Florence and the Machine

Enw recordio cerddorol Florence Welch, ac amryw o gerddorion sy'n cydweithio ar y gerddoriaeth cefndirol i'w llais, ydy Florence and the Machine. Disgrifir sain Florence and the Machine yn gyffredinol fel roc annibynnol sydd wedi ei ysbrydoli gan "Soul". Mae ei cherddoriaeth wedi derbyn clod ar draws y cyfryngau cerddoriaeth, yn enwedig gan y BBC a chwaraeodd ran allweddeddoll yng nghodiad Florence and the Machine i amlygrwydd gan ei hybu fel rhan o BBC Introducing.[1] Arweiniodd hyn at y band yn chwarae mewn nifer o wyliau cerddoriaeth yn 2008, gan gynnwys Glastonbury a Gŵyl Reading a Leeds a T in the Park. Albwm cyntaf y band oedd Lungs, rhyddhawyd ar 6 Gorffennaf 2009, a bu yn yr ail safle yn y siartiau am ei bum wythnos cyntaf, tu ôl i Michael Jackson.[2] Mae'r albwm wedi bod yn 40 uchaf y siartiau Prydeinig am 26 wythnos yn ganlynol.

Florence and the Machine
Enghraifft o'r canlynolband roc Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Label recordioMoshi Moshi Records, Island Records Edit this on Wikidata
Dod i'r brig2007 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2007 Edit this on Wikidata
Genreroc celf, roc indie Edit this on Wikidata
Yn cynnwysFlorence Welch, Isabella Summers Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://florenceandthemachine.net/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Florence Welch

Ganwyd Florence Leontine Mary Welch ar 28 Awst 1986 yn Llundain yn ferch i Evelyn Welch, Athro Astudiaethau'r Dadeni a Deon Academaidd y Celfyddydau ym Mhrifysgol Llundain y Frenhines Mary,[3] sydd hefyd yn awdures a chynt yn Studio 54, a Nick Welch, sy'n gweithio ym maes hysbysebu. Mae Welch wedi derbyn diagnosis o dyslecsia a dysmetria.[4] Dywed Welch y buasai'n hoffi cael gyrfa tebyg i PJ Harvey a Björk sy'n "creu stwff newydd a cyffrous yn gyson".[5] Canfyddodd Welch gysur yng ngerddoriaeth pan oedd yn 13 oed, yn enwedig Hole, Nirvana, Green Day, Kate Bush, Annie Lennox, The Velvet Underground a Celine Dion.[4] Bu hefyd yn gantores ym mandiau'r Toxic Cockroaches ac Ashok pan oedd yn ei harddegau, ond ymddeolodd o'i chytundeb gyda Ashok oherwydd nad oedd yn teimlo mai hwn oedd y band cywir iddi hi.[4]

The Machine

Yn ôl Welch dechreuodd yr enw Florence and the Machine fel jôc. Roedd hi'n gwneud cerddoriaeth gyda ffrind o dan yr enwau Isabella Machine a Florence Robot. Tua awr cyn ei gig cyntaf, doedd dal ddim enw ganddi, felly penderfynodd ar "Florence Robot is a Machine", cyn sylweddoli fod yr enw mor hir buasai'n ei gwneud hi'n wallgo.[6] Yn 2006, dechreuodd perfformiadau Welch mewn llefydd bychain yn Llundain dan yr enw "Florence Robot is a Machine" dynnu sylw.[4]

The Machine yw band cyfeiliant Florence, mae'n cynnwys sawl cerddor, gan gynnwys Devonte Hynes gynt (Lightspeed Champion a Test Icicles). Yr aelodau presennol yw Robert Ackroyd (gîtar), Christopher Lloyd Hayden (drymiau), Isabella Summers ('Isabella Machine') (allweddellau), Mark Saunders (gîtar fas) a Tom Monger (telyn).[7] Chwaraeodd Johnny Borrell o'r band Razorlight yr allweddellau am gyfnod, a bu Ritch Mitchell o'r Dogs ar y drymiau.

Caiff Florence and the Machine eu rheoli gan Mairead Nash o'r Queens of Noize. Penderfynodd Nash reoli'r band wedi i Welch ei llusgo i'r toiledau yn feddw, a chanu "Somethings Got A Hold On Me" gan Etta James iddi, yn ystod noson clwb Nash.

Lungs (2009)

Rhyddhaodd Florence and the Machine eu albwm cyntaf Lungs yn y Deyrnas Unedig ar 6 Gorffennaf 2009.[8] Rhyddhawyd yr albwm yn swyddogol gyda'r ban yn chwarae set yn y Rivoli Ballroom yn Brockley, de ddwyrain Llundain. Cyrhaeddodd yr albwm yr ail safle yn siartiau'r Deyrnas Uneidg a safle 13 yn Ewrop. Erbyn 6 Awst roedd yr albwm wedi gwerthu dros 100,000 copi yn y Deyrnas Unedig ac erbyn 10 Awst roedd wedi bod yn ail yn y siart am bump wythnos yn ganlynol.[9][10] Yn dilyn rhyddhad yr albwm ar gyfer ei lawrlwytho yn yr Unol Daleithiau ar 25 Gorffennaf 2009 gan fynd yn syth i safle 17 yn siart "Heatseekers" Billboard .[11] Rhyddhawyd yr albwm yn gorfforol yn yr Unol Daleithiau ar 20 Hydref gan Island Records.[12]

Cynhyrchwyd yr albwm gan James Ford a Paul Epworth.[5]

Ail albwm

Bydd y band yn dechrau recordio eu hail albwm ym mis Ionawr 2010.[13]

Ym mis Hydref 2009, aeth offer ac offerynau'r band ar dân tra oeddent ar daith. Dywedodd Welch "It was dreadful, but we recorded the sound of the burning [instruments] to use as inspiration for our next album".

Disgograffi

Albymau stiwdio

BlwyddynAlbwmSafle uchaf y siartTystysgrif
UKIRLNZAUSUSBELNORNTD
2009Lungs
  • Rhyddhawyd: 6 Gorffennaf 2009
  • Genre: Pop annibynnol
  • Label: Island Records
213616179143637

Senglau

BlwyddynSenglSafle uchaf y siartAlbwm
UK
IRL
NZ
BEL
2008"Kiss with a Fist"51Lungs
"Dog Days Are Over"89
2009"Rabbit Heart (Raise It Up)"124250
"Drumming Song"54
"You've Got the Love"132150
2010"Hurricane Drunk"
Mae "—" yn dynodi senglau na aeth i'r siart neu na ryddhawyd yn y wlad honno.


Cyfeiriadau

Dolenni Allanol

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: