Maes Awyr Ryngwladol y Fam Teresa, Tirana

maes awyr ryngwladol Albania

Maes Awyr Ryngwladol y Fam Teresa, Tirana neu (Albaneg: Aeroporti Ndërkombëtar i Tiranës Nënë Tereza, Saesneg: Tirana International Airport Nënë Tereza; côd ryngwladol IATA: TIA, ICAO: LATI), a elwir yn gyffredin yn Faes Awyr Rinas, yw prif awyrfa ryngwladol Albania.

Maes Awyr Ryngwladol y Fam Teresa, Tirana
Mathmaes awyr rhyngwladol, maes awyr, erodrom traffig masnachol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlTirana, Y Fam Teresa Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1957 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Tirana, Sir Durrës, Krujë Municipality, Kamëz Edit this on Wikidata
GwladBaner Albania Albania
Uwch y môr38 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.4147°N 19.7206°E Edit this on Wikidata
Nifer y teithwyr7,257,634 Edit this on Wikidata
Map
Rinas
Tu fewn terfynnell, 2016

Enwyd yr awyrfa ar ôl Y Fam Teresa yn 2002. Roedd hi'n leian a chenhades Catholig yn yr India. Lleolir y maesawyr ym mhentref Rinas sydd 11 km i'r gogledd orllewin o brifddinas Albania, Tirana.

Mae'r maes awyr yn un o'r rhai prysuraf yn y Balcan gan ddygymod gyda 2.6 teithiwr yn 2017. Dinasoedd eraill Ewrop yw ei phrif gyrchfannau. Mae'n gweithredu fel canolfan ar gyfer y cwmni hedfan domestig, Albawings a fel 'focus city' ar gyfer Adria Airways, Blue Panorama Airlines ac Ernest Airlines.[1]

Hanes

Hen awyrfa Tirana, golygfa o du fewn awyren am allan, 1978
Awyrfa Ryngwladol y Fam Teresa, Tirana cyn y dyluniad newydd, 2004

Roedd gan Albani wasanaeth hedfan fasnachol ryngwladol cyn yr Ail Ryfel Byd pan oedd awyr domestig Iwgoslafia, Aeroput yn gweithredu hediadau cyson rhwng Belgrâd a Tirana a glaniad yn Dubrovnik. Adeiladwyd y maes awyr ar y safle yn Rinas rhwng 1955 a 1957. Gyda cwymp Comiwnyddiaeth yn 1991 a'r rhyddhau'r farchnad a ddaeth yn sgîl hynny, gwelwyd cynnydd sydyn yn nifer y cwmniau hedfan oedd yn defnyddio'r awyrfa.

Cyfredol

Mae offer y maes awyr wedi'i foderneiddio'n sylweddol, yn dilyn buddsoddiad gan gonsortiwm Tirana International Airport SHPK, a gymerodd reolaeth dros y maes awyr ar 23 Ebrill 2005, ar ôl ennill consesiwn am gyfnod o ugain mlynedd. Mae'r contract consesiwn yn golygu adeiladu terfynell deithwyr hollol newydd a gwahanol welliannau i'r seilwaith, gan gynnwys adeiladu llwybr mynediad newydd. Bydd y gwaith newydd yn gwella'r gwasanaethau a gynigir i deithwyr yn sylweddol. Fodd bynnag, nid oes gan y maes awyr bontydd glanio sy'n caniatáu i deithwyr drothwyo (board) ac dad-drothwyo awyren heb orfod gadael y terfynell. Gyda'r gwelliannau hyn, bydd gan y maes awyr y gallu i ddelio gyda traffig teithwyr Albania am y 10-15 mlynedd nesaf.

Cyrraedd y Maes Awyr

CarCysylltir y maes awyr gan draffordd SH60 (10 km i ffwrdd) i ffordd fynedfa SH2 Durres -Tirana. Ceir gwasnaethau tacsi a llogi car yn yr awyrfa. Mae siwrne o Tirana i'r awyrfa yn cymryd oddeutu 20-25 munud (yn ddibynnol ar y traffig).

BwsMae bws awyrfa, Rinas Express, wedi ei lleoli y tu allan i derfynnell 'cyrraedd' ac yn gadael ar yr awr bob awr (8.00am - 7.00pm) am ganol dinas Tirana. Hyd y daith yw oddeutu 25 - 30 munud. Mae'r Rinas Express yn gwasanaethau 12 awr (6.00am i 6.00pm) fel gwasanaeth rhwng y maes awyr a'r Amgueddfa Genedlaethol yng nghanol dinas Tirana. Cost tocyn un ffordd yw 250 Lek. O ddinas Durres, pris tocyn sengl yw 480 Albanian Lek

Traffig

Teithwyr, cwmnïau awyrenau ac ystadegau cargo yn Awyrfa Nënë Tereza Airport
BlwyddynTeithwyrNewidCwmmni AwyrenNewidCargo
(metric tons)
Newid
2005785,000 20.77%15,400N.A.N.A.N.A.
2006906,103 15.43%15,856 2.96%2,435N.A.
20071,105,770 22.04%18,258 15.15%3,832 57.37%
20081,267,041 14.58%19,194 5.13%2,497 34.84%
20091,394,688 10.07%20,064 4.53%2,265 9.29%
20101,536,822 10.19%20,768 3.51%2,355 3.97%
20111,817,073 18.24%22,988 10.69%2,656 12.78%
20121,665,331 8.35%20,528 10.70%1,875 29.41%
20131,757,342 5.53%19,942 2.85%2,164 15.41%
20141,810,305 3.02%17,928 3.02%2,324 13.53%
20151,997,044 10.3%20,876 16.4%2,229 4.1%[2]
20162,195,100 11.3%22,352 7.1%2,200 1%[3]
20172,630,338 19.8%24,336 9%2,266 3%[4]
2018 (01.01 - 28.02)368,706 11.0%3606 6.9%349 7.7%[5]

Llwybrau Prysuraf

Llwybrau Prysuraf Awyrfa Tirana
RankCyrchfanMaes/Meysydd awyrNifer y Teithwyr 2017[6]Prif carriers
1 MilanMXP, BGY390.735Blue Panorama Airlines, Ernest Airlines
2 RhufainFCO323.322Alitalia, Blue Panorama Airlines
3 IstanbulIST, SAW235.286Pegasus Airlines, Turkish Airlines
4 ViennaVIE174.363Austrian Airlines
5 PisaPSA123.005Albawings, Ernest Airlines
6 VeronaVRN118.646Blue Panorama Airlines, Ernest Airlines, Volotea
7 BolognaBLQ116.158Blue Panorama Airlines, Ernest Airlines
8 LondonLGW, STN96.865Albawings, British Airways, Small Planet Airlines
9 FrankfurtFRA90.286Adria Airways, Lufthansa
10 AthenATH84.860Aegean Airlines

Cyfeiriadau