Baner Panama
Ysbrydolwyd baner Panama gan yr faner Unol Daleithiau America. Mae'r faner yn cynnwys pedwar chwarter gyda seren goch a seren las mewn dau chwarter a'r ddau chwarter arall yn las a'r llall yn goch. Mae'r coch (Rhyddfrydol) a glas (ceidwadol) yn cynrychioli'r ddau blaid wleidyddol sy'n bresennol ar adeg y sylfaeni'r wladwriaeth yma yng Nghanolbarth America. Mae'r gwyn yn cynrychioli'r heddwch y mae'r sefydliadau'n gweithredu ynddi.[1]
Enghraifft o'r canlynol | baner cenedlaethol |
---|---|
Lliw/iau | gwyn, glas, coch |
Dechrau/Sefydlu | 25 Mawrth 1925 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Tachwedd y 4ydd yw Diwrnod y Faner - sef diwrnod Annibyniaeth Panama oddi ar Colombia.
Hanes
Mabwysiadwyd y faner yn swyddogol ar 4 Tachwedd 1925[2] ac mae'n seiliedig ar y faner a fabwysiadwyd ym 1903 a addasu yn ddiweddarach. Roedd y faner wreiddiol wedi ei ddylunio gan y diplomydd Panamanaidd, Manuel Amador Terreros, ar noson 1 Tachwedd 1903. Ei fwriad oedd creu baner yn cynrychioli byd gwleidyddol y Panama ar yr adeg honno. Mae'r glas hefyd yn cynrychioli'r Môr Tawel a'r Môr y Caribî; coch y gwaed a gollwyd dros y wlad a gwyn am heddwch.
Mae'r faner gyfredol yn union yr un peth â'r faner wreiddiol ond bod y sêr wedi ffeirio lle gyda'r chwarter lliw llawn gan roi'r seren las uchaf yn y canton sydd yn fwy arferol i'r lygad ac yn dilyn confensiwn Banereg.[3]
Cynigwyd cynllun arall gan Philippe Bunau-Varilla yn 1903 [4] oedd wedi ei seilio ar faner yr Unol Daleithiau a chwaraeodd ran yn mrwydr Panama dros annibyniaeth oddi ar Colombia gan gyfuno'r lliwiau melyn a choch - lliwiau sydd ym maneri Colombia a Sbaen er mwyn cydnabod perthynas Panama gyda'r ddwy wlad honno. Yn y canton dyluniwyd ddau haul yn symbol o ogledd a de America gyda dolen rhyngddynt yn symbol o Gamlas Panama ac uno dwy gefnfor. Gwrthowyd y cynllun yma gan ei fod yn rhy debyg i faner yr UDA.
Defnydd Rhyngwladol
Mae baner Panama yn adnabyddus ar draws y byd fel baner cyfleustra. Caiff ei chwifio gan longau masnach er mwyn hwylstod masnachu.
Baneri Hanesyddol
- Baner Gwladwriaeth Sofran Panama pan oedd yn rhan o Wladwriaeth Unedig Colombia, 1855-1886)
- Cynnig baner Philippe Bunau-Varilla (1903)
- Baner Panama 1903-1925. Noder fod y sêr wedi newid safle yn y faner a ddefnyddir yn gyfredol
- Ystondard Arlywydd Panama