Barbwysau

Darn o offer a ddefnyddir wrth hyfforddi gyda phwysau, codi pwysau a chodi pŵer ydy barbwysau.[1] Amrywia hyd barbwysau o 4 i 8 troedfedd, er gan amlaf defnyddir barau dros 7 troedfedd o hyd gan godwyr pŵer ac nid ydynt mor gyffredin.[2] Mae'r rhan ganol yn amrywio o ran diamedr, ond mae'n agos i fodfedd, a cheir arno batrwm cris-croes er mwyn rhoi gwell gafael i'r codwyr. Llithrir platiau pwysau ar ran allanol y bar er mwyn cyrraedd y pwysau a ddymunir.[3]

Dyn yn gwneud gwasg fainc 345lb (156kg).

Cyfeiriadau

Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: mainc wthio o'r Saesneg "bench press". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.