Gogledd Corea

Gwlad yn nwyrain Asia yw Gweriniaeth Pobl Ddemocrataidd Corea (Chosŏn'gŭl: 조선민주주의인민공화국; Chosŏn Minjujuŭi Inmin Konghwaguk) neu Gogledd Corea (Ynghylch y sain ymagwrando). Mae wedi'i lleoli yn hanner gogleddol Penrhyn Corea. Mae'n ffinio â De Corea i'r de, Tsieina i'r gogledd a Rwsia i'r gogledd-ddwyrain. Ei phrifddinas yw Pyongyang sef dinas fwyaf y wlad o ran poblogaeth ac arwynebedd. Ceir dwy afon ar y ffin gyda Tsieina: Afon Amnok ac Afon Tumen. Mae gan y wlad arfau niwclear ac wedi dod a'u trafodaethau heddwch, gyda De Corea a'r UDA i ben. Mae'r Unol Daleithiau a Tsieina wedi cytuno ar sancsiynau newydd i gosbi Gogledd Corea am ddatblygu taflegrau pellgyrhaeddol, ac am eu profion niwclear diweddar (2013).

Gogledd Corea
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad, gweriniaeth y bobl, hermit kingdom Edit this on Wikidata
Lb-Nordkorea.ogg, LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Coreea de Nord.wav, En-us-North Korea.ogg, Eo-Nord-Koreio.ogg Edit this on Wikidata
PrifddinasP'yŏngyang Edit this on Wikidata
Poblogaeth25,490,965 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 9 Medi 1948 (Provisional People's Committee for North Korea) Edit this on Wikidata
AnthemAegukka Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethKim Jae-ryong Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+09:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
North Korean standard language, Coreeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDwyrain Asia Edit this on Wikidata
GwladBaner Gogledd Corea Gogledd Corea
Arwynebedd120,540 ±1 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Melyn, Môr Japan Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaDe Corea, Rwsia, Gweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau40°N 127°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolGovernment of North Korea Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSupreme People's Assembly Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Supreme Leader of North Korea Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethKim Jong-un Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Premier of North Korea Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethKim Jae-ryong Edit this on Wikidata
Map
ArianNorth Korean won Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.979 Edit this on Wikidata

Conglfaen eu hathrawiaeth ydy disgyblaeth wleidyddol y Chuch'e (neu Juche), sef athrawiaeth Kim Il-sung sy'n mynnu fod datblygiad y wlad yn nwylo'r werin datws. Defnyddir yr athrawiaeth hon gan Lywodraeth y wlad i gyfiawnhau ei gweithredoedd.

Collodd Gogledd Corea ffrind mynwesol a phwerus pan ddatgymalwyd yr Undeb Sofietaidd ym 1991, er bod ganddi gysylltiad cryf gyda Tsieina. Ar ben hyn dioddefodd y wlad oherwydd sawl trychineb naturiol a phrofodd newyn enbyd rhwng 1994 a 1998; credir i rhwng 240,000 i 1,000,000 o bobl farw.[1][2]

Hanes creu'r ddwy Weriniaeth

Llywodraethwyd y penrhyn gan Ymerodraeth Corea o ddiwedd y 19g i ddechrau'r 20g, pan gafod ei reoli gan Japan yn 1910. Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd peidiodd y cysylltiad hwn gyda Japan a rhannwyd y penrhyn yn ddau gyda Rwsia'n rheoli'r gogledd ac Unol Daleithiau America'n rheoli'r de. Ym 1948, dan oruchwyliaeth y Cenhedloedd Unedig, cynhaliwyd etholiadau yn y ddwy wlad a chyhoeddwyd dwy lywodraeth ar wahân yn y ddau ranbarth: Gwladwriaeth Ddemocrataidd Pobl Corea yn y gogledd a Gwladwriaeth Corea yn y de.

Cyhoeddodd y gogledd a'r de, yn eu tro, eu hawl sofran i reoli'r penrhyn cyfan a ffrwydrodd y dadlau'n rhyfel erbyn 1950: Rhyfel Corea.

Kim Il-sung (1912-94) a Rhyfel Corea

Ymosododd Gogledd Corea ar y De, dan eu harweinydd comiwnyddol Kim Il-sung rhwng 1950 a 1953, ond cawsant eu hatal gan fyddin yr UDA. Ers hynny dysgir plant ysgolion y Gogledd fod milwyr America wedi cyflawni erchyllterau rhyfel yn erbyn pobl y wlad. Cânt eu cyflyru i gredu y daw dydd pan fydd America'n ailadrodd hyn ac mai'r unig ymwared rhag y fath ymosodiad yw cadernid y teulu Kim, a'u harbedodd y tro diwethaf yn 1953.[3] Cafwyd cadoediad yn 1953, ond yn swyddogol mae'r ddwy wlad yn parhau i fod mewn stâd o ryfel, gan nad arwyddwyd y cytundeb.[4] Derbyniwyd y ddwy wlad fel aelodau o'r Cenhedloedd Unedig yn 1991.[5]

Wedi marwolaeth Kim Il-sung, mabwysiadwyd ei athrawiaeth Chuch'e yn lle sosialaeth Marx-Lennin drwy'r wlad pan gyhoeddwyd Cyfansoddiad Gogledd Corea yn 1973. Yn 2009, dilëwyd pob cyfeiriad at gomiwnyddiaeth (Chosŏn'gŭl: 공산주의) o'r Cyfansoddiad.[6]

Dyrchafwyd Kim yn "Llywydd Tragwyddol" y wlad, gan roi elfen ddwyfol iddo.[7][8]

Kim Jong-il (1942-11)

Yn ôl y chwedl, gwelwyd enfys ddwbl ar ddiwrnod genedigaeth Kim, yn arwydd o'i enedigaeth fraint a'i ddwyfoldeb. Fe'i dyrchafwyd yn dduw mabolgampau a cheir nifer o storïau swyddogol sy'n ei godi'n uwch na'r cyffredin e.e. yn ei gêm gyntaf o golff, llwyddodd i daro 11 twll-mewn-un. Stori arall a grëwyd gan y wlad yw iddo arwain tim pêl-droed Gogledd Corea yng Nghwpan y Byd gyda thechnoleg "ffôn-llaw anweledig" roedd Kim ei hun wedi'i ddyfeisio.[3]

O ganlyniad i ddatgymalu'r Undeb Sofietaidd a chreu Gogledd Corea'n wlad ynysig, unig, galwyd hi'n "Deyrnas Feudwyaidd" neu "Meudwy o Wlad" sy'n ailwampiad o enw a dadogwyd i Ymerodraeth Corea yntau flynyddoedd yn ôl. Ceir etholiadau, mewn enw'n unig, a gelwir y Weriniaeth gan y cyfryngau'n "Unbennaeth Stalinistaidd a Thotalitaraidd."[9]

Kim Jong-un (ganwyd 1983 neu 84)

Etifeddodd Kim yr arweinyddiaeth yn 2011, a gwelwyd ar unwaith ei fod yn arweinydd "a'i draed ar y ddaear", gan ymweld yn aml â'r bobl gyffredin a gwenu llawer. Trydydd mab Kim Jong-il oedd ef.

Addysg ac Iechyd

Mae addysg i bawb, o bob oed, am ddim. Mae'n un o wledydd mwyaf llythrennog y byd gyda chyfartaledd o 99% o bobl yn medru darllen ac ysgrifennu. Ceir gwasanaeth iechyd cenedlaethol sy'n gyfan gwbl am ddim i bawb. Mae'r wlad hefyd yn cyfrannu'n helaeth i ddod a phrisiau bwyd i lawr.[10]

Cabined deintyddol yn un o ysbytai mawr y wlad.

Daearyddiaeth

Topograffeg Gogledd Corea

Gorwedd y Wladwriaeth rhwng lledred 37° a 43°Gog a hydred 124° a 131°Dwy. Mae ganddo arwynebedd o 120,540 km2. I'r gorllewin saif y Môr Melyn a Bae Corea a thros Fôr Japan mae Japan ei hun. Y copa uchaf yn y wlad ydy Mynydd Baekdu sy'n 2,744 m a'r afon hiraf ydy Afon Amnok sy'n llifo am 790 m.[11]Y brifddinas (a'r ddinas fwyaf) ydy Pyongyang; ac ymhlith dinasoedd pwysicaf y wlad mae Kaesong yn y de, Sinuiju yn y gogledd-orllewin, Wonsan a Hamhung yn y dwyrain a Chongjin yn y gogledd-ddwyrain.

MapEnwaChosŏn'gŭlRhanbarth weinyddol
Rason
Nampo
De Pyongan
Rhanbarth Gogledd Hwanghae
Rhanbarth De Hwanghae
Rhanbarth Kangwon
Rhanbarth De Hamgyong
Rhanbarth Gogledd Hamgyong
Rhanbarth Ryanggang
Rhanbarth Chagang
Gogledd Pyongan
Y Môr Melyn
(Môr Gorllewin Corea)
Bae Corea
Prifddinas (chikhalsi)a
1Pyongyang평양직할시(Chung-guyok)
Dinas arbennig (teukbyeolsi)a
2Rason *라선특별시(Rajin-guyok) *
Rhanbarth (do)a
3De Pyongan평안남도Pyongsong
4Gogledd Pyongan평안북도Sinuiju
5Rhanbarth Chagang자강도Kanggye
6Rhanbarth De Hwanghae황해남도Haeju
7Rhanbarth Gogledd Hwanghae황해북도Sariwon
8Rhanbarth Kangwon강원도Wonsan
9Rhanbarth De Hamgyong함경남도Hamhung
10Rhanbarth Gogledd Hamgyong함경북도Chongjin
11Rhanbarth Ryanggang *량강도Hyesan
* – Cofnodir mewn tafodiaith y De fel "Yanggang" (양강), "Nason" (나선), neu "Najin" (나진).

Hawliau dynol

Yn ôl Amnest Rhyngwladol a'r Human Rights Watch[12][13] ceir cyfyngiadau ar hawliau sylfaenol dinasyddion y wlad, er bid y Llywodraeth yn wfftio hyn.[14][15][16]

Yn y 1990au cosbwyd pobl y wlad a oedd yn gwrando ar Radio De Corea yn ddifrifol; danfonwyd nifer i garchardai am ganu caneuon o Dde Corea.[17]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau