Dewi Myrddin Hughes

Gweinidog

Mae Dewi Myrddin Hughes (ganwyd 9 Ebrill 1941) yn weinidog wedi ymddeol. Ei rieni oedd Dafydd Hughes ac Elizabeth Ifans.[1] Mae'n dad i'r artist Aled Rhys Hughes.

Dewi Myrddin Hughes
Ganwyd9 Ebrill 1941 Edit this on Wikidata
Llansannan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
PlantAled Rhys Hughes, Ifan G Hughes Edit this on Wikidata

Bu'n gweinidogaethu yn Y Rhondda (Saron Ynyshir, ac Ebenezer Tylorstown, 1965-71) a Cwmllynfell (1971-81) ac yna yn Rhydaman (Gellimanwydd, 1981-99), cyn ei benodi yn Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn 1999.

Ef oedd arweinydd cyntaf Capel y Nant yng Nghlydach.

Yn enedigol o Lansannan, ac yn 2024 mae'n byw yng Nghlydach.[2]

Llyfryddiaeth

  • Gofala Di : Llawlyfr Bugeilio Cristnogol (Cyhoeddiadau'r Gair 2013)[3]
  • Ei Orsedd Rasol Ef : Blwyddyn A; Casgliad o weddïau, yn dilyn Suliau'r flwyddyn eglwysig / John Birch; addasiad Cymraeg gan Dewi Myrddin Hughes. (Cyhoeddiadau'r Gair 2018)
  • Ei Orsedd Rasol Ef : Blwyddyn B; Casgliad o weddïau, yn dilyn Suliau'r flwyddyn eglwysig / John Birch; addasiad Cymraeg gan Dewi Myrddin Hughes. (Cyhoeddiadau'r Gair 2018)
  • Ei Orsedd Rasol Ef : Blwyddyn C; Casgliad o weddïau, yn dilyn Suliau'r flwyddyn eglwysig / John Birch; addasiad Cymraeg gan Dewi Myrddin Hughes. (Cyhoeddiadau'r Gair 2018)

Cyfeiriadau