Baner Ynysoedd Americanaidd y Wyryf

baner

Mabwysiadwyd baner Ynysoedd Virgin yr Unol Daleithiau ar 17 Mai 1921 ar gyfer Ynysoedd Americanaidd y Wyryf. Mae'n cynnwys fersiwn symlach o arfbais yr Unol Daleithiau rhwng y llythyrau V a I (ar gyfer "Virgin Islands"). Mae'r eryr aur yn dal sbrigyn o lawryf mewn un crafanc, a thair saeth yn y llall. Mae'r lliw glas yn y tarian ar fron yr eryr yr un lliw â tharian yr Unol Daleithiau.[1]

Baner Ynysoedd Americanaidd y Wyryf

Ynys Denmarc

Baner Drefedigaethol Denmarc a ddefnyddiwyd yn 'India'r Gorllewin Denmarc' hyd at 1917

Rhwng 1754 a 1916, ffurfiodd yr ynysoedd ran o India'r Gorllewin Denmarc, rhan o ymerodraeth Danmarc. Yn swyddogol, nid oedd unrhyw faner ynghlwm wrthynt heblaw am faner Denmarc.

Fodd bynnag, mae sôn am faner syml wedi'i modelu ar y Blue Ensign Brydeinig gyda baner Denmarc yn y canton.[2] Mae'n bresennol ar baentiadau a darluniau, lle gwelir yn chwifio nid o'r brif bolyn lle mae faner genedlaethol Denmarc y chwifio ond yn hytrach ar flaen y llong. Roedd baner ar y polyn blaen yma yn dangos tarddiad y perchennog neu gyrchfan y llong. Byddai llongau oedd yn ei chwifio yn dangos unai ei bod yn hwylio yn nyfroedd Denmarc a Norwy, neu eu bod ynghlwm wrth borthladdoedd Ewrop. Daethpwyd i'r casgliad, er bod ansafonol, bod hon yn faner cwrteisi wedi'i briodoli i India'r Gorllewin Denmarc.

Gwerthodd Denmarc yr ynys i'r UDA yn 1916 am $25 miliwn, gwerth $575.61 miliwn mewn arian 2018. Trosglwyddwyd yr ynysoedd yn 1917 wedi refferendwm ar y cytundeb yn Nenmarc.

Ynys yr UDA

Dechreuodd y syniad o faner Ynysoedd Virgin yr UDA o dan gweinyddiaeth Rear Admiral Summer Ely, Whitmore Kitelle, a wnaethpwyd yn llywodraethwr yr ynysoedd ar 26 Ebrill 1921. Aeth at Mr. White, capten llong y Grib ac at Percival Wilson Sparks, a gofynnodd iddynt am awgrymiadau ar gyfer dyluniad baner. Tynnodd Sparks, a oedd yn gartwnydd, ddyluniad ar bapur. Wedi hynny, trosglwyddwyd dyluniad Sparks ar ddeunydd cotwm trwm, a gofynnodd i'w wraig, Grace, a'i chwaer, Blanche Joseph, brodio'r dyluniad.

Dolenni

Cyfeiriadau