Baner Cymru

baner cenedlaethol Cymru

Daeth baner Cymru (a elwir hefyd y Ddraig Goch) yn faner swyddogol Cymru yn 1959. Mae'n dangos draig goch ar faes gwyrdd a gwyn. Am gyfnod, ymddangosodd y ddraig ar fryn gwyrdd, ond mae'r hanneriad llorweddol yn draddodiadol. Hi yw'r unig faner o un o wledydd y Deyrnas Unedig nad yw'n ymddangos ar Faner yr Undeb. Y rheswm hanesyddol am hyn oedd statws gwleidyddol Cymru yng nghyfundrefn gyfreithiol a gweinyddol coron Loegr yn dilyn y Deddfau Uno (1536–1543).

Baner Cymru
Enghraifft o'r canlynolbaner endid gweinyddol o fewn un wlad, baner cenedlaethol Edit this on Wikidata
Lliw/iaugwyn, gwyrdd, coch Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluTua: 655 OC
DechreuwydYn ei ffurf bresennol: 1959
Genrehorizontal bicolor flag, charged flag Edit this on Wikidata
Yn cynnwysy Ddraig Goch Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cymru, Bhwtan a Malta yw'r unig wledydd cyfredol sydd â draig ar eu baneri, er y bu ddraig ar faner Tsieina yn ystod Brenhinllin Qing.

Y Ddraig Goch fel baner y Cymry

Baner cyntaf o'r Ddraig Goch?

Fe sonir am y ddraig goch yn hedfan yn yr awel yn y gerdd "Gwarchan Maelderw" yn ystod Brwydr Catraeth.Yn ogystal fe sonir am yr haul a'r Duw "Hu". Ysgrifenwyd y gerdd gan Taliesin ond mae'n ymddangos yn y Llyfr Aneirin. Crewyd y faner gan "Archimagus" neu archdderwydd ar gyfer Maelderw, arweinydd y lluoedd brodorol er mwyn amddiffyn y Brythoniaid.[1][2] Mae'r faner hon yn cynnwys delwedd o'r arweinydd, yr haul a'r ddraig goch. Roedd y derwyddon Gwyddelig hefyd yn paratoi baneri'r haul i'w harweinwyr, sef y faner "Dal-greine".[3]

Mae'r cyfeiriad yn darllen mewn Cymraeg Canol "Disgleiryawr ac archawr tal achon//arrud dhreic fud pharaon", sydd yn anodd ei chyfiethu'n gywir, ond mae "rud dhreic" yn gallu cael ei chyfieithu i "draig goch". Mae "pharaon" i'w weld yn Lludd and Llefelys, am y ddwy ddraig dan adeilad Gwrtheyrn, gan awgrymu fod y dyfyniad hwn yn ffynhonnel ar gyfer stori'r Mabinogi, lle mae'r ddraig yn goch unwaith eto.[4] Mae'n bosib mai dyma'r cyfeiriad cyntaf at ddraig goch yn llenyddiaeth Cymru yn y 6g. Y gair "pharaon" yw'r enw hynafol ar Ddinas Emrys, ac mae'r cyfeiriad hon dwy ganrif cyn cofnod Nennius yn Historia Brittonum o stori Lludd a Llefelys; arwydd posib o darddiad hyd yn oed hŷn na hyn.[5]

Gwelir y farddoniaeth gwreiddiol o Gwarchan Maeldrw ac ymdrech i'w gyfieithu (o gyfieithiad Saesneg).[6][1]

Molawt rin rymidhin rymenon.

(Moliant yw rhaniad y rhai a ryfeddant.)

Dyssyllei trech tra manon.

(Syllai'r buddugol tra teg.)

Disgleiryawr ac archawr tal achon

(Disgleiro ac amlwg tal flaen.)

ar rud dhreic fud pharaon.

(a'r rhudd-ddraig fydd pharaon.)

Kyueillyawr en awel adawaon.

(Cyfeilir ar awel ei bobl.)

Owain Glyndŵr

c. 1400 - c. 1416, Y Ddraig Aur, safon frenhinol Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru, wedi ei godi dros Caernarfon yn ystod Brwydr Twthil yn 1401 yn erbyn y Saeson.

Adnabuwyd baner Owain Glyndŵr fel 'Y Ddraig Aur'. Fe'i codwyd yn enwog dros Gaernarfon yn ystod Brwydr Tuthill yn 1401 yn erbyn y Saeson. Dewisodd Glyndŵr i chwifio safon draig aur ar gefndir gwyn, y safon draddodiadol a ddefnyddiodd Uthr Benddraig, fel arewinydd y Brythoniaid Celtaidd cyntaf wrth iddynt frwydro yn erbyn y Sacsoniaid bron i 1,000 o flynyddoedd ynghynt, cyn iddo drosglwyddo'r symbol i’w fab y Brenin Arthur.[7][8][9]

Adroddir Adam o Wysg mai draig aur Glyndwr oedd y defnydd cyntaf o safon draig a ddefnyddiwyd mewn rhyfel gan filwyr Cymru ar y 1af o Dachwedd, 1401.[10] [11] Ychwanega'r hanesydd John Davies fod y ddraig a godwyd gan Glyndŵr yn symbol o fuddugoliaeth i'r Brythoniaid Celtaidd.[12]

Hari Tudur

Safon Harri Tudur, Brwydr Maes Bosworth

Ar feddrod Edmwnd Tudur, mae ei ddelw yn gwisgo coron wedi'i gosod gyda "draig Cadwaladr".[13] [14] Yn dilyn buddugoliaeth ei fab ym Mrwydr Maes Bosworth, defnyddiodd Harri VII ddraig goch ar gefndir gwyn a gwyrdd wrth fynd i mewn i Eglwys Gadeiriol Sant Pawl.[15] Defnyddiodd Harri’r VII fotiff y ddraig fel rhan o herodraeth tŷ Tuduraiddyn hytrach na Chymru.[12] Defnyddiwyd "draig Cadwaladr" fel cefnogwr ar arfbeisiau brenhinol holl sofraniaid Tuduraidd Lloegr ac ymddangosodd hefyd ar safonau Harri VII a Harri VIII.[16]

Defnydd fodern cyntaf

Yn Eisteddfod Lerpwl yn 1840, defnyddiwyd "safon sidan a osodwyd dros gadair y llywydd, ar yr hon a banetiwyd ddraig goch, ar ddaear werdd, gyda ffîn wen - hon, y dywedodd, oedd wedi'i hanfon ato gan Mr Davies o Cheltenham, a oedd o hyd yn barod i gynnal cofiant a dewrder ei ac ein gwlad." Roedd y safon sidan hefyd yn cynnwys yr arwyddair "y ddraig goch ddyle gychwyn".[17] Yn wreiddol awgrymwyd draig aur ac "urdd marchog i Gymru".[18] Dwy flynydd yn ddiweddarach, defnyddiwyd baneri gyda'r ddraig goch yn Eisteddfod Cymreigyddion y Fenni,1842.[19] Yna, yn 1865, hwyliodd long y Mimosa i Batagonia gan hedfan baner y ddraig goch.[20]

Bathodyn brenhinol

Ni ddaeth y ddraig goch yn fathodyn herodrol brenhinol swyddogol tan 1800, pan gyhoeddodd Siôr III warant brenhinol yn cadarnhau'r bathodyn.[21]

Yn 1901, ychwanegwyd y ddraig goch i arfbais Tywysog Cymru Brenhiniaeth Prydain gan y brenin.[22]

Yn y pen draw, cynigiodd y palas Brydeinig gyfaddawd ar ffurf bathodyn brenhinol newydd yn ystod blwyddyn y coroni yn 1953. Ailgynlluniwyd y ddraig draddodiadol ac ychwanegwyd coron gyda'r arwyddair 'Y DDRAIG GOCH DDYRY CYCHWYN'.[23]

Bathodyn Brenhiniaeth Prydain Cymru 1953

Dirmygodd Winston Churchill, y prif weinidog ar y pryd, gynllun y bathodyn, fel y datgelir yng nghofnod canlynol y Cabinet o 1953:

Winston Churchill:

"Odious design expressing nothing but spite, malice, ill-will and monstrosity.
Words (Red Dragon takes the lead) are untrue and unduly flattering to Bevan."

Gwilym Lloyd George:

"Wd. rather be on R[oyal] Arms. This (dating from Henry VII) will be something.
We get no recognition in Union – badge or flags.[24]"

Baner fodern

Baner 1908 Cymdeithas Pleidlais i Fenywod Caerdydd a'r Cylch

Ym phasiant cenedlaethol Cymru 1909, mae'r ddraig Gymreig yn ymddangos yn sefyll ar gefndir gwyn. Mae'r ddraig Gymreig sy'n ymddangos ar y faner ar fwrdd Terra Nova Capten Scott hefyd yn ddraig sefyll ar gefndir gwyn a gwyrdd. Hyd at y pwynt hwn, nid oedd fersiwn safonol o'r ddraig Gymreig.[25]

Defnyddiwyd y ddraig ar faneri yn ystod digwyddiadau'r bleidlais i fenywod yng Nghymru yn y 1900au a'r 1910au. Roedd dogfennau derbyn y faner yn sywddogol yn cynnwys un nodyn gan un o gyn-aelodau “Gweithiwyd y faner gan Mrs Henry Lewis… [hi] hefyd oedd Llywydd Ffederasiwn Cymdeithasau Pleidlais Merched De Cymru + bu’n arwain adran De Cymru o’r Bleidlais Fawr Gorymdaith yn Llundain ar 17 Mehefin 1911, yn cerdded o flaen ei baner hardd ei hun… Bu’n achlysur gwych, rhyw 40,000 i 50,000 o ddynion + merched yn cymryd rhan yn y daith gerdded o Whitehall drwy Pall Mall, St James’s Street + Piccadilly i’r Albert Hall. Denodd y ddraig lawer o sylw – “Dyma’r Diafol” oedd cyfarchiad un grŵp o wylwyr.” [26]

Dydd Gwyl Dewi 1910-33

Rhwng 1910 ac 1916 bu sawl apêl gan gyngor trêf Caernarfon i godi baner y ddraig goch ar ben tŵr Eryr castell Caernarfon i gymryd lle baner yr undeb. Dywedodd y maer a dirprwy gwnstabl y castell, Charles A Jones, fod "yr awdurdodau wedi'u cynghori fod dim fath beth â baner Gymreig... dim ond bathodyn".[27][28][29]

Ar Ddydd Gŵyl Dewi 1932, wedi gwisgo mewn dillad beic modur, dringodd John Edward Jones (JE Jones) i ben Tŵr yr Eryr, Castell Caernarfon gyda thri arall, gan gynnwys nai David Lloyd George, William RP George. Yno fe wnaethon nhw ostwng Jac yr Undeb, a chodi’r Ddraig Goch a hoelio'r rhaffau i’r poly gyda styfflau a morthwyl. Arweiniodd hyn at ganu Hen Wlad Fy Nhadau gan dyrfa islaw. Wedi hyn, daeth y gwnstabliaeth leol gan roi baner yr undeb yn ôl i fyny. Yn hwyrach, daeth criw o fyfyrwyr Plaid Cymru o Fangor i’r amlwg ar gefn lori, gan dynnu baner yr undeb i lawr unwaith eto, a'i rwygo i ddarnau ar y maes.[30] [31][32]

Ar ddydd Gwyl Dewi 1933, codwyd baner y Ddraig Goch yngyd a baner yr undeb a pherfformiwyd y seremoni gan David Lloyd-George. Yn fuan wedyn, chwifiwyd baner Cymru ar holl adeiladau'r llywodraeth ar Fawrth y 1af. Sicrhaodd JE Jones fod canghennau Plaid Cymru ar draws y wlad yn pwyso ar yr awdurdodau lleol i wneud yr un peth. Yna trefnodd gynhyrchu mwy o faneri, a'u gwerthu gan wneud elw.[30]

Defnydd swyddogol

Y Ddraig Goch

Ym 1959, gollyngwyd defnydd y Llywodraeth o faner y bathodyn brenhinol o blaid y faner bresennol[33][34] ar anogaeth Gorsedd y Beirdd.[4]

Fel arwyddlun, mae draig goch Cymru yn bresennol ar faner genedlaethol Cymru, a ddaeth yn faner swyddogol yn 1959.[35]

Diwylliant boblogaidd

Yn y ffilm Black Panther, ymddengys baner Cymru yn cynrychioli Cymru annibynnol yn y Cenhedloedd Unedig.[36]

Dolenni allanol

Cyfeiriadau

Llyfryddiaeth