Glynwr

sylwedd cemegol

Hylif yw glynwr,[1] cyflynydd[1] neu rwymwr[2] a ychwanegir i sylwedd sych i roi iddo ansawdd cyson.[3] Er enghraifft, yn y Byd Clasurol defnyddiwyd wyau, cwyr, mêl, a bitwmen i lynu gronynnau pigmentau wrth wneud paent.[4] Defnyddiwyd wyau hyd yr 16g, a gelwir yn dempera wy.[5] Ers hynny defnyddir olew fel prif lynwr paent.[6] Yng ngherfluniaeth fodern defnyddir glynwyr organig, sef glud a ddaw o anifail neu gwm a ddaw o blanhigyn.[7] Yn y byd adeiladu, defnyddir sment fel glynwr wrth wneud concrit a morter.

Cyfeiriadau