Gwenda Griffith
Cynhyrchydd teledu o Gymraes oedd Gwenda Griffith (10 Mawrth 1942 – 21 Mai 2024).[1]
Gwenda Griffith | |
---|---|
Ganwyd | 10 Mawrth 1942 |
Bu farw | 21 Mai 2024 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cynllunydd tai, cynhyrchydd teledu |
Magwyd Gwenda yng Nghorwen ac aeth i Ysgol Ramadeg y Merched yn y Bala. Graddiodd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.
Gyrfa
Sefydlodd y cwmni Fflic yn 1982 er mwyn cynhyrchu rhaglenni teledu ar gyfer S4C. Yn yr 1980au cynhyrchodd y gyfres i ddysgwyr Now You're Talking. Yn y 2000au cafwyd cyfresi dysgu Cymraeg Welsh in a Week a Cariad@Iaith' yn 2000au.
Roedd Gwenda yn gynllunydd tai ac roedd nifer o'i cynhyrchiadau teledu yn adlewyrchu ei diddordebau. Cynhyrchodd y gyfres ffasiwn Steil, Pedair Wal a 04 Wal, Y Tŷ Cymreig a Cwpwrdd Dillad.[2] Cynhyrchodd raglenni plant hefyd yn cynnwys Stwffio, Nics Nain a Hip neu Sgip?
Yn 2005, daeth Fflic yn rhan o gwmni Boomerang (Boom erbyn hyn).[3] Yn y cyfnod hwn, cynhyrchwyd nifer o raglenni eraill yn cynnwys Cegin Bryn, 100 Lle, Dal Ati, Ceffylau Cymru a Caeau Cymru.
Roedd Gwenda wedi bod yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn ers mis Tachwedd 2014.
Anrhydeddau
Yn 2002 derbyniodd wobr arbennig Cymraes y Flwyddyn yn y Cyfryngau ac yn 2012 fe’i anrhydeddwyd gan Gymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru i gydnabod gwasanaeth arbennig yn hybu pensaerniaeth.[2]
Fe'i urddwyd i'r Orsedd gyda Gwisg Las yn 2012.[4]
Bywyd personol
Roedd yn briod a Huw ac roedd ganddynt ddau o blant – Dylan a Beca.[2]
Bu farw yn 82 mlwydd oed.[5]