Lida Gustava Heymann
Awdures o'r Almaen a'r Swistir oedd Lida Gustava Heymann (15 Mawrth 1868 - 31 Gorffennaf 1943) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, heddychwr ac ymgyrchydd dros heddwch.
Lida Gustava Heymann | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 15 Mawrth 1868 ![]() Hamburg ![]() |
Bu farw | 31 Gorffennaf 1943 ![]() Zürich ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, ysgrifennwr, ymgyrchydd heddwch, golygydd ![]() |
Partner | Anita Augspurg ![]() |
Fe'i ganed yn Hamburg, yr Almaen ar 15 Mawrth 1868; bu farw yn Zürich, Swistir ac fe'i claddwyd ym Mynwent Fluntern. [1][2][3][4][5]
Roedd Lida Gustava Heymann yn un o ffeministiaid mwyaf blaenllaw mudiad menywod ymhlith uchelwyr yr Almaen, yn enwedig y Cymdeithas Grwpiau Menywod (Almaeneg: Verband Fortschrittlicher Frauenvereine), law yn llaw gyda'i phartner Anita Augspurg. Yn wir, yn 1902, gydag Anita sefydlodd, ar droad y ganrif, gymdeithas etholfraint, er mwyn ymgyrchu dros yr hawl i ferched bleidleisio: Cymdeithas yr Almaen dros Hawliau Pleidleisio i Fenywod (Almaeneg: Deutscher Verband für Frauenstimmrecht). Hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd y ddwy wedi dylanwadu'n drwm ar y mudiad etholfraint menywod yr Almaen.[6][7]
Yn Hamburg, cyn troad y ganrif, roedd eisoes wedi sefydlu canolfan merched gydag arian a etifeddodd gan ei theulu, canolfan a oedd yn cynnig cinio i fenywod sy'n gweithio, yn ogystal â meithrinfa ddydd, i fabanod, a chanolfan gwnsela. Yn ddiweddarach daeth yn gyd-sylfaenydd ysgol uwchradd gymysg a chymdeithasau proffesiynol sefydledig ar gyfer gweithwyr masnachol benywaidd ac ar gyfer artistiaid llwyfan.
Fel cyd-sylfaenydd y mudiad gwahardd alcohol yn yr Almaen, daeth wyneb-yn-wyneb â'r gyfraith pan fu'n protestio yn Hamburg yn erbyn trin puteiniaid ac ymgyrchodd yn erbyn puteindra gan y wladwriaeth. Gydag Anna Pappritz yn Berlin, sefydlodd gangen o'r Ffederasiwn Diddymwyr Rhyngwladol, yn Hamburg.
Aelodaeth
Bu'n aelod o Bwyllgor Rhyngwladol Menywod dros Heddwch Parhaol am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
Rhai cyhoeddiadau
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/4d/Broschuere_Deutscher_Verband_f%C3%BCr_Frauenstimmrecht_1907.jpg/220px-Broschuere_Deutscher_Verband_f%C3%BCr_Frauenstimmrecht_1907.jpg)
- Das kommunale Wahlrecht der Frauen im Deutschen Reiche. Kastner und Callwey Verlag, München 1910.
- Wird die Mitarbeit der Frauen in den politischen Männerparteien das Frauenstimmrecht fördern? Dietrich Verlag, Leipzig 1911.
- Frauenstimmrecht und Völkerverständigung. Leipzig 1919.
- Erlebtes - Erschautes. Deutsche Frauen kämpfen für Freiheit, Recht und Frieden, 1850-1940 ; ISBN=3927164437