Malws Melys

(Ailgyfeiriad o Malws melys)

Melysfwyd wedi'i wneud o siwgr neu surop corn, dŵr a gelatin ydy Malws Melys[1][2] (neu Morhocys[3]). Caiff y cynhwysion eu cymysgu i wead sbyngaidd, eu mowldio'n ddarnau silindrog a'u gorchuddio â chorn starts. Mae rhai ryseitiau'n defnyddio wyau er mwyn uno'r gymysgedd tra bod eraill yn defnyddio cig eidion. Fersiwn melys modern o'r melysfwyd meddygol a wnaed o Althaea officinalis, y planhigyn morhocys ydyw.[4]

Morhocys gwyn

Caiff malws melys eu defnyddio'n aml fel ategolyn ac addurn blasus a melys ar ben ddiod siocled poeth.

Dolenni allanol

Chwiliwch am Malws Melys
yn Wiciadur.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau