Brighton
Tref ar arfordir sir seremonïol Dwyrain Sussex, De-ddwyrain Lloegr, ydy Brighton,[1] sydd ynghyd a'i Hove yn ffurfio Dinas Brighton a Hove. Brighton yw un o drefi glan-môr mwyaf ac enwocaf ym Mhrydain.
Math | tref, dinas fawr, ardal ddi-blwyf, tref farchnad, city of United Kingdom |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Brighton a Hove |
Poblogaeth | 134,293 |
Gefeilldref/i | Cali, Dieppe, Reykjanesbær |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dwyrain Sussex (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 82.67 km² |
Uwch y môr | 22 metr |
Cyfesurynnau | 50.8208°N 0.1375°W |
Cod OS | TQ315065 |
Cod post | BN1, BN2, BN50, BN88 |
Mae anheddiad hynafol Brighthelmston yn dyddio o cyn Llyfr Dydd y Farn (1086), ond trodd yn gyrchfan iechyd yn ystod yr 18g a chyrchfan poblogaidd ar gyfer trip un diwrnod gyda dyfodiad y rheilffordd yn 1841. Profiadodd Brighton dŵf poblogaeth cyflym iawn gan gyrraedd uchafbwynt poblogaeth o 160,000 erbyn 1961.[2] Mae Brighton cyfoes yn ffurfio rhan o glymdref Brighton, Worthing a Littlehampton sy'n ymestyn i lawr yr arfordir, gyda poblogaeth cyfan o tua 480,000.[3]
Mae Brighton yn gyrchfan twristiaeth poblogaidd gyda nifer o westai, tai bwyta a chyfleusterau adloniant sydd hefyd yn helpu i weini diwydiant cynhadledd busnes. Mae dinas gyfoes Brighton a Hove hefyd yn ganolfan addysg pwysig gyda dwy brifysgol a nifer o ysgolion Seisnig.
Hanes
Yn Llyfr Dydd y Farn, gelwyd Brighton yn Bristelmestune a sefydlwyd rhent o 4,000 o benwaig.[4] Ym mis Mehefin 1514, llosgwyd Brighthelmstone i'r ddaear gan yr ysbeilwyr Ffrengig yn ystod rhyfel rhwng Lloegr a Ffrainc. Dim ond rhan o Eglwys Sant Nicholas a phatrwm y strydoedd a adnabyddir heddiw fel y Lanes a oroesodd yr ymosodiad. Cyflawnwyd y darlun cyntaf a wyddwn amdano o Brighthelmstone yn 1545, mae'n dangos beth a gredir yw ymosodiadau 1514.[5]Yn ystod yr 1740au a'r 1750au, dechreuodd y meddyg Richard Russell o Lewes, ddarnodi defnydd meddyginiaethol dŵr môr Brighton iw gleifion. Erbyn 1780, roedd datblygiad y terasau Rhaglywiaeth wedi dechrau a daeth y pentref yma'n fuan yn gylchfan ffasiynol Brighton. Annogwyd tef y dref yn bellach yn dilyn nawddogaeth y Tywysog Rhaglyw (yn ddiweddarach Siôr IV) ar ôl ei ymweliad cyntaf yn 1783.[6] Treuliodd lawer o'i amser hamdden yn y dref ac adeiladodd y Pafiliwn Brenhinol drud ac egsotig yn ystod ddyddiau cynnar ei raglywiaeth.
Gyda dyfodiad y rheilffordd yn 1841, daeth Brighton o fewn cyrraedd teithwyr un diwrnod o Lundain, a gwelodd dwf poblogaeth cyflym o tua 7,000 yn 1801 i dros 120,000 erbyn 1901.[7] Gwelodd yr Oes Fictoraidd adeilad nifer o dirnodau enwog yn Brighton gan gynnwys y Grand Hotel (1864), Pier y Gorllewin (1866) a Pier y Palas (1899).
Enwogion
- Eleanor Vere Boyle (1825-1916), arlunydd
- Frederick Courtenay Morgan (1834-1909), gwleidydd
- Charles Hanbury-Tracy (1840-1922), gwleidydd
- Emily Gravett (g. 1972), darlunydd ac awdures
- Samantha Womack (g. 1972), actores
- Jordan (Katie Price) (g. 1978), model
- Stephanie Parker (1987-2009), actores
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwybodaeth twristiaeth ayb. ar city-of-brighton.com Archifwyd 2007-10-14 yn y Peiriant Wayback.
- (Saesneg) Gwybodaeth twristiaeth ar visitbrighton.com
- Llun Satellite o Brighton ar Google Maps
- (Saesneg) 'Brighton Museum & Art Gallery'
- (Saesneg) History of Brighton and the Royal Pavilion palace
- (Saesneg) Brighton & Hove mewn lluniau
Dinas
Brighton a Hove
Trefi
Battle · Bexhill-on-Sea · Brighton · Crowborough · Eastbourne · Hailsham · Hastings · Heathfield · Hove · Lewes · Newhaven · Peacehaven · Polegate · Rye · Seaford · Telscombe · Uckfield · Wadhurst · Winchelsea