Llydandroed llwyd
Llydandroed llwyd Phalaropus fulicarius | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Charadriiformes |
Teulu: | Scolopacidae |
Genws: | Llydandroed Gyddfgoch |
Rhywogaeth: | Phalaropus fulicarius |
Enw deuenwol | |
Phalaropus fulicarius | |
![]() | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Llydandroed llwyd (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: adar llydandroed llwydion) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Phalaropus fulicarius; yr enw Saesneg arno yw Grey phalarope. Mae'n perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn P. fulicarius, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Ar restr yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (UICN), caiff y rhywogaeth hon ei rhoi yn y dosbarth 'Lleiaf o Bryder' o ran niferoedd, bygythiad a chadwraeth.[3]
Teulu
Mae'r llydandroed llwyd yn perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Gïach Affrica | Gallinago nigripennis | ![]() |
Gïach Asia | Limnodromus semipalmatus | ![]() |
Gïach Japan | Gallinago hardwickii | ![]() |
Gïach Madagasgar | Gallinago macrodactyla | ![]() |
Gïach Magellan | Gallinago paraguaiae | ![]() |
Gïach brongoch | Limnodromus griseus | ![]() |
Gïach cawraidd | Gallinago undulata | ![]() |
Gïach coed | Gallinago nemoricola | ![]() |
Gïach gylfinhir | Limnodromus scolopaceus | ![]() |
Gïach mynydd y De | Gallinago jamesoni | ![]() |
Gïach mynydd y Gogledd | Gallinago stricklandii | ![]() |
Gïach rhesog | Gallinago imperialis | ![]() |
Gïach unig | Gallinago solitaria | ![]() |
Gïach y Paramo | Gallinago nobilis | ![]() |
Y Llydandroed Llwyd yng Nghymru
Dyma hen ysgrif papur newydd air am air o 1899 am y llydandroed... a hynny yn annisgwyl efallai, yn y Gymraeg:
- Y PHALAROPE.
- Drwg genyf ddarfod i mi yn fy ysgrif frysiog ar nodweddion y Phalarope esgeuluso rhoddi yr enw Cymraeg wrth yr hwn yr adnabyddir yr aderyn uchod, sef yw hyny, Pibydd Llwyd Llydandroed. Da genyf ddeall trwy lythyr Mr RLM Pritchard yn y Cymro cyn y diweddaf fod yr aderyn prydferth uchod yn fwy cyffredin yn Mhrydain nag y bu. Diamhau genyf fod y fath honiad yn sylfaenedig ar awdurdod gadarn, neu ni fuasai ef yn gwrthddweyd geiriau ei gyfaill. Yr oll a ddywedaf mewn amddiffyniad yw nad wyf ond yn unig rhyw bwt bychan o ednogaethwr ymarferol, yn hoffi cwmni adar er yn blentyn, ac yn fy alltudiaeth yn derbyn llawer iawn o fwynhad wrth sylwi ar eu dull dyddorol o fyw ond pan ddigwydd i un dyeithr ymddangos yn eu plith, rhaid fydd i mi droi i ymgynghori a'r awdurdodau, ac felly y bu y tro hwn yn achos yr aderyn a elwir gan y naturiaethwr bydenwog, y Parch F. 0. Morris, B.A., yn Bibydd, &c.
- Rhaid i mi addef nad oeddwn yn hoffi ei enw Cymraeg, Mr Gol., gan nad beth yw ei ystyr wreiddiol. Mewn perthynas i'w gyffredinolrwydd yn y parthau hyn, gellir dweyd, ar awdurdod Mr Henry Ecroyd Suiith, ddarfod i ddau ohonynt gael eu saethu yn Crosby yn 1863, ac un yn fwy diweddar yn ardal Bidston, ond y cyntaf a welais erioed yn fyw ydyw yr un sydd yn cael ei arddangos y dyddiau hyn yn ffenestr Mr W. Cox, 36, Manchester Street, Lerpwl.[4]
Gweler hefyd
- Rhestr Goch yr IUCN
- Rhestr o greaduriaid morol gwledydd Prydain
- Rhestr Goch yr IUCN, rhestr o greaduriaid wedi'u dosbarthu i 9 categori yn ôl niferoedd, prinder, cadwraeth ayb.
- Llwybr yr Arfordir
- Cadwraeth
Cyfeiriadau
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/77/Open_Access_logo_PLoS_transparent.svg/12px-Open_Access_logo_PLoS_transparent.svg.png)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/c/c4/Llen-Natur-1-transparent.png/45px-Llen-Natur-1-transparent.png)