Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion 2022

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion 2022 yn Nhregaron, Ceredigion, rhwng 30 Gorffennaf - 6 Awst 2022. Roedd y Brifwyl hon fod i'w chynnal yn 2020 ond fe'i gohiriwyd ddwywaith yn dilyn pandemig COVID-19, felly dyma'r Eisteddfod gyntaf nôl ar Faes ers 2019.[2]

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion 2022
 ← BlaenorolNesaf →

-

LleoliadTregaron, Ceredigion
Cynhaliwyd30 Gorffennaf–6 Awst 2022
ArchdderwyddMyrddin ap Dafydd
Daliwr y cleddyfRobin o Fôn
CadeiryddElin Jones
LlywyddBen Lake
Enillydd y GoronEsyllt Maelor
Enillydd y GadairLlŷr Gwyn Lewis
Gwobr Daniel OwenMeinir Pierce Jones
Gwobr Goffa David EllisCeri Haf Roberts
Gwobr Goffa Llwyd o’r BrynSiôn Jenkins
Gwobr Goffa Osborne RobertsLisa Dafydd
Gwobr Richard BurtonCedron Sion
Y Fedal RyddiaithSioned Erin Hughes
Medal T.H. Parry-WilliamsGwyn Nicholas[1]
Y Fedal DdramaGruffydd Siôn Ywain
Tlws Dysgwr y FlwyddynJoe Healy
Tlws y CerddorEdward Rhys-Harry
Ysgoloriaeth W. Towyn RobertsEiry Price
Medal Aur am Gelfyddyd GainSeán Vicary
Medal Aur am Grefft a DylunioNatalia Dias
Gwobr Ivor DaviesGwenllian Llwyd
Gwobr Dewis y BoblNatalia Dias
Ysgoloriaeth yr Artist IfancElin Hughes
Ysgoloriaeth PensaernïaethSonia Cunningham
Medal Gwyddoniaeth a ThechnolegRobin Williams
GwefanGwefan 2022 (archif)

Cychwynnodd yr Eisteddfod gyda sioe gerdd yn y Pafiliwn ar y nos Wener. Ysgrifennwyd Lloergan gan Fflur Dafydd gyda chaneuon gan Griff Lynch a Lewys Wyn. Mae'r sioe wedi ei osod yn y flwyddyn 2050, lle mae'r ofodwraig Lleuwen Jones yn gwireddu breuddwyd oes o gael bod y ferch gyntaf ar y lleuad.

Dywedodd yr Eisteddfod bod nifer y cystadleuwyr ychydig i lawr yn 2022 - gyda chystadlaethau corau yn enwedig - ond bod y ffigyrau'n "galonogol". Roedd cyfnod COVID wedi effeithio ar allu nifer o grwpiau i ymarfer.[3]

Y Maes

Lleolwyd y Maes i'r gogledd o Dregaron ar y tir rhwng yr A485 a’r B4343 (52°13′36″N 3°56′03″W / 52.226641°N 3.934259°W / 52.226641; -3.934259). Roedd y maes carafanau ar ochr orllewinol yr A485.[4] Paratowyd cynllun y Maes mewn amser pan oedd cyfyngiadau COVID yn llymach felly roedd fwy o ofodau a mannau agored nag o'r blaen, yn cynnwys y brif fynedfa, i osgoi pobl gronni yn yr un lle.

Roedd cynllun arbennig yn cynnig 15,000 o docynnau mynediad am ddim i "deuluoedd lleol sydd ddim fel arfer yn mynychu'r Eisteddfod" yn cynnwys teuluoedd difreintiedig a ffoaduriaid.[5] Daeth i'r amlwg wedyn bod nifer o bobl eraill anghymwys wedi hawlio'r tocynnau a byddai rhaid i'r Eisteddfod fynd drwy'r ceisiadau i'w annilysu. Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Tregaron, Elin Jones, fod pobl "farus" wedi hawlio tocynnau "ar draul plant mewn tlodi a ffoaduriaid". Fe setlwyd y mater erbyn dechrau'r Eisteddfod gyda chynllun newydd. [6]

Bythefnos cyn cychwyn yr Eisteddfod, nid oedd yr adeiladau wedi cyrraedd mewn pryd ar gyfer y Ganolfan Groeso, pafiliwn Maes B na'r Theatr, oherwydd problemau’n ymwneud â Brexit a COVID. Dywedodd Elin Jones, cadeirydd y Pwyllgor Gwaith fod rhaid i'r trefnwyr fynd ar ofyn i ambell syrcas yng ngwledydd Prydain, drwy gyflenwi pabelli eraill yn eu lle.[7]

Daeth glaw trwm ar y nos Sadwrn cyntaf gan greu pyllau dŵr a mwd ar y Sul ond fe sychodd y maes yn gyflym, gyda tywydd braf weddill yr wythnos.[8]

Prif gystadlaethau

Y Gadair

Enillydd y Gadair oedd Llŷr Gwyn Lewis (ffugenw "Cnwt Gwirion"). Traddodwyd y feirniadaeth gan Idris Reynolds, ar ran ei gyd-feirniaid Emyr Lewis a Twm Morys. Roedd 14 ymgeisydd am y wobr - y nifer fwyaf ers dros 30 mlynedd, a'r dasg oedd llunio awdl ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, heb fod yn fwy na 250 o linellau, ar y teitl Traeth. Dywedodd y beirniaid fod y "safon gyffredinol drwyddi draw yn dipyn uwch na'r norm" - er nad oedd y tri yn unfrydol yn eu penderfyniad terfynol.[9]

Noddwyd y Gadair gan Gylch Cinio Dynion Aberystwyth, a rhoddir y wobr ariannol er cof annwyl am Eluned ac W Ambrose Bebb, gan eu plant a’u hwyrion. Cynlluniwyd a chrëwyd y Gadair gan Rees Thomas, Bow Street - cyn-athro gwaith coed yn Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth..[10]

Y Goron

Enillydd y Goron oedd Esyllt Maelor (ffugenw "Samiwel"). Traddodwyd y feirniadaeth gan Cyril Jones ar ran ei gyd-feirniaid Glenys Mair Roberts a Gerwyn Wiliams. Cystadlodd 24, a'r dasg oedd cyflwyno casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn, heb fod dros 250 o linellau ar y testun Gwres. Dywedodd y beirniaid mai "digon cyffredin oedd ei hansawdd at ei gilydd" ond fod y dosbarth teilyngdod wedi eu "plesio yn arw". Roedd y beirniaid yn unfrydol mai Esyllt Maelor oedd yn fuddugol. Hi oedd y fenyw gyntaf i ennill cadair Eisteddfod yr Urdd yn 1977 yn Y Barri.

Yn cloi ei feirniadaeth, dywedodd Ceri Wyn "Ond yn gwbl annibynnol ar ein gilydd, cyn i ni drafod, roedd y tri ohonom yn gytûn taw eiddo Samiwel yw coron Ceredigion yma yn Nhregaron." Dywedodd ei bod hi'n "fraint" cael coroni "dewin geiriau go iawn".

Dyluniwyd a chynhyrchwyd y goron gan yr artist, Richard Molineux ac mae'n ddathliad o ddiwylliant Ceredigion a Chymru mewn cyfres o 12 o ffasedau gwydr lliw. Mae'r elfennau diwylliannol yn cynnwys Castell Aberteifi, Cors Caron, y barcud coch, Afon Teifi, Abaty Ystrad Fflur a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bridfa Ryngwladol Cobiau Cymreig Derwen oedd yn rhoi'r goron ac Ifor a Myfanwy Lloyd o'r fridfa sy'n rhoi'r wobr ariannol o £750.[11]

Gwobr Goffa Daniel Owen

Yr enillydd oedd Meinir Pierce Jones o Nefyn, Llŷn. Tasg y gystadleuaeth oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau. Y wobr oedd Medal Goffa Daniel Owen, yn rhoddedig gan Gareth, Cerys a Betsan Lloyd, Talgarreg - a £5,000 gan Brifysgol Aberystwyth. Daeth 14 cynnig ar y gystadleuaeth eleni a dywedodd y beirniaid bod "y safon yn gyffredinol yn uchel iawn eleni" er nad oedd y tri yn gytûn ar yr enillydd.

Traddodwyd y feirniadaeth gan Manon Steffan Ros ar ran ei chyd-feirnaid, Emyr Llywelyn ac Ioan Kidd. Er nad oedd y beirniad yn unfryd, roedd Manon Steffan Ros a Ioan Kidd yn credu mai nofel Capten gan "Polly Preston" oedd nofel orau'r gystadleuaeth.[12]

Y Fedal Ryddiaith

Enillydd y Fedal oedd Sioned Erin Hughes o Foduan gyda'i chyfrol Rhyngom dan y ffugenw "Mesen". Y dasg oedd ysgrifennu cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Dianc' gyda gwobr ariannol o £750 yn ogystal a'r Fedal. Roedd 17 o ymgeiswyr a thraddodwyd y feirniadaeth gan Meg Elis ar ran ei chyd-feirniaid Dylan Iorwerth ac Eurig Salisbury. Roedd y tri yn unfrydol mai Mesen oedd yn deilwng o'r Fedal Ryddiaith.[13]

Tlws y Cerddor

Enillydd y tlws oedd Edward Rhys-Harry (ffugenw "Picard") sy'n byw yn Llundain. Derbyniodd £750 ac ysgoloriaeth gwerth £2,000 i hyrwyddo'i yrfa. Y dasg oedd creu opera fer o un gân gorws a dwy gân i unawdwyr ynghyd ag amlinelliad cryno o'r opera gyfan, gan ddefnyddio geiriau Cymraeg gwreiddiol neu rhai sy'n bodoli eisoes.

Roedd 6 ymgais a thraddodwyd y feirniadaeth gan Gwion Thomas ar ran ei gyd-feirniaid, John Metcalf a Patrick Young. Dywedodd fod yr Eisteddfod wedi gosod "her hynod anodd i gyfansoddwyr ac i feirniaid". [14]

Y Fedal Ddrama

Enillydd y Fedal oedd Gruffydd Siôn Ywain, sy'n wreiddiol o Ddolgellau ond sydd bellach yn byw yn Llundain, am ei ddrama Nyth (ffugenw "Dy Fam"). Hwn oedd y tro cyntaf iddo gystadlu am y Fedal Ddrama. Traddodwyd y feirniadaeth gan Janet Aethwy ar ran ei chyd-feirniaid Sharon Morgan a Sera Moore Williams. Y dasg oedd ysgrifennu ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd.

Cyflwynwyd y Fedal er cof am Eiryth ac Urien Wiliam, rhoddedig gan eu plant, Hywel, Sioned a Steffan yn ogystal â gwobr o £750 (Cronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli). Cyflwynwyd rhan o’r gwaith buddugol yn Seremoni’r Fedal Ddrama gyda chefnogaeth Cronfa Goffa JO Roberts.[15]

Canlyniadau cystadlaethau

Bandiau Pres

1. Bandiau Pres Dosbarth 11. Band Arian Llaneurgain2. Band Pres BTM3. Band Markham a'r Cylch

2. Bandiau Pres Dosbarth 21. Seindorf Biwmares2. Band Arian Tref Rhydaman

3. Bandiau Pres Dosbarth 31. Band Arian Cross Keys2. Band RAF Sain Tathan3. Seindorf Arian Crwbin

4. Bandiau Pres Dosbarth 41. Band Arian Cross Keys2. Seindorf Arian Yr Oakeley3. Band Arian Cwm Ogwr

Cerdd Dant

5. Côr Cerdd Dant dros 20 mewn nifer1. Lleisiau Tywi, Dyffryn Tywi2. Côr Merched Llangwm, Sir Conwy3. Côr Merched Canna, Caerdydd

6. Parti Cerdd Dant hyd at 20 mewn nifer1. Parti'r Gromlech2. Parti'r Greal3. Lodesi Dyfi

7. Parti Cerdd Dant o dan 25 oed hyd at 20 mewn nifer1. Adran Aberystwyth2. Merched Plastaf

8. Triawd neu Bedwarawd Cerdd Dant1. Triawd Aeron, Dyffryn Aeron2. Elin, Lois, Catrin a Non, Ynys Môn

9. Deuawd Cerdd Dant 21 Oed a Throsodd1. Ceri Haf a Ruth Erin, Caerdydd / Dinbych2. Carys Griffiths-Jones a Dafydd Jones, Cwrt-newydd / Ciliau Aeron3. Rhian a Rhonwen, Llanycil / Llandderfel

10. Deuawd Cerdd Dant o dan 21 oed1. Gwenan ac Ynyr2. Martha a Sophie3. Fflur Davies a Leisa Gwenllian

11. Gwobr Aled Lloyd Davies - Unawd Cerdd Dant 21 oed a throsodd1. Llio Meirion Rogers, Efenechtyd, Rhuthun2. Siriol Elin, Abergele3. Cai Fôn Davies, Bangor

12. Unawd Cerdd Dant 16 ac o dan 21 oed1. Manw Robin2. Gwenan Mars Lloyd3. Fflur Davies

13. Unawd Cerdd Dant 12 ac o dan 16 oed1. Branwen Medi Jones2. Ela Mablen Griffiths-Jones3. Ioan Joshua Mabbutt

14. Unawd Cerdd Dant o dan 12 oed1. Cari Lovelock2. Lili Myrddin3. Anest Gwilym Jones

15. Cystadleuaeth Cyfeilio - i delynorion sydd heb gyfeilio mewn gwyliau cenedlaethol1. Alwena Mair Owen2. Emma Cerys Buckley

Cerddoriaeth

17. Côr Adloniant1. Cywair2. Côr Llanddarog3. Côr Alawbama

18. Côr Cymysg heb fod yn llai nag 20 mewn nifer1. Côrdydd2. Côr Llundain

19. Côr Meibion heb fod yn llai nag 20 mewn nifer1. Côr Meibion Ar Ôl Tri, Aberteifi2. Côr Meibion Machynlleth, Machynlleth3. Bechgyn Bro Taf, Caerdydd

21. Côr i rai 60 oed a throsodd1. Côr Hen Nodiant2. Encôr Ynys Môn3. Côr Nefi Blws

20. Côr Merched heb fod yn llai nag 20 mewn nifer1. Aelwyd y Neuadd Fach2. Ysgol Gerdd Ceredigion

22. Côr Ieuenctid o dan 25 oed heb fod yn llai nag 20 mewn nifer1. Ysgol Gerdd Ceredigion2. Côr Bechgyn Plasmawr3. Ysgol Penweddig

23. Cystadleuaeth Gorawl Eisteddfodau Cymru1. Côr Caerdydd2. Côr Dre3. Côr Hafodwenog

25. Tlws Arweinydd Corawl yr Ŵyl, er cof am Sioned JamesIslwyn Evans

26. Côr yr WylCôrdydd

27. Ensemble Lleisiol Agored1. Rhys Meilyr/Rhys Archer/Owain Rowlands2. Criw COR3. Adran Aberystwyth

28. Ysgoloriaeth W Towyn Roberts1. Eiry Price2. Rhys Meilyr3. Robin Gruffudd Hughes

29. Unawd Soprano 25 oed a throsodd1. Sara Davies, Llandysul2. Joy Cornock, Talyllychau3. Eiry Price, Pwllheli

30. Unawd Mezzo-Soprano / Contralto / Uwchdenor 25 oed a throsodd1. Ceri Haf Roberts, Dinbych2. Helen Jones, Crai3. Jennifer Parry, Aberhonddu

31. Unawd Tenor 25 oed a throsodd1. Elis Jones, Rhuthun2. Efan Williams, Lledrod3. Aled Wyn Thomas, Llanwnnen

32. Unawd Bariton / Bas 25 oed a throsodd1. Barry Powell, Llanfihangel-y-Creuddyn2. Siôn Eilir Roberts, Rhuthun3. Kees Huysmans, Llanbedr Pont Steffan

33. Gwobr Goffa David Ellis: Y Rhuban Glas1. Ceri Haf Roberts, Dinbych

34. Canu Emyn i rai 60 oed a throsodd1. Vernon Maher2. Glynn Morris3. Gwynne Jones

35. Unawd Lieder / Cân Gelf 25 oed a throsodd1. Elis Jones, Rhuthun2. Efan Williams, Lledrod3. Peter Totterdale, Blaendulais, Castell-nedd

36. Unawd Lieder / Cân Gelf o dan 25 oed1. Rhys Meilyr, Llangefni2. Kathy Macaulay, Caerdydd3. Llinos Haf Jones, Penarth

37. Unawd yr Hen Ganiadau 19 oed a throsodd1. Owain Rowlands, Llandeilo2. Barry Powell, Llanfihangel-y-Creuddyn3. Gwyn Morris, Aberteifi

38. Unawd Soprano 19 ac o dan 25 oed1. Lisa Dafydd, Rhuthun2. Tesni Jones, Llanelwy3. Glesni Rhys Jones, Bodedern

39. Unawd Mezzo-Soprano / Contralto / Uwchdenor 19 ac o dan 25 oed1. Llinos Haf Jones2. Erin Swyn Williams

40. Unawd Tenor 19 ac o dan 25 oed1. Rhys Meilyr, Llangefni2. Rhys Archer, Y Fflint

41. Unawd Bariton / Bas 19 ac o dan 25 oed1. Owain Rowlands2. Tomos Heddwyn Griffiths3. Daniel O'Callaghan

42. Gwobr Goffa Osborne Roberts - Y Rhuban Glas1. Lisa Dafydd, Rhuthun2. Owain Rowlands, Llandeilo3. Llinos Haf Jones, Penarth4. Rhys Meilyr, Llangefni

43. Unawd o Sioe Gerdd 19 oed a throsodd1. Cai Fôn Davies2. Fflur Davies3. Taylah James

44. Ysgoloriaeth Goffa Wilbert Lloyd Roberts1. Fflur Davies

45. Unawd o Sioe Gerdd o dan 19 oed1. Lili Mohammad2. Nansi Rhys Adams3. Manw Robin

46. Unawd i Ferched 16 ac o dan 19 oed1. Eiriana Jones-Campbell2. Lea Morus Williams3. Lili Mohammad

47. Unawd i Fechgyn 16 ac o dan 19 oed1. Twm Tudor2. Ynyr Lewys Rogers3. Iolo Tomos Evans

48. Unawd i Ferched 12 ac o dan 16 oed1. Ela Mablen Griffiths-Jones2. Branwen Medi Jones3. Beca Marged Hogg

49. Unawd i Fechgyn 12 ac o dan 16 oed1. Ioan Joshua Mabbutt2. Peredur Hedd Llywelyn3. Trystan Bryn Evans

50. Unawd o dan 12 oed1. Cari Lovelock2. Lili Myrddin3. Anest Gwilym Jones

51. Gwobr Goffa Eleri Evans Cystadleuaeth Cyfeilio ar y PianoEnillydd: Joseph Cavalli-Price

52. Grŵp Offerynnol Agored1. Ensemble Taf, Caerdydd2. Parti'r Efail, Llanrhystud

53. Deuawd Offerynnol Agored1. Aisha a Mared2. Deuawd Taf3. Soffia ac Elenor

54. Rhuban Glas Offerynnol 19 oed a throsodd1. Mared Emyr Pugh-Evans

55. Unawd Chwythbrennau 19 oed a throsodd1. Mali Gerallt Lewis2. Lleucu Parri

56. Unawd Llinynnau 19 oed a throsodd1. Hannah Lowri Roberts

59. Unawd Telyn 19 oed a throsodd1. Mared Emyr Pugh-Evans2. Aisha Gwyneth Palmer3. Anwen Mai Thomas

61. Rhuban Glas Offerynnol 16 ac o dan 19 oed1. Charlotte Kwok

62. Unawd Chwythbrennau 16 ac o dan 19 oed1. Chris Sabisky

63. Unawd Llinynnau 16 ac o dan 19 oed1. Soffia Nicholas2. Rémy Segrott3. Carwyn Lloyd

64. Unawd Piano 16 ac o dan 19 oed1. Charlotte Kwok2. Lefi Aled Dafydd3. Beca Lois Keen3. Lisa Morgan

65. Unawd Offerynnau Pres 16 ac o dan 19 oed1. Glyn Porter

66. Unawd Telyn 16 ac o dan 19 oed1. Efa Peak2. Heledd Wynn Newton3. Chris Sabisky3. Emma Cerys Buckley

68. Rhuban Glas Offerynnol o dan 16 oed1. Cerys Angharad

69. Unawd Chwythbrennau o dan 16 oed1. Lea Mererid Roberts2. Catrin Edwards

72. Unawd Offerynnau Pres o dan 16 oed1: Ianto Caradog Evans

Dawns

83. Tlws Coffa Lois Blake1. Dawnswyr Talog, Sir Gaerfyrddin2. Dawnswyr Nantgarw, Pontypridd

85. Parti Dawnsio Gwerin o dan 25 oed1. Dawnswyr Talwenog, Sir Gaerfyrddin2. Bro Taf, Morgannwg Ganol3. Dawnswyr Penrhyd, Rhydaman

86. Dawns Stepio i Grŵp1. Bro Taf, Pontypridd2. Dawnswyr Talwin, Sir Gaerfyrddin3. Dawnswyr Seithenyn, Aberystwyth

87. Deuawd, Triawd neu Bedwarawd Stepio1. Daniel a Morus,Creigiau, Caerdydd2. Mared Esyllt Evans a Cadi Fflur Evans, Tre-lech3. Enlli a Lleucu, Caerdydd

88. Dawns Stepio Unigol i Fechgyn 18 oed a Throsodd1. Daniel Calan Jones, Caerdydd2. Elwyn Williams, Caerdydd3. Ioan Wyn Williams, Caerdydd

89. Dawns Stepio Unigol i Ferched 18 oed a Throsodd 1. Lleucu Parri, Caerdydd2. Cadi Fflur Evans, Tre-lech3. Sara Brown, Llanpumsaint

90. Dawns Stepio Unigol i Fechgyn o dan 18 oed1. Morus Jones2. Dion Jones3. Abel Rees

91. Dawns Stepio Unigol i Ferched o dan 18 oed1. Elen Morlais Williams2. Erin Jones3. Esther Defis

94. Dawns Greadigol/ Gyfoes Unigol1. Elin Lloyd2. Amy Morgan3. Alisha Teasdale

95. Dawns Greadigol Gyfoes1. The Studio

96. Dawns Aml-gyfrwng i Bâr neu Driawd mewn unrhyw arddull1. Elin, Alisha a Rose2. Anna ac Amy3. Caitlin ac Asha

97. Dawns Unigol Disgo, Hip Hop neu Stryd 12 oed a throsodd1. Jessica Sier

98. Dawns Unigol Disgo, Hip Hop neu Stryd o dan 12 oed1. Olly Louis Fraser Jones2. Francessca Cooper

99. Dawns Disgo/Hip Hop/Stryd i Bâr neu Driawd1. Gwen Rowley ac Awen Pritchard

100. Dawns Disgo/Hip Hop/Stryd i Grŵp1. Y Cellwair Gwyllt2. Y Drych3. Ysgol Bro Pedr

Alawon Gwerin

101. Côr Alaw Werin dros 20 mewn nifer1. Côr yr Heli, Llyn, Eifionydd a Chaernarfon2. Côr Merched Canna, Caerdydd3. Côr Gwerin Ger y Lli, Aberystwyth

102. Parti Alaw Werin hyd at 20 mewn nifer1. Merched Soar2. Staff Ysgol Bro Teifi3. Lodesi Dyfi

103. Parti Alaw Werin dan 25 oed hyd at 20 mewn nifer1. Adran Aberystwyth2. Merched Plastaf3. Aelwyd Yr Ynys

104. Gwobr Goffa y Fonesig Ruth Herbert Lewis 21 oed a throsodd1. Llinos Haf Jones, Penarth2. Cai Fôn Davies, Bangor3. Carys Hâf, Caio

105. Unawd Alaw Werin 16 ac o dan 21 oed1. Lili Mohammad2. Sophie Jones3. Cadi Gwen Williams

106. Unawd Alaw Werin 12 ac o dan 16 oed1. Branwen Medi Jones2. Ela Mablen Griffiths-Jones3. Nia Menna Compton

107. Unawd Alaw Werin o dan 12 oed1. Gwennan Lloyd Owen2. Cari Lovelock3. Nêst Mars-Lloyd

108. Perfformiad Gwreiddiol1. Ysgol Glanaethwy

109. Grŵp Offerynnol neu offerynnol a lleisiolCydradd gyntaf: Parti'r Efail a Sesiynwyr Clera

110. Unawd ar unrhyw offeryn gwerin1. Alwena Mair Owen2. Heledd Davies3. Angharad Fflur Thomas

111. Cyflwyno Cân Werin hunangyfeiliant1. Rhiannon O'Connor

Dysgwyr

118. Côr Dysgwyr rhwng 13 a 40 mewn nifer1. Côr Dysgwyr Ceredigion2. Côr DAW (Dysgwyr Ardal Wrecsam)3. Côr Dysgu Cymraeg Sir Benfro4. Côr Cyd Aberystwyth

119. Parti Canu, hyd at 12 mewn nifer1. Parti Cyd Aberystwyth2. Côr Bach DAW

120. Ymgom1. Grwp y Llannau2. John Pearman

121. Cyflwyniad Grŵp, hyd at 5 munud ar destun 'Fy ardal i'1. Grwp Diane

123. Unawd lleisiol1. Sarah Bee

Llefaru

132. Côr Llefaru dros 16 mewn nifer1. Côr Sarn Helen,Llanbedr Pont Steffan, Llandysul ac Aberaeron2. Côr Merched Tawe, Pontarddulais a'r Cyffiniau3. Lleisiau Cafflogion, Efailnewydd a Llanaelhaearn

133. Parti Llefaru hyd at 16 mewn nifer1. Aelwyd Cwm Rhondda2. Parti Man a Man3. Lleisiau RhymniCwm

134. Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn 21 oed a throsodd1. Siôn Jenkins, Llandysilio, Sir Benfro

135. Llefaru Unigol Agored1. Cai Fôn Davies, Bangor2. Daniel O'Callaghan, Pwll-trap3. Meleri Morgan, Bwlch-llan

136. Perfformio Darn Digri Agored1. Gwion Dafydd Bowen2. Mair Jones3. Rhys Owen Jones

138. Llefaru Unigol 16 ac o dan 21 oed1. Owain Siôn2. Zara Evans3. Erin Swyn Williams

139. Llefaru Unigol 12 ac o dan 16 oed1. Beca Dwyryd2. Erin Llwyd3. Ela Mablen Griffiths-Jones

140. Llefaru Unigol o dan 12 oed1. Awel Grug Lewis2. Meia Elin Evans3. Gwennan Lloyd Owen

141. Llefaru Unigol o'r Ysgrythur 16 oed a throsodd1. Steffan Alun Leonard2. Lisa Jones3. Daniel O'Callaghan

142. Llefaru Unigol o'r Ysgrythur o dan 16 oed1. Mai Owen2. Olwen Roberts3. Trystan Bryn Evans

Theatr

168. Actio Drama neu Waith Dyfeisiedig1. Cwmni Drama'r Gwter Fawr2. Cwmni Drama Licris Olsorts

169. Actor Gorau Cystadleuaeth 1681. Gweni King

170. Cyfarwyddwr Gorau Cystadleuaeth 1681. Mel Morgans

171. Gwobr Richard Burton 19 oed a throsodd1. Cedron Sion

172. Deialog1. Zara Evans a Megan Dafydd, Tregaron / Llangeitho2. Ela Mablen Griffiths-Jones a Swyn Efa Tomos, Cwrt-newydd / Pencarreg

173. Monolog 16 ac o dan 19 oed1. Owain Siôn2. Manw Robin3. Glain Llwyd Davies

174. Monolog 12 ac o dan 16 oed1. Swyn Efa Tomos2. Mai Owen3. Neli Rhys


Cyfeiriadau

Dolenni allanol