Cath ysgithrog

Gall cath ysgrithrog fod yn unrhyw aelod o nifer o grwpiau diflanedig o famaliaid ysglyfaethus a gafodd eu nodweddu gan ddannedd hir, siap crymgledd. Roedd dannedd llygad mwyaf yn ymestyn o'r geg hyd yn oed pan oedd ar gau. Daethpwyd o hyd i'r cathod ysgrithog ledled y byd o'r cyfnod Ëosen hyd at ddiwedd y cyfnod Pleistosen (42 miliwn o flynyddoedd yn ôl hyd at 11,000 o flynyddoedd yn ôl), sy'n golygu eu bod wedi bodoli am tua 42 miliwn o flynyddoedd.[1][2][3]

Penglog Smilodon wedi'i gastio â'i geg ar agor led y pennnnnnngh

Un o'r genera mwyaf adnabyddus yw Smilodon, sydd wedi dod i gael ei adnabod (er yn anghywir) fel 'teigr ysgithrog'.

Ar y cyfan, roedd cathod ysgrithrog yn fwy cadarn na chathod heddiw ac roedden nhw'n debyg iawn i eirth o ran corffolaeth. Yn wir, nid yw nifer o'r rhywogaethau sy'n cael eu galw'n 'gathod' ysgithrog yn perthyn yn agos i gathod Felidae modern. Credid bod y cathod ysgithrog yn helwyr gwych ac yn hela anifeiliaid fel diogod, mamothiaid, ac ysglyfaeth mawr arall fel eliffantod a rhinoserosiaid. Mae tystiolaeth o'r niferoedd a geir yn Pydewau La Brea Tar yn awgrymu bod y Smilodon, fel y llew modern, yn cigysydd cymdeithasol.[4]

Adluniad o Smilodon

Cyfeiriadau