Laura McAllister

Academydd, gwleidydd a chyn chwaraewr pêl-droed yw'r Athro Laura Jean McAllister CBE (ganed 1964) sydd yn gadeirydd Chwaraeon Cymru. Fel chwaraewr pêl-droed yn nhîm cenedlaethol merched Cymru, enillodd McAllister 24 o gapiau, a bu'n gapten y tîm. Safodd fel ymgeisydd etholiadol dros Blaid Cymru yn 1987 a 1992. Ar hyn o bryd mae'n Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethu Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

Laura McAllister
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnLaura Jean McAllister[1]
Dyddiad geni1964 (59–60 oed)
Man geniPen-y-bont ar Ogwr
SafleAmddiffynnwr
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
Millwall Lionesses
Merched Dinas Caerdydd
Tîm Cenedlaethol
1994–1998Cymru24(0)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 21:13, 15 Tachwedd 2014 (UTC).

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 21:13, 15 Tachwedd 2014 (UTC)

Fe'i penodwyd yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) yn Anrhydeddau Pen-blwydd 2016 am ei gwasanaeth i chwaraeon yng Nghymru.[2]

Gyrfa Academaidd

Derbyniodd McAllister ei addysg Uwchradd yn Ysgol Bryntirion Pen-y-bont ar Ogwr. Graddiodd o Ysgol Economeg Llundain, lle y cwblhaodd BSc (Econ.) mewn llywodraethu, ac o Brifysgol Caerdydd, lle cwblhaodd PhD mewn Gwleidyddiaeth. Bu'n Athro Llywodraethu ym Mhrifysgol Ysgol Rheolaeth Lerpwl rhwng 1998 a Hydref 2016. Mae hi'n aelod o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Mae ganddi raddau anrhydeddus o Brifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, a Phrifysgol Abertawe[3].

Gyrfa wleidyddol

Safodd fel ymgeisydd Plaid Cymru yn Etholiad cyffredinol 1987 yn etholaeth Penybont ar Ogwr, ac yn etholaeth Ogwr yn Etholiad cyffredinol 1992.

Roedd yn aelod o Fwrdd Cydnabyddiaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru o 2014 i 2015, yn gynghorydd i'r Panel Annibynnol ar Dâl a Chefnogaeth Aelodau'r Cynulliad o 2008 i 2009, ac yn aelod o Gomisiwn Richard rhwng 2002 a 2004.

Bu'n aelod o fwrdd Stonewall o 2012 i 2015, ac ar hyn o bryd mae'n aelod o fwrdd Y Sefydliad Materion Cymreig.

Gyrfa Pêl-droed

Gyrfa clwb

Ni chwaraeodd McAllister bêl-droed dan drefn ffurfiol nes iddi ymuno â'r Millwall Lionesses wrth astudio yn Ysgol Economeg Llundain. Ar ôl iddi ddychwelyd i Gymru treuliodd 12 mlynedd gyda Dinas Caerdydd.[4] Casglodd McAllister ddwy fedal enillwyr Cwpan Merched Cymru a enillodd ddyrchafiad i Uwch Gynghrair Merched Cymru gyda Chaerdydd.[5]

Gyrfa ryngwladol

Yn 1992 roedd McAllister yn un o dri bêl-droediwr benywaidd a bwysodd ar ysgrifennydd Cymdeithas Bêl-Droed Cymru (FAW), Alun Evans i roi cydnabyddiaeth i bêl-droed merched yng Nghymru.[6] Rhoddwyd tîm swyddogol at ei gilydd a chystadlodd yn nhwrnamaint cymhwyster i Bencampwriaeth Merched UEFA 1995. Gwnaeth McAllister ei ymddangosiad cyntaf i Gymru yn yr ail gêm, ac fe drechwyd Cymru 12-0  gan yr enillwyr yn y pen draw, yr Almaen yn Bielefeld.

Llyfryddiaeth

Mae'r Athro McAllister wedi cyhoeddi nifer o lyfrau gan gynnwys;

  • Plaid Cymru: The Emergence of a Political Party; Seren 2001 ASIN B019TLTNMG
  • Women, Politics and Constitional Change: The First Years of the National Assembly for Wales (Politics & Society in Wales); gyda Paul Chaney a Fiona Mackay; Prifysgol Cymru 2007 ASIN B01K0TPJ9M
  • Dafydd Ellis Thomas: A Biography; Prifysgol Cymru 2008 ISBN 978-0708318300

Cyfeiriadau

Dolenni allanol