Eglwys yr Alban

Eglwys genedlaethol yr Alban yw Eglwys yr Alban (Gaeleg: Eaglais na h-Alba, Sgoteg: The (Scots) Kirk, Saesneg: The Church of Scotland).[1] Eglwys Brotestannaidd a Phresbyteraidd yw hi ac ers amser maith mae ganddi benderfyniad i barchu "rhyddid barn ar bwyntiau nad ydynt yn ymdrin â hanfod y Ffydd".[2] Golyga hyn ei bod yn weddol oddefgar o nifer o safbwyntiau diwinyddol, gan gynnwys rhai ceidwadol a rhyddfrydol eu hathrawiath, eu moeseg a'u dehongliad o'r Ysgrythurau.

Eglwys yr Alban
Enghraifft o'r canlynoleglwys y genedl, eglwys gwladol Edit this on Wikidata
Rhan oProtestaniaeth, Presbyteriaeth, Protestaniaeth Ddiwygiedig y Cyfandir Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluAwst 1560 Edit this on Wikidata
SylfaenyddJohn Knox Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolCymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd, Cymuned o Eglwysi Protestannaidd yn Ewrop Edit this on Wikidata
PencadlysSwyddfeydd Eglwys yr Alban Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://churchofscotland.org.uk Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae gwreiddiau Eglwys yr Alban yn mynd yn ôl i ddyfodiad Cristnogaeth i'r Alban, ond llunir ei hunaniaeth yn bennaf gan y Diwygiad Protestannaidd ym 1560. Ym mis Rhagfyr 2013, roedd ganddi 398,389 o aelodau addawedig,[3] neu 7.5% o boblogaeth yr Alban – er yn ôl Arolwg Tai Blynyddol yr Alban, nifer gryn dipyn yn uwch, sef 1.5 o bobl neu 27.8% o'r boblogaeth, sydd yn deyrngar i'r Eglwys ac yng nghyfrifiad 2011 roedd 32.4% yn ei chefnogi.[4]

Cyfeiriadau