Joyce Banda

Gwleidydd o Malawia yw Joyce Hilda Banda (ganwyd Ntila, 12 Ebrill 1950).[1] Roedd hi'n Arlywydd Malawi rhwng 7 Ebrill 2012 a 31 Mai 2014. Daeth Banda yn Arlywydd yn ddilyn marwolaeth sydyn y cyn-Arlywydd Bingu wa Mutharika. Mae hi'n sylfaenydd ac arweinydd Plaid y Bobl, a grëwyd yn 2011.[2]

Joyce Banda
Ganwyd12 Ebrill 1950 Edit this on Wikidata
Zomba, Malawi Edit this on Wikidata
Man preswylNairobi Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Malawi Malawi
Alma mater
  • Atlantic International University Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, dyngarwr, ymgyrchydd, diplomydd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddMinister of Foreign Affairs, Arlywydd Malawi, Vice President of Malawi Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolUnited Democratic Front, People's Party Edit this on Wikidata
PriodRichard Banda Edit this on Wikidata
PlantAkajuwe Banda Edit this on Wikidata
Gwobr/augradd er anrhydedd, Gwobr 100 Merch y BBC Edit this on Wikidata

Yn addysgwr ac yn actifydd hawliau menywod ar lawr gwlad, hi oedd y Gweinidog Materion Tramor rhwng 2006 a 2009 ac yn Is-lywydd Malawi rhwng Mai 2009 ac Ebrill 2012.[3] Roedd wedi gwasanaethu mewn rolau amrywiol fel aelod seneddol ac fel Gweinidog Rhyw a Lles Plant cyn iddi ddod yn Arlywydd Gweriniaeth Malawi. Mae hi'n[4] sylfaenydd Sefydliad Joyce Banda, Cymdeithas Genedlaethol y Merched Busnes (NABW), Rhwydwaith Arweinwyr Merched Ifanc a'r Prosiect Newyn.

Cafodd ei geni[5] ym Malemia, pentref yn Ardal Zomba yn Nyasaland (Malawi bellach).[6][7] Roedd ei thad yn gerddor band pres yr heddlu. Nid yw'n berthynas â'r cyn-unben Hastings Banda.[8]

Cyfeiriadau