Cyfrin gyngor

Corff sy'n cynghori pen gwladwriaeth yw cyfrin gyngor. Fel rheol mae cyfrin gynghorau yn rhan o drefn llywodraethol breniniaethau, byddent yn cynghori'r teyrn ynglŷn â sut i weithredu ei awdurdod gweithredol. Ystyr y gair "cyfrin" yw "cyfrinach(ol)"; yn hanesyddol roedd y cyfrin gyngor yn bwyllgor o gynghorwyr agosaf y brenin neu'r frenhines, a oedd yn rhoi cyngor cyfrinachol ar faterion y deyrnas.

Mewn gwledydd sydd ddim yn freniniaethau, y corff sy'n cyfateb i'r cyfrin gyngor yw'r cabinet, ond mewn rhai gwledydd, mae'r cabinet yn bwyllgor o'r cyfrin gyngor ei hun.

Cyfrin gynghorau

Cyfrin gynghorau sy'n dal i weithredu

  •  Awstralia : Cyngor Gweithredol Ffederal Awstralia
  •  Brwnei : Cyfrin Gyngor Brwnei
  •  Canada : Cyfrin Gyngor y Frenhines ar gyfer Canada
    • Swyddfa'r Cyfrin Gyngor
    • Cynghorau Gweithredol taleithiau a thiriogaethau
      • Cyngor Gweithredol Alberta
      • Cyngor Gweithredol British Columbia
      • Cyngor Gweithredol Manitoba
      • Cyngor Gweithredol Newfoundland a Labrador
      • Cyngor Gweithredol New Brunswick
      • Cyngor Gweithredol Québec
      • Cyngor Gweithredol Nova Scotia
      • Cyngor Gweithredol Ontario
      • Cyngor Gweithredol Ynys Prince Edward
      • Cyngor Gweithredol Saskatchewan
      • Cyngor Gweithredol Yukon
      • Cyngor Gweithredol Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin
      • Cyngor Gweithredol Nunavut
  •  Denmarc : Cyngor Gladwriaeth Denmarc
  •  Hong Cong : Cyngor Gweithredol Hong Cong
  •  Seland Newydd : Cyngor Gweithredol Seland Newydd
  •  Tonga : Cyfrin Gyngor Tonga
  •  Gwlad Tai : Cyfrin Gyngor Gwlad Tai
  •  Y Deyrnas Unedig : Cyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig
    • Pwyllgor Ynadol y Cyfrin Gyngor
    • Swyddfa'r Cyfrin Gyngor

Cyn gyfrin gynghorau

  •  Ffrainc : Conseil du Roi (diddymwyd ym 1799; cymerwyd ei le gan y Conseil d'État)
  •  Yr Almaen : Geheimrat (diddymwyd ym 1918; cymerwyd ei le gan y Cyngor y Dalaith)
  •  Gweriniaeth Iwerddon : Cyfrin Gyngor Iwerddon (diddymwyd ym 1922)
  •  Japan : Cyfrin Gyngor Japan (diddymwyd ym 1947)
  •  Gogledd Iwerddon : Cyfrin Gyngor Gogledd Iwerddon (dim yn weithredol er 1972)
  •  Rwsia : Cyfrin Gyngor Goruchaf (diddymwyd ym 1730)
  •  Yr Alban : Cyfrin Gyngor yr Alban (diddymwyd ym 1707)
  •  Sweden : Privy Council of Sweden (diddymwyd ym 1974; cymerodd cabinet y llywodraeth ei le)
  •  Y Deyrnas Unedig :
    • Cyngor Gweithredol Canada Uchaf 1792-1841; cymerwyd ei le gan Cyngor Gweithredol Talaith Canada
    • Cyngor Gweithredol Canada Isaf 1791-1841; cymerwyd ei le gan Cyngor Gweithredol Talaith Canada
    • Cyngor Gweithredol Talaith Canada 1841-1867; cymerwyd ei le gan Cyfrin Gyngor y Frenhines ar gyfer Canada