Effros

genws o blanhigion
Effros
Effros blodau mawr (Euphrasia rostkoviana)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Plantae
Ddim wedi'i restru:Angiosbermau
Ddim wedi'i restru:Ewdicotau
Urdd:Lamiales
Teulu:Orobanchaceae
Llwyth:Rhinantheae
Genws:Euphrasia
L.
Rhywogaethau

Tua 450, gan gynnwys:

Genws o tua 450 rhywogaeth o blanhigion blodeuol yw Effros neu Euphrasia. Mae'n perthyn i deulu'r gorfanadl (Orobanchaceae). Maen nhw'n lled-barasitig ar laswelltau a phlanhigion eraill. Daw'r enw Saesneg, eyebright, o'r gred draddodiadol y gallant wella anhwylderau'r llygaid. Mae enwau Cymraeg eraill yn cynnwys torfagl, llygaid Crist a gloywlys.[1] Mae 21 rhywogaeth a llawer o gymysgrywiau i'w canfod ar ynysoedd Prydain ac Iwerddon.[2].

Ceir hyd i lawer o rywogaethau mewn dolydd alpaidd neu is-alpaidd, lle mae eira yn gyffredin. Mae blodau Effros yn tyfu ar ben eithaf y planhigyn, ac mae ganddynt gymesuredd dwyochrog gyda phetal isaf siap gwefus. Piws, fioled a gwyn yw'r lliwiau mwyaf cyffredin. Mae gan rhai rhywogaethau farciau melyn ar y betal isaf, ac mae'r marciau yma yn fodd o ddenu peillwyr.

Esblygiad

Mae perthnasau esblygiadol y llwyth Rhinantheae wedi eu hastudio gan ddefnyddio nodweddion moleciwlaidd.[3][4] Mae Euphrasia yn perthyn i'r Rhinantheae craidd ac mae'n chwaer-gytras i'r genera Odontites, Bellardia, Tozzia a Hedbergia.

Cladogram: Coeden ffylogenetig lefel genws o'r llwyth Rhinantheae wedi ei selio ar nodweddion moleciwlaidd. (ITS, intron rps16 a rhanbarth trnK).[3][4]
  Rhinantheae  

   Melampyrum  





   Rhynchocorys  




   Lathraea



   Rhinanthus




  Rhinantheae craidd  

   Bartsia sensu stricto (Bartsia alpina)




   Euphrasia




   Tozzia



   Hedbergia (gan gynnwys Bartsia decurva a B. longiflora)




   Bellardia (gan gynnwys Parentucellia
  a Bartsia canescens + B. mutica)



   Odontites sensu lato
  (gan gynnwys Bornmuellerantha a Bartsiella)








Cyfeiriadau