Betty Ford
{{Gwybodlen Arweinydd| trefn =| swydd =Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau| arlywydd =Gerald Ford | dechrau_tymor =9 Awst 1974| diwedd_tymor =20 Ionawr 1977| rhagflaenydd =Pat Nixon| olynydd =Rosalynn Carter| swydd2 = Is-Brif Foneddiges yr Unol Daleithiau| arlywydd2 = Richard Nixon| is-arlywydd2 = Gerald Ford| dechrau_tymor2 = 6 Rhagfyr 1973| diwedd_tymor2 = 9 Awst 1974| rhagflaenydd2 = Judy Agnew| olynydd2 = Happy Rockefeller
Betty Ford | |
---|---|
Ganwyd | Elizabeth Anne Bloomer Ford 8 Ebrill 1918 Chicago |
Bu farw | 8 Gorffennaf 2011 Rancho Mirage |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dawnsiwr, ysgrifennwr, hunangofiannydd, model, ymgyrchydd dros hawliau merched, gwleidydd |
Swydd | Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau, Is-Brif Foneddiges yr Unol Daleithiau |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Priod | Gerald Ford, William Warren |
Plant | Michael Gerald Ford, John Gardner Ford, Steven Ford, Susan Ford |
Gwobr/au | 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Oriel yr Anfarwolion Menywod Michigan, Gwobr Lasker-Bloomberg gwasanaeth cyhoeddus, Medal Aur y Gyngres, Medal Rhyddid yr Arlywydd |
llofnod | |
Gwraig cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau Gerald Ford oedd Elizabeth Ann Bloomer Warren Ford, a oedd yn fwy adnabyddus fel Betty Ford (8 Ebrill 1918 – 8 Gorffennaf 2011[1][2]). Bu'n Brif Foneddiges yr Unol Daleithiau o 1974 tan 1977. Tra'r oedd yn Brif Foneddiges, bu'n weithgar o safbwynt polisi cymdeithasol a bu'n weithgar fel gwraig arlywyddol.
Bu'n boblogaidd iawn er gwaethaf ei safiad rhyddfrydol ar faterion cymdeithasol. Ymgyrchodd dros nifer o faterion sensitif y dydd gan gynnwys cancr y fron yn dilyn ei mastectomi yn 1974, hawliau merched, ffeministiaeth, erthyliad, cyffuriau, cyflog cyfartal a thrwy wneud sylwadau ar faterion y dydd - rhywbeth nad oedd unrhyw Brif Foneddiges wedi'i wneud cyn hynny. Cyhoeddodd yn y 1970 iddi frwydro'n galed yn erbyn alcoholiaeth a chyffuriau.
Cyfeiriadau
Rhagflaenydd: Pat Nixon | Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau 1974 – 1977 | Olynydd: Rosalynn Carter |