Glampio

Mae Glampio yn gyfansoddair cywasgedig o'r gair Saesneg 'glamorous' a 'campio' (Cymreigiad o'r Saesneg 'glamping') sy'n disgrifio dull o wersylla gydag amwynderau ac, mewn rhai achosion, gwasanaethau cyrchfan heb fod yn gysylltiedig â gwersylla "traddodiadol". Mae glampio wedi dod yn arbennig o boblogaidd gyda thwristiaid yr 21ain ganrif sy'n chwilio am foethusrwydd llety gwesty ochr yn ochr â'r "ddihangfa ac antur o wersylla".[1][2][3][4]

"Pentref" glampio gyda yurts, llwybrau gro a thwba twym

Er bod y gair 'glampio' yn un cymharol ddiweddar, ceir llawer o enghreifftiau o wersylla moethus ar hyd y canrifoedd, yn arbennig ymhlith y bonedd.

Un enghraifft yw'r uwchgynhadledd diplomyddol, a elwir yn Maes y Brethyn Aur,a gynhaliwyd yng ngogledd Ffrainc yn 1520 rhwng Harri VIII o Loegr a Ffransis I o Ffrainc. Codwyd tua 2,800 o bebyll, ac roedd yno ffynhonnau o win coch.[5]

Mae nifer o wyliau mawr bellach yn cynnig cyfleusterau glampio i'r rhai sy'n eu mynychu.

Cafwyd cyfleusterau glampio (wedi'u darparu gan gwmni Best of Wales) yn gysylltiedig â maes gwersylla'r Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf pan gynhaliwyd yr brifwyl yn Meifod yn 2015.[6]

Cyfeiriadau