Mantell (daeareg)

Y fantell yw’r haen o’r Ddaear (neu unrhyw blaned arall) rhwng y gramen a’r graidd. Mae wedi ei gwneud o beridotit, mae’n solid, ond yn ymddwyn yn ystwyth.

Mantell
Enghraifft o'r canlynolplanetary mantle Edit this on Wikidata
Rhan oy Ddaear Edit this on Wikidata
Yn cynnwystransition zone, Mesosphere, Upper mantle, Large Low Shear Velocity Province Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Trawstoriad y Ddaear sy'n dangos y fantell

Caiff ei rhannu yn uwch-fantell ac yn is-fantell. Y ffin yw'r lleoliad lle mae newid sydyn yng nghyflymder tonnau seismig. Mae hyn yn digwydd ar ddyfnder o tua 660 km. Credir fod y naid yma yng nghyflymder tonnau seismig yn gysylltiedig gyda newid yn y mineralau yn y fantell. Oherwydd y pwysau (oherwydd yr holl gerrig uwchben) mae'r atomau yn y diwedd yn methu cadw ei patrwm mewn mineral ac yn newid i fineral newydd. Credir fod y naid tau 660 km yn gysylltiedig gyda'r mineral Ringwoodite yn newid i Bridgmandite ('roedd yn cael ei alw yn Perovskite) a ferropericlase oherwydd y broses yma [1].

Cyfansoddiad mantell y Ddaear a'i bwysau (mewn canran)[2][3]
Elfen% Cyfansoddyn%
O44.8  
Mg22.8SiO246
Si21.5MgO37.8
Fe5.8FeO7.5
Ca2.3Al2O34.2
Al2.2CaO3.2
Na0.3Na2O0.4
K0.03K2O0.04
Swm99.7Swm99.1

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am ddaeareg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato