Tlws Adran

Cystadleuaeth i glybiau pêl-droed merched Cymru sy'n cystadlu yn pyramid Adran - Uwch Gynghrair (Adran Premier) ac Adran Gogledd ac Adran De

Tlws Adran (Saesneg: Adran Trophy) yw'r enw ar gystadleuaeth gwpan pêl-droed flynyddol aelodau cynghreiriau menywod Cymru. Cynhaliwyd y gystadleuaeth gyntaf gyntaf yn 2014, pan y'i gelwid yn Cwpan Uwch Gynghrair Merched Cymru ('Welsh Premier League Cup').[1] Yn 2021 cafodd ei ailfrandio i 'Tlws Adran'.

Tlws Adran
Dechrau/Sefydlu2014 Edit this on Wikidata
RhanbarthCymru Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://faw.cymru/adran-leagues/adran-trophy/ Edit this on Wikidata
Lansiad Uwch Gynghrair Pêl-droed Merched Cymru yn Senedd yn 2012 a welodd gychwyn ar bennod newydd ym mhêl-droed menywod Cymru ac yna sefydlu Cwpan Cynghreiriau Cymru (Tlws Adran) yn 2014

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei rhedeg gyda 24 o glybiau’n cymryd rhan, gan gynnwys holl aelodau cyfrediol cynghreiriau: yr Uwch Gynghrair genedlaethol sef yr (Adran Premier), a hefyd y ddau adran rhanbarthol - Adran Gogledd ac Adran De. Ceir hefyd y posibilrwydd o geisiadau cerdyn gwyllt ychwanegol i lenwi cyfanswm y clybiau i 24. Caiff ei redeg ar ffurf twrnamaint 'curo a thrwyddo' lle bydd enillydd cymal un gêm yn mynd drwyodd i'r cymal nesa.

Noddwyr

Enillwyr

C.P.D. Merched Met. Caerdydd bu'n dominyddu'r gystadleuaeth yn y blynyddoedd cyntaf. Enillodd C.P.D. Merched Dinas Caerdydd y Tlws tair mlynedd o'r bron yn 2022, 2023, a 2024. Yn 2024, gydag ennill y Tlws, Cwpan Pêl-droed Merched Cymru ac Adran Premier bu i C.P.D. Merched Dinas Caerdydd ennill y triphlig. Dyma'r tro gyntaf i un tîm ennill y dri brif wobr safon uchaf pêl-droed menywod Cymru. Bu i ferched Caerdydd guro C.P.D. Merched Dinas Abertawe 5 - 1 ar Stadiwm SDM Glass ym Penybont-ar-Ogwr.[5]

Cyn enillwyr
TymorEnillyddRefs
2013–14C.P.D. Merched Met. Caerdydd[6]
2014–15PILCS[7]
2015–16C.P.D. Merched Dinas Abertawe[8]
2016–17C.P.D. Merched Met Caerdydd[9]
2017–18C.P.D. Merched Cyncoed[10]
2018–19C.P.D. Merched Met Caerdydd[11]
2019–20Canslwyd oherydd Y Gofid Mawr - Covid-19[12]
2020–21C.P.D. Merched Dinas Abertawe[13]
2021–22C.P.D. Merched Met Caerdydd[14]
2022–23C.P.D. Merched Met Caerdydd[15]
2023–24C.P.D. Merched Dinas Caerdydd[16]

Gweler hefyd

Dolenni allannol

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.