Cytundeb Verdun
843 cytundeb yn rhanu yr Ymerodraeth Ffrancaidd rhwng wyr Charlemagne
Roedd Cytundeb Verdun, a gytunwyd ar 8 Awst neu 11 Awst 843, yn gytundeb rhwng tri mab Louis Dduwiol, wyrion Siarlymaen, i rannu'r Ymerodraeth Garolingaidd rhyngddynt.
Enghraifft o'r canlynol | cytundeb |
---|---|
Dyddiad cyhoeddi | Awst 843 |
Olynwyd gan | Treaty of Prüm |
Lleoliad | Verdun |
Prif bwnc | Middle Francia, West Francia, East Francia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Bu farw Louis Dduwiol yn 840 a cheisiodd ei fab hynaf Lothair ddod yn ymeradwr dros deyrnas ei dad. Roedd dau arall o feibion Louis yn fyw, Louis yr Almaenwr a Siarl Foel, a gwnaethant gynghrair i wrthwynebu Lothair (gweler Llwon Strasbwrg), gan ei orchfygu ym mrwydr Fontenoy-en-Puisaye yn 841.
Yn 843, cytunodd y tri brawd i rannu'r ymerodraeth:
- Siarl Foel yn derbyn Ffrancia Orllewinol (a ddaeth yn deyrnas Ffrainc yn ddiweddarach).
- Lothair I, oedd yn cael y teitl o ymerawdwr, yn derbyn Ffrancia Ganol (a enwyd yn Lotharingia).
- Louis yr Almaenwr yn derbyn Ffrancia Ddwyreiniol, a elwid Yr Ymerodraeth Lân Rufeinig yn ddiweddarach.
🔥 Top keywords: XXX: Return of Xander CageHafanArbennig:SearchCarles PuigdemontWicipedia:Cysylltwch â niMarie AntoinetteXxx: State of The UnionDisturbiaDelwedd:XHamster logo.svgWicipedia:Porth y GymunedWicipedia:Ynglŷn â WicipediaFfilm llawn cyffroEagle EyeArbennig:RecentChangesKathleen Mary FerrierWicipedia:CymorthUnol Daleithiau AmericaYr Ail Ryfel BydDwylo Dros y MôrDriggThe Salton SeaWicipedia:CyflwyniadRhestr llynnoedd CymruDelwedd:XXx REACTIVADO Conferencia de Prensa.jpgWicipedia:Y CaffiCymruMichael D. JonesSimon BowerWicipedia:Gwadiad CyffredinolWikipediaSpecial:SearchYasser ArafatDefnyddiwr:Stefanik/Pwll TywodCaethwasiaethCymraegY Weithred (ffilm)Bartholomew RobertsWicipedia:CymraegCategori:Pentrefi Dyfnaint