Llygad cath

Dyfais adlewyrchol sy'n cael ei roi ar wyneb ffordd er mwyn hybu diogelwch yw llygad cath.

Mae sfferau adlewyrchol yn cael eu gosod mewn casyn i greu'r 'llygad cath'.

Cafodd y ddyfais ei ddylunio gyntaf yn Lloegr yn 1934. Eu dyfeisydd oedd Percy Shaw o Boothtown, Halifax yng Ngorllewin Swydd Efrog, Lloegr. Pan dynnwyd cledrau'r tram o faestref Ambler Thorn gerllaw, sylwodd Shaw ei fod wedi bod yn defnyddio'u hadlewyrchiad i'w helpu i deithio yn y nos.[1] Daw'r enw "llygad cath" o'r hyn roddodd ysbrydoliaeth i ddyluniad Shaw: adlewyrchiad y golau mewn llygaid cath. Rhoddodd batent ar ei ddyfais yn 1934 (rhifau patent. 436,290 a 457,536), ac ar 15 Mawrth 1935, sefydlodd Reflecting Roadstuds Limited yn Halifax i'w gweithgynhyrchu.[2][3] Yr enw Catseye yw eu nod masnach.[4] Roedd y lens adlewyrchol wedi'i ddyfeisio chwe blynedd ynghynt gan Richard Hollins Murray, cyfrifydd o Swydd Henffordd[5][6]. Roedd Shaw yn cydnabod bod rhain wedi cyfrannu i'w syniad.[1]

Roedd 'llygad cath' yn ei ffurf wreiddiol yn cynnwys dau sffer gwydr wedi'u gosod mewn casyn, a rheini sy'n cael eu defnyddio i farcio canol y ffordd, gyda phar o lygaid cath yn wynebu bob cyfeiriad. Mae llygaid cath yn arbennig o wethfawr mewn niwl ac maent yn gallu gwrthsefyll difrod gan erydr eira.

Mae llygaid cath yn cael eu defnyddio trwy'r byd erbyn hyn.

Cyfeiriadau