David Wilkie
Roedd David Andrew Wilkie MBE (8 Mawrth 1954 – 22 Mai 2024) yn nofiwr o Albanwr oedd yn bencampwr dull broga Olympaidd 200 medr ym 1976. Ef oedd y nofiwr cyntaf o Brydain i ennill medal aur Olympaidd ers Anita Lonsbrough yn 1960.[1][2][3][4]
David Wilkie | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | David Andrew Wilkie ![]() 8 Mawrth 1954 ![]() Colombo ![]() |
Bu farw | 22 Mai 2024 ![]() o canser ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | nofiwr ![]() |
Taldra | 1.82 metr ![]() |
Pwysau | 76 cilogram ![]() |
Gwobr/au | MBE, Oriel yr Anfarwolion Nofio Cenedlaethol ![]() |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Miami Hurricanes ![]() |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig ![]() |
Cafodd David Wilkie ei eni yn Colombo, Ceylon, lle oedd ei rhieni yn gweithio.[5][6] Roedd ei deulu’n mynd i Glwb Nofio awyr agored Colombo yn rheolaidd lle dysgodd Wilkie nofio.[5][7]
Cafodd ei addysg yng Ngholeg Daniel Stewart, Caeredin,[8][9] ac ymunodd â Chlwb Baddondai Warrender, un o glybiau nofio mwyaf llwyddiannus yr Alban.[5][10] Yn 1969, dewiswyd Wilkie i ymuno â Sgwad Hyfforddi elitaidd yr Alban a drefnwyd gan Gymdeithas Nofio Amatur yr Alban.[11]
Yn dilyn ei ymddeoliad, arhosodd Wilkie yn weithgar ym myd nofio.[12] Cyd-sefydlodd gwmni gofal iechyd o’r enw Health Perception (UK) Ltd. ym 1986. Fe'i gwerthwyd i William Ransom and Son plc yn 2004 am £7.8 miliwn. [13][14] Ym 1985 cyfarfu â'i bartner o Sweden, Helen Isacson [4][13] a bu iddo ddau o blant gyda hi, Natasha ac Adam.
Bu farw Wilkie o ganser ar 22 Mai 2024, yn 70 oed.[15]