Bwncath cefngoch
Bwncath cefngoch Buteo polyosoma | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Falconiformes |
Teulu: | Accipitridae |
Genws: | Geranoaetus[*] |
Rhywogaeth: | Geranoaetus polyosoma |
Enw deuenwol | |
Geranoaetus polyosoma | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Bwncath cefngoch (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: bwncathod cefngoch) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Buteo polyosoma; yr enw Saesneg arno yw Red-backed hawk. Mae'n perthyn i deulu'r Eryr (Lladin: Accipitridae) sydd yn urdd y Falconiformes.[1]
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn B. polyosoma, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Mae'r bwncath cefngoch (Geranoaetus polyosoma) neu'r bwncath amrywiol yn aderyn ysglyfaethus polymorffig yn y teulu Accipitridae. Mae'n eang ei ddosbarthiad ac yn aml yn gyffredin mewn cynefinoedd agored yng ngorllewin a de America, gan gynnwys Ynysoedd y Falkland. Mae yna anghytuno ynglŷn â'i dacsonomeg,
Disgrifiad
Mae'r enw bwncath amrywiol yn cael ei haeddu'n llawn, gan fod y ddau ryw yn digwydd mewn sawl ffurf. Mae gan oedolion o bob un gynffon wen gyda band is-derfynol du ac adenydd llwyd gyda barrau tywyll. Mae o leiaf 27 o batrymau plu oedolion gwahanol yn hysbys yn y rhywogaeth hon, o bosibl y mwyaf o unrhyw aderyn ysglyfaethus.
Teulu
Mae'r bwncath cefngoch yn perthyn i deulu'r Eryr (Lladin: Accipitridae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Boda ystwyth | Polyboroides typus | |
Boda ystwyth Madagasgar | Polyboroides radiatus | |
Bwncath adeingoch | Butastur liventer | |
Bwncath sioncynnod | Butastur rufipennis | |
Eryr nadroedd cyffredin | Circaetus gallicus | |
Eryr nadroedd gwinau | Circaetus cinereus | |
Eryr nadroedd llwyd | Circaetus cinerascens | |
Eryr nadroedd rhesog | Circaetus fasciolatus | |
Gwalch du | Buteogallus anthracinus | |
Gwalch du mawr | Buteogallus urubitinga | |
Gwalch gyddfwyn | Buteogallus lacernulatus | |
Gwalch safana | Buteogallus meridionalis |
Cynefin
Mae'r bwncath cefngoch a'i amrywiadau yn mynychu cynefinoedd agored ym mhob lefel o uchder tir. Mae'r ffurf 'cefngoch' yn byw yn yr ystod ehangaf o gynefinoedd, gan gynnwys parthau uwchben y llinell goed mewn mynyddoedd, bryniau arfordirol Pacific, stepdir Patagonia, ardaloedd amaethyddol ac ymylon afonydd, coedwigoedd ffawydd a choedwigoedd lled-fynyddig ac iseldir.
Ymddygiad
Fe'u gwelir amlaf yn ymgodi ar thermalau cynnes neu fe ellir eu gweld yn gwylio am eu prae ar bron unrhyw fath o glwyd cyfleus gan gynnwys polion neu goed. Maent yn hela anifeiliaid bychan neu o faint canolig; dangosodd rhai astudiaethau bod mamaliaid bach yw mwy na 90% o'u hysglyfaeth.
Cenhedlu
Mae tymor nythu yn amrywio'n fawr a hynny'n wahanol i bob ffurf ar y rhywogaeth. Maent yn adeiladu nythod o frigau ar unrhyw strwythur cynhaliol sydd ar gael. Weithiau mae nhw'n bridio'n gydweithredol. Dodwyir un i dri wy a'r cyfnod gori yw 26 i 36 diwrnod. Mae'r yn hedfan yn hedfan o 40 i 74 diwrnod. Mae'r mathau mwy eu maint ar diroedd uwch yn cymryd mwy o amser i'w deori ac yn llawer hirach i ddatblygu na'r mathau o dirweddau is.