Interpretatio romana

Defnyddir y term Lladin interpretatio romana i gyfeirio at arfer y Rhufeiniaid, yn enwedig yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig pan ymledodd eu grym, i roi enwau Rhufeinig ar dduwiau a duwiesau "barbaraidd", h.y. duwdodau brodorol nad oedd yn rhan o fytholeg a chrefydd y Byd Clasurol. Daw'r enw o gyfeiriad yn y llyfr Germania gan Tacitus at ddau o dduwiau'r Germaniaid a uniaethir ganddo â'r efeilliaid Castor a Pollux.[1]

Ceir nifer o allorau o'r cyfnod Rhufeinig a godwyd mewn rhanbarthau fel Prydain a Gâl sy'n cynnwys naill ai enw brodorol y duwdod Celtaidd ynghyd ag enw duwdod Clasurol neu enw Clasurol yn unig yn cael ei ddilyn gan Deae neu Deo ('I'r duw/dduwies', arfer a gyfyngir i gyflwyniadau i dduwdodau brodorol yn unig). Yn yr achos cyntaf mae hyn yn gymorth i ymchwilwyr a haneswyr i benderfynu natur a swyddogaeth duwiau a duwiesau Celtaidd. Ond ni ellir cael mwy nag awgrym o hynny, fel rheol, am fod y Rhufeiniaid yn tueddu i ddewis un agwedd yn unig ar y duwdod, agwedd a ddigwyddai gyfateb i un o'u duwdodau hwy, yn enwedig Mawrth, Apollo a Mercher.[2]

Ceir sawl enghraifft o'r interpretatio romana mewn rhannau eraill o'r Henfyd hefyd, e.e. Jupiter Ammon am un o dduwiau'r Hen Aifft.

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato