Crys Polca Dot

(Ailgyfeiriad o Crys Dot Polca)

Caiff y Crys Polca Dot[1] neu'r Crys Smotiau Crynion[1] (Ffrangeg: maillot à pois rouges) ei wobrwyo i'r dringwr gorau yn ras seiclo y Tour de France. Gelwir enillydd y crys yn "Brenin y Mynyddoedd" a gwisgai grys gwyn gyda smotiau coch.

Crys Polca Dot
Mathcrys arbennig mewn rasys seiclo Edit this on Wikidata
Lliw/iaugwyn, coch Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Fabian Wegmann yn derbyn y crys dot polca

Hanes

Yn 1933, dychmygwyd y syniad o gystadleuaeth brenin y mynyddoedd gyntaf. Yr enillydd oedd Vicente Trueba, a gyrhaeddodd copaon y mynyddoedd gyntaf. Er hyn, roedd Trueba yn wael iawn am ddisgyn y mynyddoedd, felly nid oedd fyth yn ennill dim o gyrraedd y copa gyntaf. Penderfynodd Cyfarwyddwr y Tour de France, Henri Desgrange, y dylai'r seiclwyr a gyrhaeddodd y copaon gyntaf dderbyn bonws. O 1934 ymlaen, rhoddwyd yr amser rhwng y seiclwr cyntaf i'r copa a'r ail, fel bonws amser ar gyfer y seiclwr cyntaf. Cafwyd wared ar y bonws yma yn ddiweddarach, ond delwyd i adnabod brenin y mynyddoedd.[2]Er i'r gystadleuaeth gael ei chyflwyno yn 1933, ni chyflwynwyd y grys tan 1975. Mae "Brenin y Mynyddoedd" yn gwisgo crys gwyn gyda smotiau coch (maillot à pois rouges), a gyfeirir ati fel y "crys dot polca" a ysbrydolwyd gan grys a welodd y cyn-drefnwr, Félix Lévitan, tra yn nhrac Vélodrome d'Hiver, Paris yn ei ieuenctid. Dewiswyd y lliwiau gan y cefnogwr ariannol, Chocolat Poulain (Cymraeg: Siocled Poulain), i gyd-fynd â un o'u cynnyrch. Ers 1993 cefnogir y grys gan archfarchnad Champion. Mae lliwiau'r grys hefyd wedi cael eu ymdopi gan rasys cam eraill seiclo megis y Tour of Britain.

Y Sefyllfa Bresennol

Penderfynir y gystadleuaeth gan bwyntiau a wobrwyir i'r beiciwr cyntaf i gyrraedd copa elltydd a mynyddoedd penodedig, gyda'r nifer mwyaf o bwyntiau ar gael ar y bryniau caletaf eu dringo. Caiff y bryniau eu rhannu i sawl categori, o 1 (y caletaf) i 4 (y lleiaf caled), mesurir pa mor anodd ydynt ar sail eu serthrwydd a'u hyd. Mae pumed categori, sef Hors catégorie (di-gategori), ar gyfer y bryniau yn galetach fyth na rhai categori 1. Newidiwyd y system sgorio yn 2004, a cafodd y cyntaf i gopa dringiad categori 4 3 pwynt, tra bod y cyntaf i groesi copa Hors catégorie yn derbyn 20 o bwyntiau. Gwobrwyir pwyntiau i'r 3 beiciwr cyntaf i gopa bryn categori 4 tra bod y 10 cyntaf yn derbyn pwyntiau ar fryn Hors catégorie. Gwobrwywyd pwyntiau dwbl hefyd yn 2004, os oedd y cymal yn gorffen ar ben bryn, ac os oedd y bryn yng nghategori 2 neu uwch.

Dosbarthu'r Pwyntiau

 Rhybudd! Mae angen cywiro iaith yr erthygl hon.
Beth am fynd ati i'w chywiro?

Dyma restr o erthyglau i'w cywiro: Tudalennau â phroblemau ieithyddol.

Dringiadau yn y "Hors Catégorie" (HC): 20, 18, 16, 14, 12, 10, 8, 7, 6 ac 5 o bwyntiau ar gyfer y 10 reidiwr cyntaf i'r copa.

Dringiadau Categori 1: Rhoddir 15, 13, 11, 9, 8, 7, 6 ac 5 o bwyntiau ar gyfer y 8 reidiwr cyntaf i'r copa.

Dringiadau Categori 2: Rhoddir 10, 9, 8, 7, 6, ac 5 o bwyntiau ar gyfer y 6 reidiwr cyntaf i'r copa.

Dringiadau Categori 3: Rhoddir 4, 3, 2 ac 1 o bwyntiau ar gyfer y 4 reidiwr cyntaf i'r copa.

Dringiadau Categori 4: Rhoddir 3, 2 ac 1 o bwyntiau ar gyfer y 3 reidiwr cyntaf i'r copa.

NODYN: Ar gyfer dringiad olaf cam, bydd y pwyntiau'n cael eu dwblu (ar gyfer dringiadau HC, Cat 1 a Cat 2 yn unig).

Os bydd cwlwm rhwng nifer o bwyntiau'r safle gyntaf, bydd y nifer o fuddugoliaethau ar ddringiadau HC yn perderfynnu enillyd y Grys Dot Polca, ac yna nifer buddugoliaethau drigidau Categori 1 os oes dal cwlwm ac yna Categori 2, ayb.

Brenin y Mynyddoedd

Enillwyr sawl gwaith

SafleEnwGwladSawl gwaithBlynyddoedd
1Richard Virenque 71994, 1995, 1996, 1997, 1999, 2003, 2004
2Federico Bahamontes 61954, 1958, 1959, 1962, 1963, 1964
 Lucien Van Impe 61971, 1972, 1975, 1977, 1981, 1983
4Julio Jiménez 31965, 1966, 1967
5Felicien Vervaecke 21935, 1937
 Gino Bartali 21938, 1948
 Fausto Coppi 21949, 1952
 Charly Gaul 21955, 1956
 Imerio Massignan 21960, 1961
 Eddy Merckx 21969, 1970
 Luis Herrera 21985, 1987
 Claudio Chiappucci 21991, 1992
 Laurent Jalabert 22001, 2002
 Michael Rasmussen 22005, 2006

Yr Holl Enillwyr

BlwyddynEnwGwlad
1933Vicente Trueba
1934René Vietto
1935Félicien Vervaecke
1936Julián Berrendero
1937Félicien Vervaecke
1938Gino Bartali
1939Sylvère Maes
1947Pierre Brambilla
1948Gino Bartali
1949Fausto Coppi
1950Louison Bobet
1951Raphaël Géminiani
1952Fausto Coppi
1953Jesús Loroño
1954Federico Bahamontes
1955Charly Gaul
1956Charly Gaul
1957Gastone Nencini
1958Federico Bahamontes
1959Federico Bahamontes
1960Imerio Massignan
1961Imerio Massignan
1962Federico Bahamontes
1963Federico Bahamontes
1964Federico Bahamontes
1965Julio Jiménez
1966Julio Jiménez
1967Julio Jiménez
1968Aurelio González
1969Eddy Merckx
1970Eddy Merckx
1971Lucien Van Impe
1972Lucien Van Impe
1973Pedro Torres
1974Domingo Perurena
1975Lucien Van Impe
1976Giancarlo Bellini
1977Lucien Van Impe
1978Mariano Martinez
1979Giovanni Battaglin
1980Raymond Martin
1981Lucien Van Impe
1982Bernard Vallett
1983Lucien Van Impe
1984Robert Millar
1985Luis Herrera
1986Bernard Hinault
1987Luis Herrera
1988Steven Rooks
1989Gert-Jan Theunisse
1990Thierry Claveyrolat
1991Claudio Chiappucci
1992Claudio Chiappucci
1993Tony Rominger
1994Richard Virenque
1995Richard Virenque
1996Richard Virenque
1997Richard Virenque
1998Christophe Rinero
1999Richard Virenque
2000Santiago Botero
2001Laurent Jalabert
2002Laurent Jalabert
2003Richard Virenque
2004Richard Virenque
2005Michael Rasmussen
2006Michael Rasmussen
2007Mauricio Soler

Enillwyr yn ôl Cenediglrwydd

SafleGwladEnwau'r Enilwyr AmlafYr Enillydd DiweddarafNifer o Ennillion
1 Richard Virenque (7)Richard Virenque 200418
2 Federico Bahamontes (6)Domingo Periwreña 197415
3 Gino Bartali, Fausto Coppi,
Imerio Massignan a Claudio Chiappucci (2)
Claudio Chiappucci 199212
4 Lucien Van Impe (6)Lucien Van Impe 198311
5 Luis Herrera (2)Mauricio Soler 20074
6 Michael Rasmussen (2)Michael Rasmussen 20062
  Charly Gaul (2)Charly Gaul 19562
  Steven Rooks a Gert-Jan TheunisseGert-Jan Theunisse 19892
9 Tony RomingerTony Rominger 19931
  Robert MillarRobert Millar 19841

Cyfeiriadau