Dynodwr Enw Rhyngwladol Safonol

Mae Dynodwr Enw Rhyngwladol Safonol (Saesneg: International Standard Name Identifier ('ISNI') yn ddull o adnabod hunaniaeth unigryw cyfrannwyr i gyfryngau megis y we, llyfr, rhaglenni teledu neu albymau sain. Mae'r dynodwr a ddefnyddir yn cynnwys 16 digid rhifol wedi'i rannu'n bedwar tamaid.

Dynodwr Enw Rhyngwladol Safonol
Enw llawnDynodwr Enw Rhyngwladol Safonol (International Standard Name Identifier)
TalfyriadISNI
Cyflwynwyd15 Mawrth 2012
Corff safoniISNI-IA
Nifer o ddigidau16
Enghraifft000000012146438X
Gwefanisni.org/

Fe'i datblygwyd gan Y Mudiad Rhyngwladol dros Safoni fel Safon Rhyngwladol Ddrafft[1] yn gyntaf cyn ei dderbyn yn ffurfiol ar 15 Mawrth 2012. Fe'i defnyddir i wahaniaethu rhwng enwau pobl (yn enwedig o fewn y cyfryngau) y gellid, fel arall, eu cymysgu.

ORCID

Mae dynodwyr ORCID (Open Researcher and Contributor ID) yn flociau o ddynodwyr ISNI a ddefnyddir ar gyfer y byd academaidd yn bennaf.[2] a gaiff ei weinyddu gan gorff cwbwl wahanol.[2] Gall ymchwilwyr yma greu a hawlio dydnodwyr ORIC eu hunain.[3] Mae'r ddau fudiad yn cydweithio'n agos a'i gilydd.[2][3]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolennau allanol