Alpe d'Huez

Cyrchfan sgio yw Alpe d'Huez yng nghymuned Huez, yn département Isère. Fe'i lleolir ar borfa mynyddig yn yr Alpau ar lefel o 1860 metr (3330 troedfedd) uwchben y môr.

Alpe d'Huez
Mathcyrchfan sgïo, free flight site Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAlpe d'Huez Grand Domaine Ski Edit this on Wikidata
SirHuez Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Uwch y môr1,860 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau45.09°N 6.07°E Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddGrandes Rousses Edit this on Wikidata
Map

Yr haf ar Alpe d'Huez

Tour de France

Mae Alpe d'Huez yn un o'r mynyddoedd pwysicaf yn y Tour de France. Mae cymal wedi gorffen yno bron pob blwyddyn ers 1976. Cynhaliwyd y cyntaf yno yn 1952 ac enillodd Fausto Coppi.[1]

Daethpwyd a'r ras i'r mynydd gan Élie Wermelinger, y prif commissaire (dyfarnwr).[1] Gyrroedd ei gar, Dyna-Panhard, rhwng y cloddiau o eira a safai naill ochr i'r ffordd ym mis Mawrth 1952, wedi iddo gael ei wahodd gan gonsortiwm o fusnesau a oedd wedi agor gwestai ar y copa.[2] Georges Rajon, a oedd yn rhedeg Hotel Christina, oedd arweinydd y consortiwm.[3] Agorodd yr orsaf sgio yno ym 1936, felly roedd y ffordd wedi cael ei ledaenu er ei fod yn llawn tyllau. Adroddodd Wermelinger yn ôl at y trefnydd, Jacques Goddet, ac arwyddodd y Tour gytundeb gyda'r dynion busnes i gynnwys Alpe d'Huez yn llwybr y Tour.[2] Costiodd swm sy'n gyfartal i €3,250 mewn arian cyfoes.[3]

Yn y cymal cyntaf ar Alpe d'Huez, ymosododd Fausto Coppi 6 km o'r copa er mwyn disgyn y reidiwr Ffrangeg, Jean Robic, gan fynd ymlaen i ennill. Dywedodd Coppi ei fod yn gwybod iddo ei ddisgyn gan na allai glywed ei anadlu na sŵn teiars ar y ffordd y tu ôl iddo bellach.[1][4] Trodd yr Alpe yn lledrith yn syth oherwydd mai hwn oedd y tro cyntaf i feiciau modur, gyda criwiau ffilmio ar gyfer y teledu, ddilyn y Tour.[1] Dyma hefyd oedd y tro cyntaf i gymal y Tour orffen ar gopa mynydd.[5]

Wedi buddugoliaeth Coppi, ni gynhwyswyd yr Alpe hyd 1964, ac bu absenodeb arall unwaith eto hyd 1976,[6] ymddangosodd y ddwy dro hwn oherwydd cynnig Rajon.[3]

Mae'r esgyniad yn 13.8 km o hyd ar lethr ar gyfartaledd o 7.9%, mae 21 tro pin-gwallt (les 21 virages), pob un wedi eu enwi ar ôl enillydd cymal 'r Tour yno. Roedd gormod o enillwyr erbyn iddo gael ei gynnal am yr 21ain tro, fell ychwanegwyd enw Lance Armstrong at enw Coppi ar y tro cyntaf ar waelod yr allt.

Gwyliwyr

Mae torf anhrefn o wyliwyr ar yr Alpe yn aml. Cafodd Giuseppe Guerini ei daro oddi ar ei feic ym 1999, pan neidiodd gwyliwr allan i dynnu ei lun, fe aeth Guerini ymlaen i ennill y cymal er hynnu. Daeth anhrefn yn ystod treial amser unigol 2004 pen ddechreuodd y gwyliwyr wthio'r reidwyr fyny tuag at y copa. Mae ffigyrau'r gwylwyr yn amrywio'n fawr, ac nid yn gwbl ddibynadwy, hawliwyd fod miliwn yno ym 1997. Ond dywedodd Maer Alpe d'Huez, Eric Muller, y bu 350,000 yno yn 2001, er i bawb honni fod y ffigwr yn dringo yn flynyddol.[7]

Enillwyr

Gorffennodd cymal 2008 ar uchder o 1850 metr yn hytrach na 1860 fel y bu ym mhob cymal cynt.

BlwyddynCymalCychwynPellter (km)CategoriEnillydd y cymalCenediglrwyddCrys MelynTro
200817Embrun210.5HCCarlos Sastre  SbaenCarlos Sastre17
200615Gap187HCFränk Schleck  LuxembourgFloyd Landis18
200416Bourg-d'Oisans15.5 (ITT)HCLance Armstrong  UDALance Armstrong19
20038Sallanches219HCIban Mayo  SbaenLance Armstrong20
200110Aix-les-Bains209HCLance Armstrong  UDALance Armstrong21
199910Sestrières220.5HCGiuseppe Guerini  Yr EidalLance Armstrong1
199713Saint-Étienne203.5HCMarco Pantani  Yr EidalJan Ullrich2
199510Aime–La Plagne162.5HCMarco Pantani  Yr EidalMiguel Indurain3
199416Valréas224.5HCRoberto Conti  Yr EidalMiguel Indurain4
199214Sestrières186.5HCAndrew Hampsten  UDAMiguel Indurain5
199117Gap125HCGianni Bugno  Yr EidalMiguel Indurain6
199011Saint-Gervais–Mont Blanc182.5HCGianni Bugno  Yr EidalRonan Pensec7
198917Briançon165HCGert-Jan Theunisse  Yr IseldiroeddLaurent Fignon8
198812Morzine227HCSteven Rooks  Yr IseldiroeddPedro Delgado9
198720Villard-de-Lans201HCFederico Echave  SbaenPedro Delgado10
198618Briançon–Serre Chevalier182.5HCBernard Hinault  FfraincGreg LeMond11
198417Grenoble151HCLuis Herrera  ColombiaLaurent Fignon12
198317La Tour-du-Pin223HCPeter Winnen  Yr IseldiroeddLaurent Fignon13
198216Orcières-Merlette123HCBeat Breu  Y SwistirBernard Hinault14
198119Morzine230.5HCPeter Winnen  Yr IseldiroeddBernard Hinault15
1979*18Alpe d'Huez118.5HCJoop Zoetemelk  Yr IseldiroeddBernard Hinault16
1979*17Les Menuires166.5HCJoaquim Agostinho  PortiwgalBernard Hinault17
197816Saint-Étienne240.51Hennie Kuiper  Yr IseldiroeddJoop Zoetemelk18
197717Chamonix184.51Hennie Kuiper  Yr IseldiroeddBernard Thévenet19
19769Divonne-les-Bains2581Joop Zoetemelk  Yr IseldiroeddLucien Van Impe20
195210Lausanne2661Fausto Coppi  Yr EidalFausto Coppi21

*Roedd dau gymal ar Alpe d'Huez ym 1979.

Defnyddir y cpa hefyd fel diwedd La Marmotte, reid un dydd 175 km o hyd sy'n cynnwyd 5000m o ddringo. Defnyddir hefyd ar gyfer sgio lawr allt neu sgio Alpaidd.

Esgyniadau cyflymaf Alpe d'Huez

Proffil Alpe d'Huez
Panorama o'r 21 tro enwog tuag at Alpe d'Huez

Mae esgyniad yr allt i Alp d'Huez wedi cael ei amseru yn swyddogol ers 1994, felly mae cryn ddadl ynglŷn â'r amserau cyn hyn. Rhwng 1994 ac 1997, amserwyd yr esgyniad o 14.5 km o'r diwedd. Ers 1999, mae diwedd-ffoto wedi cael ei ddefnyddio o 14 km o'r diwedd. Mae amserau eraill wedi cael eu cofnodi o 13.8 km o'r copa, sef dechrau swyddogol yr esgyniad. Mae eraill wedi cael eu cofnodi o 700m o gychwyn yr esgyniad.[8]

Amserau'r esgyniad

Arwydd ar Dro 16 ar yr esgyniad i Alpe d'Huez
Alpe d'Huez yn yr haf
RhengAmserEnwBlwyddynCenediglrwydd
137' 35"Marco Pantani1997  Yr Eidal
2*37' 36"Lance Armstrong2004  UDA
338' 00"Marco Pantani1994  Yr Eidal
438' 01"Lance Armstrong2001  UDA
538' 04"Marco Pantani1995  Yr Eidal
638' 23"Jan Ullrich1997  Yr Almaen
738' 34"Floyd Landis**2006  UDA
838' 35"Andreas Klöden2006  Yr Almaen
9*38' 37"Jan Ullrich2004  Yr Almaen
1039' 02"Richard Virenque1997  Ffrainc
1139' 06"Iban Mayo2003  Sbaen
12*39' 17"Andreas Klöden2004  Yr Almaen
13*39' 21"Jose Azevedo2004  Portiwgal
1439' 28"Miguel Induráin1995  Sbaen
1539' 28"Alex Zülle1995  Y Swistir
1639' 30"Bjarne Riis1995  Denmarc
1739' 31"Carlos Sastre2008  Sbaen
1839' 44"Gianni Bugno1991  Yr Eidal
1939' 45"Miguel Induráin1991  Sbaen
2040' 00"Jan Ullrich2001  Yr Almaen
2140' 46"Fränk Schleck2006  Luxembourg
2240' 51"Alexander Vinokourov2003  Casachstan
2341' 18"Lance Armstrong2003  UDA
2441' 50"Laurent Fignon1989  Ffrainc
2541' 50"Luis Herrera1986  Colombia
2642' 15"Pedro Delgado1989  Sbaen
2745' 20"Gert-Jan Theunisse1989  Yr Iseldiroedd
2845' 22"Fausto Coppi1952  Yr Eidal
2948' 00"Greg Lemond1986  UDA
3048' 00"Bernard Hinault1986  Ffrainc

* Ar ffurf treial amser unigol.
** Canfyddwyd yn euog o ddefnyddio cyffurio yn y rhifyn hwnnw o'r Tour de France.

13.8 km:[9]

RhengAmserEnwBlwyddynCenediglrwydd
136' 50"Marco Pantani1995  Yr Eidal
236' 55"Marco Pantani1997  Yr Eidal
337' 15"Marco Pantani1994  Yr Eidal
437' 36"Lance Armstrong2004  UDA
537' 41"Jan Ullrich1997  Yr Almaen
638' 00"Lance Armstrong2001  UDA
738' 10"Miguel Induráin1995  Sbaen
738' 10"Alex Zülle1995  Y Swistir
838' 12"Bjarne Riis1995  Denmarc
938' 22"Richard Virenque1997  Ffrainc

Beicio Mynydd

Mae'r gyrchfan hefyd yn denu nifer o feicwyr mynydd yn ystod yr haf, yn arbennig adeg ras Megavalanche, ras dygner lawr allt sy'n mynd a'r reidwyr o'r orsaf lifft i'r copa uchaf, Pic Blanc, cyn iddynt reidio i lawr i Alamond ar lawr y dyffryn.

Yr haf ar Alpe d'Huez

Sgio ar Alpe d'Huez

Mae Alpe d'Huez yn un o brif gyrchfannau sgio Ewrop. Dyma oedd safle lifft cyntaf Pomagalski ar yr arwyneb yn ystod yr 1930au, daeth y gyrchfan yn boblogaidd pan gynhaliwyd cystadlaeuthau bobsleigh Gemau Olympaidd y Gaeaf 1968 yno. Cysidrwyd y gyrchfan yn gystadleuydd i Courchevel, cyrchfan mwyaf uwch-farchnad Ffrainc ar y pryd a oedd wedi ei adeiladu'n bwrpasol, ond wedi datblygiad Les Trois Vallées, Val d'Isère, Tignes, La Plagne a Les Arcs daeth Alpe D'Huez yn llai poblogaidd yn ystod yr 1970au a'r 1980au cynnar.

Gefeilldrefi

Gefeilldrefi Alpe d'Huez yw:

Llyfryddiaeth

Cyfeiriadau

Dolenni allanol