Euskadi Irratia

Gorsaf radio yw Euskadi Irratia sy'n darlledu yn y Basgeg i Wlad y Basg ac sy'n perthyn i'r grŵp cyfathrebu cyhoeddus EITB. Dechreuodd ddarlledu ar 23 Tachwedd 1982. Yn Basgeg, irrati / irratia yw "radio". Gorsaf wahanol yw Radio Euskadi, sydd hefyd dan ofal EITB ond yn darlledu yn Sbaeneg.[1]

Euskadi Irratia
Enghraifft o'r canlynolgorsaf radio Edit this on Wikidata
PerchennogEITB Edit this on Wikidata
GwladwriaethGwlad y Basg Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.eitb.com/irratia/euskadi-irratia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Hanes

Mae'r enw "Euskadi Irratia" wedi'i ddefnyddio fwy nag unwaith. Mae'n ddadleuol a oes cysylltiad rhwng y gorsafoedd hyn ai peidio.

Yn ystod oes Franco

Ceir hanes gythryblus i greu gorsafoedd radio Basgeg. Ym 1937, gosododd Llywodraeth newydd Gwlad y Basg drosglwyddydd radio yn Itziar, ar fferm Getari. Fodd bynnag, ar ôl cwymp Bilbao, peidiodd y gwasanaeth radio â darlledu.

Deng mlynedd yn ddiweddarach, ail-lansiodd y llywodraeth alltud brosiect i sefydlu gorsaf radio. Ym 1946, lansiwyd prawf o’r orsaf radio newydd hon ym Mugerre (Lapurdi, yng ngogledd Gwlad y Basg) a darlledwyd y rhaglen swyddogol gyntaf ym mis Chwefror 1947.

Radio gwrthsafiad ydoedd, roedd yn cael ei ddefnyddio i gollfarnu gweithredoedd llywodraeth Franco yn ne Gwlad y Basg ac i ledaenu negeseuon abertzale cenedlaetholgar. Ym 1954, fodd bynnag, mewn ymateb i ofynion Franco, caeodd llywodraeth gwladwriaeth Ffrainc y radio.

Daeth yr ail gam hwn i ben hefyd gyda chau'r radio, ond buodd trydydd ymgais.

Naw mlynedd yn ddiweddarach, dechreuwyd darlledu ar 10 Gorffennaf, 1965, yn Caracas, Feneswela. Darlledodd y radio gan ddefnyddio tonfedd ganolig (MW) fel y gallai gyrraedd Gwlad y Basg o America. Er ei fod yn orsaf alltud, roedd yn gweithredu'n ddirgel, gyda'r seilwaith angenrheidiol wedi'i leoli yn jyngl Feneswela.

Er gwaethaf llawer o anawsterau, fe lwyddon nhw i gadw'r darllediad i fynd tan 1977. Penderfynodd aelodau'r radio ddod â'r cam hwn i ben.

Cam olaf

Logo goch Euskadi Irratia

Dechreuodd y prosiect i Euskadi Irratia ddod yn orsaf radio gyhoeddus i Lywodraeth Gwlad y Basg yng ngwanwyn 1982. Ramon Labaien oedd Gweinidog Diwylliant Llywodraeth Gwlad y Basg ar y pryd, ac fe gomisiynodd Joxe Mari Otermin i greu seilwaith yr orsaf.

Bu Otermin yn gweithio i orsaf Herri Irratia yn Loyola, ac ar ôl derbyn comisiwn Labaien, recriwtiodd lawer o ddarlledwyr lleol ar gyfer yr orsaf radio newydd. Gan mai Basgeg oedd yr elfen bwysicaf, nid newyddiadurwyr yn unig a ymunodd, ond ieithegwyr hefyd. Hynny yw, amgylchynodd ei hun â gweithwyr proffesiynol a oedd yn siarad Basgeg yn dda yn y dyddiau cynnar hynny.

Felly, dechreuodd y darllediadau cyntaf ar 23 Tachwedd 1982, o bencadlys Stryd Andia yn Donostia.[2]

Cyflwynwyr

Ymhlith y cyflwynwyr radio adnabyddus ar y sianel mae Arantxa Iturbe, Manu Etxezortu, Beatriz Zabaleta, Arantza Kalzada, Maite Artola a Txetxu Urbieta.

Rhaglenni

Amarauna

Yn llythrennol "gwe'r pryf copyn" - Rhaglen ysgafn yn y boreau ar y penwythnos.

Baipasa

Rhaglen materion cyfoes 3 awr o hyd, ar ddiwedd y prynhawn. Olaia Urtiaga yw'r cyflwynydd.

Beste ni

"Fi arall" - dau o bobl sy'n rhannu'r un enw (er enghraifft, yr athletwraig Naroa Agirre a Naroa Agirre arall) yn trafod eu bywydau.

Faktoria (irratsaioa)

Rhaglen newyddion a materion cyfoes, 3 awr bob bore.

Goizak gaur

Rhaglen newyddion 30 munud amser cinio.

Hiru Erregeen Mahaia

Rhaglen chwaraeon wedi'i enwi ar ôl mynydd. Ymysg y cyflwynwyr mae Txetxu Urbieta, Kepa Iribar, Haritz Gallastegi, Maitane Urbieta ac Ander Altuna. Yn ogystal â pêl-droed, mae'r rhaglen yn trafod rhwyfo, pilota a chwaraeon gwledig Gwlad y Basg.

Mezularia

Rhaglen newyddion a sgwrsio awr o hyd gyda'r nos, gydag Ohiane Perez.

Norteko ferrokarrila

Gwyddoniaeth a thechnoleg gyda Guillermo Roa.

Portobello

Rhaglen gerddoriaeth ar y penwythnos gydag Asier Leoz.

Sarean.eus

"Ar-lein" neu "yn y rhwydwaith" yw ystyr sarean. Rhaglen sy'n canolbwyntio ar y byd digidol, diwylliant a cherddoriaeth gyda Leire Palacios.[3]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol