Adeiladau rhestredig yn Grangetown, Caerdydd

Ceir nifer o adeiladau rhestredig yn Grangetown, Caerdydd, Cymru ac maent i gyd wedi'u cofrestru'n adeiladau rhestredig Gradd II gan Cadw. Datblygodd Grangetown, sydd i'r de o Gaerdydd, fel un o'i maestrefi ar dir fferm yn ystod ail hanner y 19g.

Mae adeiladau rhestredig Gradd II o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.[1]

Adeiladau rhestredig

EnwLlunGraddDyddiadLleoliadDisgrifiad
Gweithdai Canolog,[2] Pendyris Street II180051°28′31″N 3°11′09″W / 51.4752°N 3.1859°W / 51.4752; -3.1859 (Central Workshops)Central Cardiff Tramways Depot a gweithdai gynt.[3] Defnyddiwyd gan y cyngor ers y 1950au fel depot gwasanaethu ar gyfer ei gerbydau. Rhoddwyd ar werth ym mis Mawrth 2013.[4]
Cyn-orsaf Pwmpio Carffosaeth,[5] Heol Penarth II51°27′24″N 3°11′54″W / 51.4568°N 3.1983°W / 51.4568; -3.1983 (The Pumping Station)Siop hynafolion o'r enw The Pumping Station.
Deiliad nwy,[6] o Ferry Road II51°27′41″N 3°11′20″W / 51.4613°N 3.1890°W / 51.4613; -3.1890 (Gas Holder)
Tŷ Fferm Grange,[7]

Stockland Street

II1500au hwyr51°28′04″N 3°11′18″W / 51.46784°N 3.18820°W / 51.46784; -3.18820 (Grange Farm)Credir ei fod yn dyddio o ddiwedd y 1500au; adeiladwyd ar gyn-safle maenor.[8] Mae gweddillion adeilad cynharach, sef drws wedi ei flocio o siap pigfain, yn wal y gogledd.[9]
Eglwys Sant Pawl[10] Paget Street/Bromsgrove Street II189051°27′57″N 3°11′01″W / 51.4657°N 3.1836°W / 51.4657; -3.1836 (St Paul's Church)Eglwys a ddyluniwyd gan bensaer o Gaerdydd, John Coates Carter, ac yr agorwyd yn gyntaf yn 1890. Mae'r dyluniad yn cynnwys defnydd anarferol o goncrid.[11]
Cysgodfan,[12]

"Gerddi Grange" (cornel Corporation Road a Holmsdale Street)

II51°28′03″N 3°10′53″W / 51.4675°N 3.1815°W / 51.4675; -3.1815 (Shelter)
Cofeb Rhyfel,[13] Gerddi Grange II192051°28′00″N 3°10′51″W / 51.4667°N 3.1807°W / 51.4667; -3.1807 (Cofeb Rhyfel)Cerfluniwyd gan Henry Charles Fehr.[14]

Cyfeiriadau