Carme Forcadell i Lluís

Carme Forcadell i Lluís (ganwyd yn Xerta, Baix Ebre yn 1956) yw Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia o'i sefydlu yn 2012 hyd at Mai 2015.[1][2] . Mae'n awdures nifer o lyfrau, yn bennaf am iaith ac addysg.[3]

Yr Athro Carme Forcadell i Lluís
Carme Forcadell i Lluís

Carmen Forcadell yn traddodi araith yn y Plaza de Catalonia, Barcelona


Llywydd Llywodraeth Catalwnia
Deiliad
Cymryd y swydd
26 Hydref 2015
Is-Arlywydd(ion)  Lluís Corominas i Díaz
José María Espejo-Saavedra Conesa
RhagflaenyddNúria de Gispert

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Catalunia
(Assemblea Nacional Catalana)
Deiliad
Cymryd y swydd
2012–2015

Geni1956
Xerta, Baix Ebre
CenedligrwyddCatalwnia
EtholaethSabadell ( 2003 - 2007)
Plaid wleidyddolEsquerra Republicana de Catalunya
Tadogaethau
gwleidyddol
eraill
Junts pel Sí
Alma materPrifysgol Barcelona
GalwedigaethAthro Prifysgol mewn iaith a llenyddiaeth; awdures
Gwefancarmeforcadell.cat

Yn 2015 fe'i hetholwyd ar sedd yn Llywodraeth Catalwnia fel rhan o'r glymblaid Junts pel Sí ('Annibyniaeth Gyda'n Gilydd').[4] Yna, ar 26 Hydref 2015 etholwyd hi'n Llywydd Llywodraeth Catalwnia.

Yn Hydref 2016 bu'n rhaid iddi ymddangos o flaen Tribiwnlys Cyfansoddiadol Sbaen am iddi ganiatáu i'r Refferendwm dros Annibyniaeth gael ei gynnal. Penderfynodd y Tribiwnlys y byddai Carme'n cael ei herlyn mewn llys barn. Dywedodd wrth y Llys, ar 16 Rhagfyr 2016 iddi ganiatáu'r bleidlais gan i ddwy blaid ofyn amdano, ac y byddai'n gwneud yr un penderfyniad eilwaith. Dywedodd fod y Tribiwnlys,a wysiwyd gan Lywodraeth Sbaen, yn fodd i sensro a thawelu llais pobl Catalwnia.[5]

Addysg a gyrfa

Derbyniodd Carme radd mewn athroniaeth o Brifysgol Barcelona a gradd Meistr mewn Athroniaeth Catalan o'r un coleg. Am beth amser wedyn gweithiodd yn y cyfryngau, gan gynnwys TVE rhwng 1979 a 1982. Ers 1985 bu'n aelod o Adran Addysg y Llywodraeth ac mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ar iaith ac addysg yn ogystal â geiriadur.

Gwleidyddiaeth a gwaith

Mae'n aelod o 'Gomisiwn Dros Urddas' a'r 'Llwyfan Dros yr Hawl i Benderfynu' sy'n rhan o Bwyllgor y Cyfryngau.

Yn wleidyddol mae'n perthyn i asgell chwith y Gweriniaethwyr ac yn aelod o Esquerra Republicana de Catalunya; bu'n Gynghorydd Tref Sabadell rhwng 2003 a 2007.[6][7].

Yn haf 2012 roedd yn gyfrifol am gydlynnu'r 'Orymdaith Dros Annibyniaeth' yng Nghatalunia yn ogystal â bod yn Llywydd y Cynulliad. Roedd hefyd yn lladmerydd yn yr ymgyrchoedd Catalunya, nou estat d'Europa (Catalonia, Gwladwriaeth newydd Ewrop) a 'Via Catalana' (Y ffordd Catalunaidd). Gwobrwywyd Carme yn 2014 pan enillodd Wobr John White yn nhref Perpignan, am ei gwaith dros ei gwlad, ac am amddiffyn ei hunaniaeth a'i diwylliant.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolen allanol