Cynhadledd y partïon

Cynhadledd y partïon (COP; Ffrangeg: Conférence des Parties, CP) yw corff llywodraethu goruchaf confensiwn rhyngwladol. Mae'n gytundeb ysgrifenedig rhwng actorion (aelodau) mewn cyfraith ryngwladol).

Cynhadledd o bleidiau'r Confensiwn Arfau Cemegol, yn 2007
Cyfarfod o Gynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2012

Mae'n cynnwys cynrychiolwyr o aelod-wladwriaethau ac arsylwyr achrededig. Maes gwaith y Gynhadledd yw adolygu "gweithredu'r Confensiwn ac unrhyw offerynnau cyfreithiol eraill y mae'r Gynhadledd yn eu mabwysiadu a gwneud penderfyniadau sy'n angenrheidiol i hyrwyddo gwaith y Confensiwn".[1]

Mae confensiynau gyda chynhadledd o'r fath yn cynnwys:

  • Confensiwn Basel
  • Confensiwn Arfau Cemegol
  • Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol
    • Cynhadledd Bioamrywiaeth Hyderabad 2012 (COP11)
    • Cynhadledd Bioamrywiaeth y Cenhedloedd Unedig 2022 (COP15)
  • Confensiwn ar Warchod Rhywogaethau Mudol o Anifeiliaid Gwyllt
  • Confensiwn ar Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau o Ffawna a Fflora Gwyllt mewn Perygl
  • Protocol Kyoto
  • Confensiwn Minamata ar Fercwri
  • Confensiwn Ramsar
  • Confensiwn Rotterdam
  • Confensiwn Stockholm ar Lygryddion Organig Parhaus
  • Cytundeb ar Beidio ag Amlhau Arfau Niwclear
  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig i Frwydro yn erbyn Diffeithdiro
  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig yn erbyn Llygredd (Corruption)

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Darllen pellach