Bradford

Dinas yng Ngorllewin Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, yw Bradford.[1] Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Dinas Bradford.

Bradford
Mathdinas Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Bradford
Poblogaeth293,277 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Skopje, Roubaix, Verviers, Mirpur District, Mönchengladbach, Gaillimh, Hamm, Mirpur Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGorllewin Swydd Efrog
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd64,361,204 m² Edit this on Wikidata
Uwch y môr214 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaYorkshire Dales Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.794°N 1.751°W Edit this on Wikidata
Cod OSSE163329 Edit this on Wikidata
Cod postBD1-BD99 Edit this on Wikidata
Map

Daeth yn dref ddiwydiannol gyfoethog yn y 19g. Gwnaethpwyd yn fwrdeistref yn 1847 ac yn ddinas yn 1897.

Hanes

Roedd Bradford am amser hir yn ganolfan i'r diwydiant gwlân yn Riding Gorllewinol Efrog. Daw'r enw o'r 'Rhyd Lydan' (Broad Ford) a oedd yn agos i'r lle mae'r eglwys gadeiriol yn sefyll nawr. Roedd Bradford yn bodoli fel pentref cyn y Goresgyniad Normanaidd.

Nid oes afon fawr ynddi, ond mae'r nant, sef y Bradford Beck, yn rhedeg tuag at Afon Aire tua Shipley.

Adeiladau a chofadeiladau

  • Cofadeilad y Bradford Pals
  • Eglwys gadeiriol
  • Neuadd Cartwright
  • Neuadd St George
  • Neuadd y ddinas
  • Sinema Pictureville

Enwogion

  • Samuel Lister (1815-1906), dyfeisiwr
  • Charlotte Bronte (1816-1855), nofelydd a bardd
  • Emily Bronte (1818-1848), nofelydd a bardd
  • Anne Bronte (1820-1849), nofelydd a bardd
  • J. B. Priestley (1894-1984), dramodydd
  • Albert Pierrepoint (1905-1992), dienyddiwr
  • Austin Mitchell (1934-2021), gwleidydd
  • David Hockney (g. 1937), arlunydd
  • Richard Whiteley (1943-2005), cyflwynydd teledu
  • Kiki Dee (g. 1947), cantores
  • Gareth Gates (g. 1984), canwr
  • Brian Noble (g. 1961), chwaraewr rygbi

Cyfeiriadau


Eginyn erthygl sydd uchod am Gorllewin Swydd Efrog. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato