Hiwgenotiaid
Roedd yr Hiwgenotiaid (Ffrangeg: Huguenots) yn aelodau o grefydd Ffrengig Protestannaidd oedd yn drwm o dan ddylanwad y diwynydd John Calvin a ddaeth yn boblogaidd yn yr 16g. Dyma oedd y term boblogaidd ar ddilynwyr Eglwys Ddiwygiedig Ffrainc.
Enghraifft o'r canlynol | Grŵp ethnogrefyddol |
---|---|
Math | Ffrancod |
Crefydd | Calfiniaeth |
Gwlad | Teyrnas Ffrainc |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd eu gwreiddiau yn athroniaeth Brotestanaidd Martin Luther ac yna Calvin. Ysytirir bod hyd at 10% (2 filiwn) o boblogaeth Ffrainc yn Hiwgonotiaid hyd at Cyflafan Sant Bartholomew yn 1572. Roeddynt yn trigo gan mwyaf yn rhannau deheuol a gorllewinol Ffrainc. Wrth i Hiwgenotiaid arddel eu dylanwad a ffydd yn fwy agored tyfodd atgasedd iddynt gan y Catholigion. Cafwyd cyfres o wrthdaro a rhyfeloedd crefyddol i'w dilyn, sef Rhyfeloedd Crefydd Ffrainc, o 1562 i 1598. Arweinwiyd yr Hiwgenotiaid gan Jeanne o Albret, ac yna ei mab, Harri o Nafar (Navarre), a ddaeth maes o law yn Frenin Harri IV o Ffrainc (newidiodd ei grefydd i Gatholigiaeth er mwyn dod yn Frenin). Daeth y rhyfeloedd i ben gyda Edict Nantes ym mis Ebrill 1598 gan Harri IV, brenin Ffrainc, pan roddwyd ymreolaeth i'r Hiwgenotiaid ym maes crefydd, gwleidyddiaeth, a milwrol.
Serch hynny, bu gwrthryfeliadau gan yr Huguenot yn yr 1620au yn ysgogi diddymu eu breintiau gwleidyddol a milwrol. Cadwyd eu hawliau crefyddol o dan Edict of Nantes hyd nes y teyrnasiad Louis XIV. Cynyddwyd yr erledigaeth ar Brotestaniaeth yn raddol nes iddo gyhoeddi y Edict Fontainebleau (1685), gan ddod i ben unrhyw gydnabyddiaeth gyfreithiol o Brotestaniaeth yn Ffrainc a gorfodi'r Hiwgenotiaid naill ai i droi'n Gatholigion neu ffoi. Honnodd Louis XIV i boblogaeth Hiwgonotiaid Ffrainc gwympo o dros 800,000 o unigolion i 1,000 neu 1,500 o unigolion; goramcangyfrif wrth reswm, ond bu cwymp enfawr o frawychus. Serch hynny, roedd lleiafrif bychan o Huguenots yn parhau ac yn wynebu erledigaeth barhaus o dan Louis VX. Erbyn marwolaeth Louis XV ym 1774, cafodd Calfiniaeth Ffrengig ei chwalu'n llwyr. Daeth yr erledigaeth ar Brotestaniaid i ben yn swyddogol gydag Edict Versailles, Llofnodwyd gan Louis XVI yn 1787. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, gyda'r Datganiad o Hawliau Dyn a Dinesyddiaeth 1789, enillodd Protestaniaid Hawliau cyfartal i ddinasyddion.
Blwyddyn | Nifer yr Hiwgonotiaid yn Ffrainc |
---|---|
1519 | None[1] |
1560 | 1,800,000 |
1572 | 2,000,000 |
1600 | 1,200,000 |
1685 | 900,000 |
1700 | 100,000 neu lai |
2013 | 300,000[2] |
Symbol
Mae'r Groes Hiwgenotaidd (croix huguenote) yn fathodyn amlwg o'r grefydd.[3] Dyma bellach fathodyn swyddogol Église des Protestants réformés (Eglwys Brotestanaidd Ffrainc). Mae disgynyddion yr Hiwgenotiaid weithiau'n arddangos y bathodyn fel arwydd o gydnabyddiaeth.
Etymoleg
Nid oes sicrwydd i darddiad y term 'Hiwgonotiaid', er, i'r term yn wreiddiol fod yn un watwarus. Ceir sawl awgrym dros yr enw.
Gall fod yn lysenw sy'n cyfuno cyfeiriad at y gwleidyddydd o'r Swistir, Besançon Hugues (bu farw 1532) a hefyd natur grefyddol-wleidyddol gymleth y Swistir ar y pryd lle ceir gair mwys ar yr enw Hugues o gyfeiriad y gair Iseldireg Huisgenoten (yn llythrennol, 'cyd-letywyr'), sy'n cyfeiriad hefyd at y gair Almaene Eidgenosse (Conffederasiwnwyr) hynny yw, dinesydd un o daleithiau Conffederasiwn y Swistir.[4]
Cymru
Ymsefydlodd nifer o Hiwgenotiaid Ffrengig yng Nghymru, gan gynnwys yng Nghwm Rhymni. Mae'r gymuned a grëwyd yno yn dal i gael ei adnabod fel Fleur de Lys (symbol Ffrainc), enw pentref Ffrangeg anarferol yng nghanol cymoedd Cymru. Ar wahân i enw pentref Ffrengig a thîm rygbi lleol, Clwb Rygbi Fleur De Lys, bychan iawn yw ôl y dreftadaeth Ffrengig.