Brendan O'Carroll

Awdur, comediwr a chynhyrchydd Gwyddelig yw Brendan O'Carroll (g. 15 Medi 1955) a adnabyddir yn bennaf am ei waith Mrs Brown's Boys a sgwennir ganddo; ef hefyd sy'n actio'r brif ran, sef Mrs Agnes Brown.[1]

Brendan O'Carroll
Ganwyd15 Medi 1955 Edit this on Wikidata
Finglas Edit this on Wikidata
Man preswylDavenport, Florida Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Galwedigaethactor, digrifwr, nofelydd, ysgrifennwr, actor llwyfan, actor teledu Edit this on Wikidata
MamMaureen O'Carroll Edit this on Wikidata
PriodJennifer Gibney Edit this on Wikidata
PlantFiona O'Carroll, Danny O'Carroll Edit this on Wikidata
Gwobr/auPeople of the Year Awards Edit this on Wikidata

Y dyddiau cynnar

Ganwyd Brendan O'Carroll yn Finglas, Dulyn, yr ieuengaf o 11 plentyn.[2] Roedd ei fam, Maureen O'Carroll, yn Teachta Dála (Aelod Seneddol) yn y Dáil Éireann ar ran Plaid Lafur yr Alban. Saer oedd ei dad, Gerald. Gadawodd Brendan yr ysgol yn 12 oed ac aeth i weithio fel gweinydd mewn tŷ bwyta, dyn llaeth ayb.[3]

Bywyd personol

Priododd Brendan O'Carroll Doreen yn from 1977, hyd at 1999. Priododd Jennifer Gibney yn 2005. Mae ganddo bedwar o blant: Brendan (bu farw), Danny, Fiona ac Eric. Bu farw mab hynaf Brendan, sef Brendan, o spina bifida pan oedd ychydig ddyddiau oed.

Roedd taid Brendan, ar ochr ei dad, yn aelod o Weriniaethwyr Iwerddon, ac fe'i saethwyd yn farw ar 16 Hydref 1920 yn ei gartref yn nulyn. Roedd dau o'i fechgyn yn aelodau o Fyddin Weriniaethol Iwerddon.[4][5]

Gyrfa

Comediwr

Yn 2010 cyhoeddodd Brendan O'Carroll bedair DVD, yn dilyn ei ymddangosoad ar The Late Late Show: How's your Raspberry Ripple, How's your Jolly Roger, How's your Snowballs a How's your Wibbly Wobbly Wonder.[6][7]

Sparrow's Trap

Ysgrifennodd y ffilm Sparrow's Trap gyda Stephen Rea yn chwarae'r brif ran; ond aeth i drafferthion ariannol hanner ffordd drwy'r ffilmio.[7] Cyhoeddodd Brendan ei fod yn fethdalwr.[8]

Hot Milk and Pepper

Yn Chwefror 2013 cyflwynodd gwis ar RTÉ One gyda Gerry Browne.[9][10]

Mrs. Brown's Boys

Rhyddhawyd Mrs. Brown's Boys yn wreiddiol ar RTÉ 2fm, sef gorsaf radio Gwyddelig, yn 1992, ac yna fel cyfres o lyfrau, gan Brendan O'Carroll yng nghanol y 1990au.[11][12] Teitlau'r llyfrau unigol oedd: The Mammy, The Chisellers, The Granny, a The Young Wan, ac fe'u cyhoeddwyd yn Iwerddon cyn iddynt gael eu cyhoeddi yng ngwledydd Prydain.[13]

Ffilmograffi

Ffilm

BlwyddynTeitlCymeriad
1996The VanWeslie
1999Agnes BrowneSeamus the Drunk
2014Mrs Brown's Boys D'MovieAgnes Brown and Mr. Wang
2016/17Mrs. Brown's Boys D'Movie 2Agnes Brown

Teledu

BlwyddynTeitlRôl
2004Max and Paddy's Road to NowhereGypsy Joe
2011–presentMrs Brown's BoysAgnes Brown
2013The Security MenJimmy
2015Mrs Brown's Boys: The Animated Series

Agnes Brown

2016–presentThe CourseJoe Daly

Llwyfan

BlwyddynTeitlRôl
1999Mrs Brown's Last WeddingAgnes Brown
2002, 2012, 2014Mrs Brown Rides Again
2002, 2011–12Good Mourning Mrs Brown
2007, 2013For The Love of Mrs Brown
2009, 2015How Now Mrs Brown Cow

Cyfeiriadau