Amesbury, Wiltshire
Tref a phlwyf sifil yn sir seremonïol Wiltshire, De-orllewin Lloegr, yw Amesbury.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Wiltshire. Saif 8 milltir i'r gogledd o Caersallog, yn nyffryn Afon Avon ar ymyl Gwastadedd Caersallog ar y ffordd hanesyddol sy'n cysylltu Llundain a Warminster a Chaerwysg. Mae'n adnabyddus yn bennaf am fod Côr y Cewri (Stonehenge), un o henebion cynhanesyddol enwocaf y byd, yn gorwedd yn y pwlyf.
Math | tref |
---|---|
Ardal weinyddol | Amesbury |
Poblogaeth | 10,724 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Wiltshire (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.173°N 1.78°W |
Cod OS | SU154414 |
Cod post | SP4 |
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 10,724.[2]
Hanes
Ceir nifer o olion cynhanesyddol yn ardal Amesbury, yn cynnwys Côr y Cewri. Dengys tystiolaeth archaeolegol y bu gan y Rhufeiniaid bresenoldeb yno hefyd. Cysgegrwyd Gwion, Esgob Bangor gan Archesgob Caergaint yn Amesbury ar 22 Mai 1177.
Cyfeiriadau
Dinas
Caersallog
Trefi
Amesbury · Bradford on Avon · Calne · Corsham · Cricklade · Chippenham · Devizes · Highworth · Ludgershall · Malmesbury · Malborough · Melksham · Mere · Royal Wootton Bassett · Swindon · Tidworth · Trowbridge · Warminster · Westbury · Wilton