Ferwca

Dafaden gwadnol a achosir gan y feirws papiloma dynol (HPV) ac sy'n ymddangos ar y sawdl, ac ar waelod neu fysedd y traed ydy ferwca hefyd dafaden[1][2] neu tafaden.[3] Gan amlaf mae dafaennau gwadnol yn cyfyngu eu hunain ac nid ydynt yn lledu'n ormodol, ond yn gyffredinol argymhellir triniaeth i leihau'r symptomau (sy'n medru bod yn boenus), i'w gwaredu'n gynt, ac i osgoi eu trosglwyddo i bobl eraill.

Clwstwr o ferwca ar droed

Credir fod gan tua 10% o boblogaeth yr Deyrnas Unedig ferwca ar unrhyw adeg penodol.[4]

Rhwystro'r feirws rhag lledu

Lledir y feirws HPV trwy gysylltiad uniongyrchol ac anuniongyrchol gyda pherson sydd yn cario'r feirws. Gall osgoi cyswllt uniongyrchol gydag arwynebeddau heintiedig e.e. mewn ystafelloedd newid comunol, lloriau cawodydd, meinciau a.y.y.b. leihau'r siawns o gael eich heintio, yn ogystal ag osgoi rhannu esgidiau a sanau gyda rhywun sydd â ferwca. Hefyd, dylid osgoi cysylltiad rhwng y ferwca a rhannau eraill o'ch corff eich hun a chyrff pobl eraill. Mae heinitaidau'n fwy cyffredin ymysg oedolion na phlant.

Am fod pob dafaden yn heintus, dylid cymryd camau er mwyn osgoi eu lledaenu. Argymhella'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol fod plant sydd â dafaden yn:

  • eu gorchuddio gyda bandais gludog tra'n nofio
  • gwisgo fflip-fflops pan yn defnyddio cawdoydd comunol
  • osgoi rhannu tywelion.[5]

Triniaeth

Yn aml, mae triniaeth confensiynol yn effeithiol wrth ymdrin â ferwcas. Mae rhain yn cynnwys:

Triniaeth gychwynnolAsid salicylic o'r fferyllfa
Triniaeth eilraddCryofeddygaeth, imiwnotherapi mewnanaf, neu therapi laser lliw curiadol
Triniaeth olafBleomycin, toriad llawdriniaethol

Cyfeiriadau