Ardal Drefol Caerdydd

Caerdydd a Phenarth

Ardal Drefol Caerdydd (neu Caerdydd Fwyaf) yw'r enw a roddir ar yr ardal drefol o amgylch awdurdod unedol Caerdydd ac sydd hefyd yn cynnwys Penarth a Dinas Powys. Yn y cyfrifiad diwethaf roedd poblogaeth yr ardal drefol hon yn 447,487[1]. Cysylltir y ddinas ei hun a'r ardal allanol yma (Pennarth a Dinas Powys) gan ardal Bae Caerdydd.[2] Poblogaeth awdurdod unedol Caerdydd oddeutu yn y cyfrifiad diwethaf oedd 447,487[1].[3] Amcangyfrifodd Cyngor Caerdydd fod poblogaeth yr awdurdod unedol yn 317,500 yn 2006; yng nghyfrifiad 2011 roedd yn 346,090.

Map o Ardal Drefol Caerdydd, gan ddangos israniadau a ffiniau'r awdurdodau lleol

Israniadau

Yn ôl diffiniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol roedd gan Ardal Drefol Caerdydd yr israniadau a ganlyn:

SafleIs-ardal drefolPoblogaeth
cyfrifiad 2001cyfrifiad 2011
1Caerdydd292,150335,145
2Caerffili41,402
3Pontypridd30,457
4Penarth23,24527,226
5Dinas Powys7,6537,490
6Ffynnon Taf5,567
Radur4,658
Cyfanswm327,206447,287

Nodiadau:

  • Cafodd Radur ei gynnwys yn isadran Caerdydd yng nghyfrifiad 2011.
  • Roedd Pontypridd, Caerffili a Ffynnon Taf yn ardaloedd trefol ar wahân yng nghyfrifiad 2001.

Cyfeiriadau