Cwpan Pêl-droed y Gwlff

twrnamaint pêl-droed gwledydd Arabaidd Gwlff Persia

Twrnamaint pêl-droed yw Cwpan Pêl-droed Cenhedloedd y Gwlff neu Cwpan y Gwlff Arabaidd, neu Cwpan y Gwlff (Arabeg: كأس الخليج العربي ; Saesneg: The Gulf Cup) a gynhelir bob dwy flynedd (fel rheol) rhwng cenhedloedd Arabaidd Gwlff Persia ynghyd ag Irac ac Yemen. Cowait yw'r mwyaf llwyddiannus, a Bahrain gynhaliodd y gystadleuaeth am y tro cyntaf. Fel mae enw'r twrnamaint yn awgrymu dim ond gwledydd Arabaidd sy'n cystadlu am y cwpan a dydy Iran (sydd ddim yn wlad Arabaidd) ond sydd ag arfordir hir iawn ar hyd ochr ogleddol y Culfor, ddim yn rhan o'r digwyddiad.

Cwpan Pêl-droed y Gwlff
Organising bodyArab Gulf Cup Football Federation
Founded1970
Number of teams8
Current champions Bahrein
 (teitl 1af)
Most successful team(s) Coweit
 (10 teitl)
Website[1]
24ain Cwpan Arabaidd y Gwlff
Tlws Cwpan y Gwlff ers y twrnamaint gyntaf yn 1970

Hanes

Crëwyd y bencampwriaeth hon ym 1968 yn ystod y Gemau Olympaidd yn Ninas Mecsico gan Bahrain, Kuwait, Saudi Arabia a Qatar. Cynhelir y twrnamaint yn ystod misoedd y gaeaf oherwydd gwres llethol aral Gwlff Persia a Phenrhyn Arabia. Cynhaliwyd y twrnamaint cyntaf hwn yn Bahrain. Cyhoeddwyd y byddai'r Cwpan oedd i'w chynnal yn 2022 yn cael ei gohirio nes 2023 oherwydd "tagfa digwyddiadau".[1]

Rhifynnau

Trefnwyd y gystadleuaeth 1af ym 1970 yn Bahrain, ac enillodd Kuwait.

Gan fod hon yn gystadleuaeth gyfeillgar, mae ei amseriad yn gallu bod yn afreolaidd.

Oherwydd y gwres, cynhlir y twrnamaint fel arfer yn y gaeaf.

Rhai Nodweddion Arbennig

Cwpan y Gwlff 2007

Yn y 18fed rhifyn, trechodd y gwesteiwr Emiradau Arabaidd Unedig Oman 1-0 yn y rownd derfynol.

Cwpan y Gwlff 2009

Yn ystod y 19eg rhifyn, enillodd y wlad letyol, Oman, y tlws am y tro cyntaf yn ei hanes yn erbyn Saudi Arabia (0-0, 6-5 t.a.b)

Cwpan y Gwlff 2014

Cynhaliwyd 22ain rhifyn Cwpan y Gwlff ym mis Tachwedd 2014 yn Saudi Arabia.

Enillwyr

Golygfa o stadiwm llawn-dop 18fed Cwpan Arabaidd y Gwlff yn Abu Dhabi, 2007
Enillwyr Cwpan Pêl-droed Cenhedloedd y Gwlff
BlwyddynEnillyddTîm FfeinalLleoliad
1970  Coweit Cowait  Bahrain Bahrain  Bahrain
1972  Coweit Cowait  Sawdi Arabia Arabia Sawdi  Sawdi Arabia
1974  Coweit Cowait  Sawdi Arabia Arabia Sawdi  Coweit
1976  Coweit Cowait  Irac Irac  Qatar
1979  Irac Irac  Coweit Cowait  Irac
1982  Coweit Cowait  Bahrain Bahrain  Emiradau Arabaidd Unedig
1984  Irac Irac  Qatar Qatar  Oman
1986  Coweit Cowait  Emiradau Arabaidd Unedig EAU  Bahrain
1988  Irac Irac  Emiradau Arabaidd Unedig EAU  Sawdi Arabia
1990  Coweit Cowait  Qatar Qatar  Coweit
1992  Qatar Qatar  Bahrain Bahrain  Qatar
1994  Sawdi Arabia Arabia Sawdi  Emiradau Arabaidd Unedig EAU  Emiradau Arabaidd Unedig
1996  Coweit Cowait  Qatar Qatar  Oman
1998  Coweit Cowait  Sawdi Arabia Arabia Sawdi  Bahrain
2000canslwydcanslwydcanslwyd
2002  Sawdi Arabia Arabia Sawdi  Qatar Qatar  Sawdi Arabia
2003  Sawdi Arabia Arabia Sawdi  Bahrain Bahrain  Coweit
2004  Qatar Qatar  Oman Oman  Qatar
2007  Emiradau Arabaidd Unedig EAU  Oman Oman  Emiradau Arabaidd Unedig
2009  Oman Oman  Sawdi Arabia Arabia Sawdi  Oman
2010  Coweit Cowait  Sawdi Arabia Arabia Sawdi  Iemen
2013  Emiradau Arabaidd Unedig EAU  Irac Irac  Bahrain
2014  Qatar Qatar  Sawdi Arabia Arabia Sawdi  Sawdi Arabia
2017  Oman Oman  Emiradau Arabaidd Unedig EAU  Coweit
2019  Bahrain Bahrain  Sawdi Arabia Arabia Sawdi  Qatar

Canlyniad fesul Gwlad

PencamwpwrGwladBlwyddyn
10 tro  Coweit Cowait1970, 1972, 1974, 1976, 1982, 1986, 1990, 1996, 1998, 2010
3 tro  Irac Irac1979, 1984, 1988
3 tro  Sawdi Arabia Arabia Sawdi1994, 2002, 2003
3 tro  Qatar Qatar1992, 2004, 2014
2 tro  Emiradau Arabaidd Unedig EAU2007, 2013
2 tro  Oman Oman2009, 2017
1 tro  Bahrain Bahrain2019

Nodyn: Cafodd Irac ei wahardd o'r gystadleuaeth o 1991 i 2003 oherwydd rhyfel.

  • Dim ond Yemen sydd byth wedi ennill y bencampwriaeth hon.

Dolenni

Cyfeiriadau