Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Toronto
Mae Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Toronto yn ŵyl ffilmiau a fynychir gan aelodau'r cyhoedd ac a gynhelir yn flynyddol ym mis Medi yn Toronto, Ontario. Dechreua'r ŵyl ar nos Iau ar ôl Diwrnod Llafur yng Nghanada (sef y dydd Llun cyntaf ym mis Medi) ac mae'n para am ddeng niwrnod. Dangosir rhwng 300 a 400 o ffilmiau ar tua 23 sgrîn gwahanol mewn lleoliadau amrywiol ledled Toronto. Daw dros 300,000 o'r cyhoedd a chynulleidfaoedd o'r diwydiant ffilm i'r ŵyl.
Dechreuodd yr ŵyl ym 1976 a bellach caiff ei hystyried fel un o brif wyliau ffilmiau'r byd.
Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol
- (Saesneg) Grŵp Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Toronto Archifwyd 2008-03-01 yn y Peiriant Wayback.
- (Saesneg) Bell Lightbox Archifwyd 2009-02-16 yn y Peiriant Wayback. — Un o ganolfannau'r ŵyl
🔥 Top keywords: XXX: Return of Xander CageHafanArbennig:SearchCarles PuigdemontWicipedia:Cysylltwch â niMarie AntoinetteXxx: State of The UnionDisturbiaDelwedd:XHamster logo.svgWicipedia:Porth y GymunedWicipedia:Ynglŷn â WicipediaFfilm llawn cyffroEagle EyeArbennig:RecentChangesKathleen Mary FerrierWicipedia:CymorthUnol Daleithiau AmericaYr Ail Ryfel BydDwylo Dros y MôrDriggThe Salton SeaWicipedia:CyflwyniadRhestr llynnoedd CymruDelwedd:XXx REACTIVADO Conferencia de Prensa.jpgWicipedia:Y CaffiCymruMichael D. JonesSimon BowerWicipedia:Gwadiad CyffredinolWikipediaSpecial:SearchYasser ArafatDefnyddiwr:Stefanik/Pwll TywodCaethwasiaethCymraegY Weithred (ffilm)Bartholomew RobertsWicipedia:CymraegCategori:Pentrefi Dyfnaint