Cyflafan y blawd
Ymosodiad gan Luoedd Amddiffyn Israel yn erbyn sifiliaid Palesteinaidd ar gyrion Dinas Gaza oedd cyflafan y blawd[1] a ddigwyddodd ar 29 Chwefror 2024, yn ystod goresgyniad Llain Gaza gan Israel. Saethodd milwyr Israelaidd ar dorf a oedd wedi ymgynnull i dderbyn bwyd o lorïau a oedd yn dosbarthu cymorth dyngarol, ar stryd Al-Rashid ger cyrchfan Al-Nabulsi i orllewin Dinas Gaza, a bu farw o leiaf 118 o bobl ac anafwyd 760.[2] Yn ôl llygad-dystion a'r awdurdodau Palesteinaidd, ymosododd yr IDF ar sifiliaid ar bwrpas ac yn ddirybudd, ac achoswyd y nifer fwyaf o farwolaethau ac anafiadau gan fwledi. Mae llywodraeth a lluoedd arfog Israel yn mynnu i'r milwyr saethu taniadau rhybuddiol, heb geisio niweidio'r sifiliaid, ac i'r mwyafrif helaeth o farwolaethau gael eu hachosi gan ruthrad y dorf.
Enghraifft o'r canlynol | crowd crush, cyflafan, saethu torfol, Trosedd rhyfel |
---|---|
Dyddiad | 29 Chwefror 2024 |
Lladdwyd | 118 |
Rhan o | goresgyniad Llain Gaza gan Israel, Rhyfel Gaza |
Lleoliad | Dinas Gaza |
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina, Israeli-occupied territories |
Rhanbarth | Llain Gaza |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ar ddiwrnod y lladdfa, cyhoeddodd Gweinyddiaeth Iechyd Gaza o leiaf 112 o farwolaethau a 750 o anafiadau, a chondemniodd y Weinyddiaeth Materion Tramor y "gyflafan", a'i disgrifiodd yn rhan o "ryfel hil-leiddiol".[3]