntaf mewn llenyddiaeth fel symbol o'r bobl yn yr Historia Brittonum. Mae Gwrtheyrn, brenin y Brythoniaid Celtaidd yn cael ei rwystro rhag adeiladu caer yn Ninas Emrys. Dywed Ambrosius iddo gloddio am ddwy ddraig o dan y castell. Mae'n darganfod y ddraig goch sy'n cynrychioli'r Brythoniaid Celtaidd a draig wen sy'n cynrychioli Eingl-Sacsoniaid. Mae Ambrosius yn proffwydo y bydd y Brythoniaid Celtaidd yn adennill yr ynys ac yn gwthio'r Eingl-Sacsoniaid yn ôl i'r môr.[73] Fel symbol, cafodd y ddraig goch ei defnyddio ers teyrnasiad Cadwaladr, Brenin Gwynedd o tua 655 OC ac mae'n bresennol ar faner genedlaethol Cymru, a ddaeth yn faner swyddogol yn 1959.[74]
Ar 1 Mawrth, dethlir Dydd Gŵyl Dewi; mae Dewi’n eicon o hunaniaeth Gymreig.[75] Mae galwadau lluosog a chefnogaeth mwyafrifol yng Nghymru i wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc yng Nghymru, ond mae llywodraeth y DU yn dal i wrthod.[76][77][78] Mae’r diwrnod yn cael ei ddathlu gan ysgolion a chymdeithasau diwylliannol ledled Cymru ac mae arferion yn cynnwys gwisgo cenhinen neu genhinen Bedr, ill dau'n symbolau cenedlaethol i Gymru. Weithiau, bydd plant yn gwisgo gwisgoedd gwerin.[79]
Mae baner Owain Glyndŵr yn gysylltiedig â chenedligrwydd Cymreig.[80] Cafodd ei gario i frwydr gan luoedd Cymru yn ystod brwydrau Glyndŵr yn erbyn y Saeson, yn cynnwys pedwar llew ar goch ac aur. Mae'r faner yn debyg i arfbais Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn ein Llyw Olaf), Tywysog olaf Cymru cyn goresgyniad Cymru gan Edward I o Loegr. Mae'n bosib fod arfbais rhieni Glyndŵr wedi dylanwadu ar y cynllun hefyd, oherwydd roedd gan y ddau ohonynt lewod ar eu harfbeisiau.[81] Mae Diwrnod Owain Glyndŵr yn cael ei ddathlu ar 16 Medi yng Nghymru a bu galwadau i’w wneud yn ŵyl banc cenedlaethol. [82]